Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Gweinyddiaeth
- Gradd
- Gradd 4
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 028-AC024-0226
- Cyflogwr
- Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Parc Bocam
- Tref
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Cyflog
- £27,898 - £30,615 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 02/03/2026 23:59
Teitl cyflogwr
UWCH DDADANSODDWYR CYMORTH BUSNES A CHOSTIO
Gradd 4
Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru, asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru
Ein gweledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru
Am ragor o wybodaeth amdanom, ewch i’n tudalen hafan, darllenwch am ein cynllun strategol
Dilynwch ni ar Twitter, Facebook, LinkedIn and Instagram
Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â'r Gyfarwyddiaeth Perfformiad a Chyflawni Ariannol (FP&D) fel Uwch Ddadansoddwr Cymorth Busnes a Chostio rhagweithiol, trefnus a dadansoddol. Bydd deiliad y swydd yn gweithio'n agos gyda'r Rheolwr Cymorth Busnes a’r Cyfarwyddwr Cynorthwyol ar gyfer Costio Strategol, a bydd hefyd yn gweithio ar draws y tîm cyfan i helpu i gynnal swyddogaethau busnes a gweinyddol corfforaethol effeithiol wrth gefnogi’r gwaith o ddatblygu, rheoli prosesau a dadansoddi Ffurflenni Costio Cymru (WCRs). Byddwch yn gyfforddus yn rheoli llwyth gwaith sylweddol, yn hyderus wrth gysylltu ag uwch randdeiliaid mewnol ac allanol, ac yn gyfarwydd â system ariannol Oracle, yn enwedig prosesau archebu.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae hon yn swydd hollbwysig o fewn y tîm sy’n helpu'r Gyfarwyddiaeth i weithredu'n effeithlon ac yn effeithiol mewn amgylchedd proffil uchel sy’n symud yn gyflym, a hynny wrth gynnal perthnasoedd mewnol ac allanol cryf.
Yn y rôl amrywiol a hanfodol hon, bydd yr Uwch Ddadansoddwr Cymorth Busnes a Chostio yn cynorthwyo'r Rheolwr Cymorth Busnes i ddarparu cymorth busnes a gweithredol proffesiynol i'r Gyfarwyddiaeth, a hynny er mwyn sicrhau bod swyddogaethau corfforaethol a gweinyddol yn rhedeg yn esmwyth ar draws y tîm.
Bydd deiliad y swydd hefyd yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi'r Cyfarwyddwr Cynorthwyol ar gyfer Costio Strategol a'i dîm, ac yn cynorthwyo gyda datblygu, rheoli prosesau a dadansoddi Ffurflenni Costio Cymru a data cysylltiedig.
Gweithio i'n sefydliad
Iechyd Cyhoeddus Cymru ydym ni – yr asiantaeth iechyd y cyhoedd genedlaethol yng Nghymru. Ein pwrpas yw ‘Gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru Iachach’. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach, iachach a hapusach. Gyda'n partneriaid, rydym yn gweithio i gynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, yn awr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Mae ein timau'n gweithio i atal clefydau, diogelu iechyd, a darparu arweinyddiaeth, gwasanaethau arbenigol ac arbenigedd iechyd y cyhoedd. Ni yw prif ffynhonnell gwybodaeth, ymchwil ac arloesedd iechyd y cyhoedd yng Nghymru. Mewn byd sy'n wynebu heriau iechyd cymhleth, nid yw ein gwaith erioed wedi bod mor bwysig.
Rydym yn cael ein harwain gan ein Gwerthoedd, 'Gweithio gyda'n gilydd, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth'. Rydym wedi ymrwymo i adeiladu gweithle cynhwysol sy'n gwerthfawrogi cydraddoldeb ac amrywiaeth. Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cynrychioli amrywiaeth gyfoethog y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu ac sy'n cefnogi trefniadau gweithio hyblyg, gan gynnwys rolau rhan-amser a rhannu swyddi.
I gael gwybod rhagor am weithio i ni a’r buddion rydym yn eu cynnig, ewch i https://icc.gig.cymru/gyrfaoedd/
I gael arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i https://icc.gig.cymru/gyrfaoedd/gwybodaeth-a-chanllawiau-i-ymgeiswyr/
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Atodir Swydd-ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn gyda’r dogfennau ategol, neu cliciwch ar “Apply Now” i weddill y dogfennau yn Trac
- Cefnogi’r gwaith o gydlynu cyfarfodydd FP&D, gan gynnwys amserlennu, agendâu, paratoi a chymryd cofnodion.
- Cynorthwyo i gynnal a datblygu safleoedd SharePoint a systemau swyddfa FP&D.
- Cefnogi proses Ffurflenni Costio Cymru (WCR), gan gynnwys gwaith derbyn, dilysu a chynnal gwiriadau ansawdd data.
