Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Neurodevelopment
- Gradd
- Gradd 8a
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-AC831-1225
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- OpTIC Centre
- Tref
- St Asaph
- Cyflog
- £56,514 - £63,623 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 28/12/2025 23:59
Teitl cyflogwr
Rheolwr Rhaglen Gwella Gwasanaethau Niwrodatblygiadol
Gradd 8a
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
A oes gennych brofiad profedig o gydweithio gyda rhwydweithiau Niwrodatblygiadol (ND) a chyfrannu iddynt ar lefelau rhanbarthol a chenedlaethol ynghyd â hyrwyddo polisi a blaenoriaethau cenedlaethol?
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a dynamig i arwain Rhaglen Niwrodatblygiadol Plant yn BIPBC. Bydd y rôl hon yn chwarae rhan allweddol wrth arwain darparu canlyniadau gwell a chynaliadwy i'n poblogaeth.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Rydym am ddod o hyd i unigolyn sy’n angerddol am newid gwasanaethau, yn ymrwymedig i wella canlyniadau cleifion, ac yn fedrus mewn arwain rhaglenni cymhleth o fewn amgylchedd gofal iechyd ac gyda phartneriaid ehangach. Bydd yn ofynnol i chi adeiladu ar a chynnal perthnasoedd cryf gyda staff clinigol a rheolwyr ar draws BCU, gan weithredu gyda hunan-bendantrwydd a chaffael hyder rhanddeiliaid mewnol ac allanol ar bob lefel.
Mae hwn yn swydd rhanbarthol i Ogledd Cymru; gall y safle gwaith fod yn hyblyg a gellir trafod trefniadau gwaith hyblyg.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Gradd a/neu gymhwyster rheoli neu broffesiynol ar lefel diploma neu wybodaeth ddangosedig gyfatebol
- Gradd meistr mewn pwnc sy'n gysylltiedig â Gofal Iechyd (neu ymrwymiad i'w gwblhau ymhen tair blynedd) neu brofiad cyfatebol.
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster rheoli neu broffesiynol ar lefel ôl-radd
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad rheoli perthnasol sylweddol yn gweithio gyda thimau amlddisgyblaethol
- Tystiolaeth o’r gallu i weithredu a rheoli newid mewn amgylchedd amlasiantaeth
- Gallu rhoi enghreifftiau o gynnydd gwirioneddol yn erbyn amcanion allweddol o ran datblygu a darparu gwasanaethau yn y GIG
- Profiad o reoli Adnoddau Dynol ac Ariannol mewn sefydliad cymhleth
- Profiad o reoli materion adnoddau dynol a datrys gwrthdaro
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Fiona Wright
- Teitl y swydd
- CAMHS Programme Management Business Lead
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 854455
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector







.png)
