Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Rheolwr Busnes Caffael
Gradd 6
Os ydych am ymuno â PCGC, gweler yr wybodaeth ychwanegol isod a allai fod o ddiddordeb i chi:-
Cliciwch yma am nesges gan ein Rheolwr Gyfarwyddwr:- Swyddi Gwag Cyfredol - Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
Mae ein fideo “Buddion” wedi’i greu i amlygu ac arddangos rhai o fuddion gweithio i’r GIG a PCGC:-
https://youtu.be/f0uCOjau8K0?si=yTKfnEKoWJ1kWyWz
Mae’r fideo “Awgrymiadau Da – Byddwch yn chi’ch Hun” wedi’i gynllunio i gefnogi ymgeiswyr sy’n gwneud cais am rolau gyda PCGC. Rydym wedi amlinellu 8 cam allweddol i helpu ymgeiswyr i fynegi eu galluoedd a’u profiad wrth gwblhau ceisiadau gyda PCGC. - https://youtu.be/ZawLc_IvcX8?si=xR89FCPYJTEiU1kM
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff cais sydd wedi ei gyflwyno yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais sydd wedi ei gyflwyno yn y Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
MAE’R SWYDD HON AM GYFNOD PENODOL/SECONDIAD AM 31ST MAWRTH 2025 OHERWYDD CYFNOD SECONDIAD.
Os ydych yn chwilio am yrfa ym maes Caffael sy'n eich ysgogi, yn cynnig potensial ar gyfer datblygiad personol ac yn eich rhoi mewn sefyllfa i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i'r GIG Cymru, yna mae gan Wasanaethau Caffael PCGC yrfa a fydd o ddiddordeb i chi.
Mae Gwasanaethau Caffael PCGC yn gyflogwr sefydledig sy'n cefnogi darparu nwyddau a gwasanaethau i GIG Cymru. Ein nod yw bod yn “ymgynghorydd y gellir ymddiried ynddo” ac yn bartner hollbwysig i’n cwsmeriaid ar bob mater yn ymwneud â chaffael. Rydym yn ceisio bod yn sefydliad sy’n cael argraff gadarnhaol ar bobl sy’n gweithio i ni a chyda ni, wrth gydymffurfio â set glir o werthoedd sydd wrth wraidd popeth a wnawn. Rydym yn gyflogwr arobryn, ac rydym yn cael ein cydnabod yn rheolaidd yn lleol ac yn genedlaethol am y gwaith a wnawn dros GIG Cymru ym myd caffael.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae'r rôl yn cynnwys rheoli categori gwariant ar draws yr holl Fyrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau o fewn GIG Cymru, bydd yn ofynnol i'r Rheolwr Categori weithio gydag aelodau eraill yn y tîm a rhanddeiliaid ar bob lefel i sicrhau bod y strategaeth categori yn cael ei chyflawni'n effeithiol yn unol â nodau sefydliadol a pholisi.
Mae'r tîm wedi'i leoli yn Nhŷ'r Cwmnïau yng Nghaerdydd gydag elfen o weithio gartref/ystwyth fel rhan o'r rôl.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg fel ei gilydd wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Mae gennym safonau uchel ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru ac rydym yn disgwyl i bawb ymgorffori ein gwerthoedd Gwrando a Dysgu, Gweithio Gyda'n Gilydd, Cymryd Cyfrifoldeb ac Arloesi, tra'n sicrhau bod ymddiriedaeth, gonestrwydd a thosturi yn rhan annatod o bopeth a wnawn.
Rydym yn hyblyg, yn ystwyth ac yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn sefydliad sy’n dysgu, lle mae’n ddiogel gwneud camgymeriadau, lle caiff bai ei ddisodli gan gyfleoedd i ddysgu a gwella. Mae arloesi yn rhan o bopeth a wnawn.
Cydnabyddwn ein pobl yn rheolaidd trwy'r Orsaf Werthfawrogi, i annog staff i ganmol ymddygiad rhagorol ymysg ei gilydd ac fe gynhelir seremoni Gwobrau Cydnabyddiaeth Staff Blynyddol sy'n cyd-fynd â'n gwerthoedd.
Rydym yn parchu ac yn gwerthfawrogi ein pobl ac yn ymdrechu i greu diwylliant o dosturi a chynwysoldeb. Rydym yn sefydliad dwyieithog sydd â thîm o Hyrwyddwyr Newid sy’n hyrwyddo ‘Dyma Ein PCGC’ ein prif raglen newid. Yn yr un modd, BALCH yw ein rhwydwaith staff newydd sy’n croesawu cydweithwyr a chynghreiriaid LHDT+ i ddod ynghyd mewn man diogel i gael trafodaethau, i gynllunio digwyddiadau ac i gael y cyfle i adeiladu rhwydweithiau cefnogol.
Mae gennym becyn buddion cynhwysfawr lle mae rhywbeth at ddant pawb. Mae’n cefnogi iechyd, ymgysylltiad a lles ac mae’n cynnwys Rhaglen Cymorth i Weithwyr. Mae gennym dros 30 o Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl ac rydym yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau lleol a chenedlaethol i sicrhau llesiant a gwydnwch ein pobl.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Yn gymwysedig hyd at CIPS Lefel 5 (Diploma Uwch) neu Wybodaeth / Profiad CIPS cyfwerth y gellir eu harddangos gan ddefnyddio’r adrannau “profiad” a “gwybodaeth” isod
Meini prawf dymunol
- ILM Lefel 4 neu gymwysterau rheoli eraill
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad pendant o gyflawni prosiectau caffael cymhleth
- Profiad o reoli mwy nag un prosiect ar y tro
- Profiad o ymdrin â deddfwriaeth contract, materion cydymffurfio ac uniondeb
- Sicrhau arbedion
- Profiad o reoli / goruchwylio staff / pobl
- Profiad o reoli risg
- Profiad o reoli categori
- Profiad o ymgysylltu ag ystod eang o randdeiliaid a'u rheoli mewn modd proffesiynol
Meini prawf dymunol
- Ymwybyddiaeth o safonau Ansawdd a gweithio gyda pholisïau a gweithdrefnau ISO.
- Profiad cynllunio busnes
Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Casglu data cynhwysfawr
- Gyfleu gwybodaeth gymhleth
- Sgiliau dylanwadu a chyd-drafod
- Hyfedredd mewn TG
- Gallu i sefydlu a chryfhau perthnasoedd gweithio effeithiol â rhanddeiliaid
Meini prawf dymunol
- Y gallu i ddeall amrywiaeth o wybodaeth gymhleth am gynnyrch categori
Arall
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Keir Warner
- Teitl y swydd
- Head of Operational Procurement
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07852 717067
Rhestr swyddi gyda GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau yn Nyrsio a bydwreigiaeth neu bob sector