- Darparu cymorth gweinyddol a thechnegol i Grŵp Technegol Costio Cymru Gyfan.
- Casglu, dilysu a dadansoddi setiau data cymhleth, gan ddefnyddio Excel ac offer adrodd uwch.
- Cynhyrchu adroddiadau, crynodebau a chyflwyniadau ar gyfer uwch arweinwyr a thimau prosiect.
- Meithrin a chynnal perthnasoedd gwaith proffesiynol ar draws GIG Cymru a Llywodraeth Cymru.
- Cefnogi prosesau caffael, a gweithgareddau gweinyddiaeth ariannol a monitro cyllideb.
- Cynorthwyo gyda gweithgareddau ymsefydlu, hyfforddi a gweinyddu personél a rhoi cymorth i’r tîm.
- Sicrhau bod yr holl gofnodion, gwybodaeth a data yn cael eu storio'n briodol a’u bod yn bodloni safonau llywodraethu a diogelu data’r sefydliad.
- Cyfrannu at weithgareddau gwella parhaus a chefnogi’r gwaith o ddatblygu systemau a chanllawiau’r swyddfa.
Os ydych chi'n awyddus i wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn un o swyddogaethau cenedlaethol y GIG a ffynnu mewn swydd sy'n cyfuno gweinyddu, dadansoddi ac ymgysylltu â rhanddeiliaid, hoffem glywed gennych chi.
I gael sgwrs anffurfiol am y rôl, cysylltwch â:
I wneud cais, llenwch y ffurflen gais ar-lein drwy NHS Jobs / Trac.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- • 5 TGAU yn cynnwys Mathemateg a Saesneg neu gymhwyster cyfatebol.
- • Lefel A neu gymhwyster cyfwerth.
- • Addysg hyd at Lefel 4 a gwybodaeth a phrofiad perthnasol, neu brofiad cyfatebol amlwg
- • ECDL Uwch neu lefel gyfwerth o wybodaeth a sgiliau.
- • Gwybodaeth am lywodraethu a rheoli gwybodaeth.
Meini prawf dymunol
- PRINCE 2 Sylfaen neu gyfwerth
- Symud ymlaen i Gymhwyster Cyfrifeg proffesiynol (e.e. AAT).
- Gwybodaeth arbenigol flaenorol am gostio a gofal iechyd seiliedig ar werth.
- Dysgu a datblygiad personol amlwg.
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o gyfathrebu â staff proffesiynol ar bob lefel a’r cyhoedd.
- Profiad o ddelio â data cyfrinachol a sensitif, a chynnal a storio cofnodion yn briodol.
- Profiad o weithredu Microsoft Office Suite, a hyfedredd uwch mewn Excel a Word.
- Profiad o gymhwyso methodoleg rheoli prosiectau a monitro prosiectau sydd ar y gweill.
- Profiad o reoli systemau cyllid (e.e. archebu, monitro cyllideb)
- Profiad o weithredu polisïau a gweithdrefnau gweinyddol.
Meini prawf dymunol
- Profiad drwy gyfrannu at gostio, meincnodi, gofal iechyd seiliedig ar werth neu gynhyrchu data perfformiad.
- Profiad o fonitro dangosyddion perfformiad.
- Profiad o drefnu a gweinyddu cyfarfodydd, yn cynnwys cymryd cofnodion ffurfiol.
- Profiad gweinyddol blaenorol yn y GIG.
Sgiliau a Phriodoleddau
Meini prawf hanfodol
- Yn hyfedr wrth ddewis a defnyddio meddalwedd safonol Microsoft, fel Outlook, Teams, Word, Excel, PowerPoint.
- Dealltwriaeth drylwyr o weithdrefnau gweinyddol, yn cynnwys systemau ffeilio/data a rheoli cofnodion.
- Yn gallu gweithio’n annibynnol a rheoli eich llwyth gwaith eich hun.
- Yn gallu trefnu a gweinyddu cyfarfodydd a digwyddiadau amlddisgyblaethol.
- Dealltwriaeth amlwg ynghylch sgiliau rheoli a chyfathrebu ac yn gallu eu cymhwyso. Mae’r rhain yn cynnwys sgiliau perswadio, negodi, rheoli amser a blaenoriaethu.
- Yn gallu cyfuno a dadansoddi gwybodaeth o nifer o ffynonellau ac yn meddu ar sgiliau rhifedd a dadansoddi da.
Meini prawf dymunol
- Yn fedrus mewn delweddu a chyflwyno data.
- Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar lefelau 1 i 5 o ran deall, siarad, darllen ac ysgrifennu.
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Jessica Hammond
- Teitl y swydd
- Business Support Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector











