Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Cyllid
- Gradd
- Gradd 8A
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-AC253-0726
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- I'w gadarnhau
- Tref
- I'w gadarnhau
- Cyflog
- £58,379 - £65,723 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 15/07/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Uwch Gyfrifydd Ariannol: Cronfeydd Elusennol a Llywodraethu Ariannol
Gradd 8A
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Mae'r swydd yn gyfrifol am ddyletswyddau Cronfeydd Elusennol a Llywodraethu Ariannol y Bwrdd Iechyd. Mae'n ofynnol i ddeiliad y swydd fod yn gyfrifydd cymwys, profiadol er mwyn cyflawni'r rôl â gallu amlwg o weithio ar y lefel hon o arbenigedd a gwybodaeth.
Mae deiliad y swydd yn uwch-swyddog ariannol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a disgwylir i ddeiliad y swydd gyfrannu'n sylweddol gynaliadwyedd ariannol, rheolaeth ariannol a'r strwythur rheoleiddiol y mae'r Bwrdd Iechyd yn gweithredu o'i fewn.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Cefnogi'r Cronfeydd Elusennol yn strategol ac yn weithredol a sicrhau eu bod yn cael eu derbyn a'u defnyddio mewn modd effeithiol ac effeithlon. Sicrhau bod gan y Bwrdd Iechyd systemau effeithiol ar waith i reoli incwm a gwariant Cronfeydd Elusennol er mwyn sicrhau y cynhelir materion ariannol yn gyfreithiol, yn effeithlon ac yn economaidd.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac
Monitro Cronfeydd Elusennol y Bwrdd Iechyd cyfan. Creu papurau ariannol gan gynnwys polisïau a gweithdrefnau cymwys ar gyfer y Pwyllgor Cronfeydd Elusennol ac ymateb i ymholiadau yn effeithiol.
Arwain yr holl waith cyfrifyddu ac adrodd ar Gronfeydd Ariannol y Bwrdd Iechyd yn unol â gofynion statudol Llywodraeth Cymru a'r Bwrdd Iechyd.
Paratoi a chyflwyno'r Cyfrifon Elusennol Blynyddol i'r Comisiwn Elusennau, o fewn terfynau amser. Helpu archwilwyr mewnol ac allanol yr Ymddiriedolwyr gydag unrhyw faterion a all godi yn ystod eu harchwiliad gorfodol a sicrhau bod yr holl welliannau a nodwyd i lywodraethu ariannol yr Elusen yn cael eu gweithredu. Bydd deiliad y swydd yn rheoli'r gofynion archwilio blynyddol a'r Archwiliad Mewnol (sydd ar hyn o bryd ar gylchred o tua 3 wythnos, bob dwy flynedd.)
Manyleb y person
Qualifications
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster CCACB – Aelod cymwys o gorff cyfrifyddu proffesiynol (e.e. CIPFA. CIMA, ICAEW etc) sy'n gyfatebol â Gradd Meistr Lefel 7.
- Tystiolaeth o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus
- Profiad o lunio cofnodion ariannol diwedd y flwyddyn ar gyfer Elusen
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth o weithio mewn Adran Gyllid yn y GIG neu mewn Sector Cyhoeddus
- Gwybodaeth arbenigol am ddeddfwriaeth a pholisïau ariannol Cronfeydd Elusennol.
Experience
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio â gofynion Datganiad yr Elusen o'r Arfer a Argymhellir a Llawlyfr Cyfrifyddu Llywodraeth Cymru, Rheolau Sefydlog a Chyfarwyddiadau Ariannol Sefydlog.
- Dehongli a gweithredu polisïau cyfrifyddu cymhleth yn strategol yng nghyd-destun sefydliad GIG integredig mawr.
- Yn gallu dehongli deddfwriaeth, canllawiau cenedlaethol fel y bo'n briodol i'r rôl. Gwneud newidiadau mewn rheoliadau cyfrifyddu cymhleth ar draws ystod eang o destunau.
- Datblygu systemau rheolaeth ariannol cyfrifiadurol.
Meini prawf dymunol
- Profiad o baratoi'r Cynllun Cadw a Dirprwyo.
- Profiad o wella systemau a phrosesau o amgylch rheolaeth a gonestrwydd ariannol.
Skills
Meini prawf hanfodol
- Brwdfrydig, ymrwymedig, rhagweithiol ac arloesol. Mae'n arwain drwy esiampl Yn gwerthfawrogi amrywiaeth a gwahaniaeth, gan weithredu gydag uniondeb a bod yn agored.
- Hygrededd personol gyda'r gallu i ennyn hyder yn gyflym.
- Lefel uchel o drefnu, hunangymhelliant a hyblygrwydd mewn dull ac agwedd.
- Y gallu i weithio fel rhan o dimau amlddisgyblaethol ar lefel strategol a gweithredol, y tu mewn a'r tu allan i'r Bwrdd Iechyd.
- Y gallu i weithio ar eich liwt eich hun, gan drefnu eich llwyth gwaith eich hun a llwyth gwaith eraill i sicrhau bod y tîm yn gweithredu'n effeithiol.
Meini prawf dymunol
- Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar lefel 1 o ran deall, siarad, darllen ac ysgrifennu yn Gymraeg
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Natalie Morrice-Evans
- Teitl y swydd
- Executive Assistant
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 0300 085 4618
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector







.png)
