Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Cyfreithiol
- Gradd
- Gradd 7
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 043-AC183-1026
- Cyflogwr
- GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Tŷ'r Cwmnïau
- Tref
- Caerdydd
- Cyflog
- £50,129 - £57,365 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 22/10/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Cyfreithiwr Esgeuluster Clinigol
Gradd 7
Os ydych am ymuno â PCGC, gweler yr wybodaeth ychwanegol isod a allai fod o ddiddordeb i chi:-
Cliciwch yma am nesges gan ein Rheolwr Gyfarwyddwr
Cliciwch yma i ddarganfod beth yw barn ein staff am PCGC
Mae’r fideo “Awgrymiadau Da – Byddwch yn chi’ch Hun” wedi’i gynllunio i gefnogi ymgeiswyr sy’n gwneud cais am rolau gyda PCGC. Rydym wedi amlinellu 8 cam allweddol i helpu ymgeiswyr i fynegi eu galluoedd a’u profiad wrth gwblhau ceisiadau gyda PCGC. - https://youtu.be/ZawLc_IvcX8?si=xR89FCPYJTEiU1kM
Mae ein fideo “Buddion” wedi’i greu i amlygu ac arddangos rhai o fuddion gweithio i’r GIG a PCGC:- https://youtu.be/f0uCOjau8K0?si=yTKfnEKoWJ1kWyWz
Mae’r fideo “Awgrymiadau Da – Byddwch yn chi’ch Hun” wedi’i gynllunio i gefnogi ymgeiswyr sy’n gwneud cais am rolau gyda PCGC. Rydym wedi amlinellu 8 cam allweddol i helpu ymgeiswyr i fynegi eu galluoedd a’u profiad wrth gwblhau ceisiadau gyda PCGC. - https://youtu.be/ZawLc_IvcX8?si=xR89FCPYJTEiU1kM
Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff cais sydd wedi ei gyflwyno yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais sydd wedi ei gyflwyno yn y Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn chwilio am gyfreithiwr cymwys (Cyfreithiwr/Cymrawd Cyfreithiwr ac Eiriolwr CILEx (Sifil)/Bargyfreithiwr) ym meysydd esgeuluster clinigol, anaf personol a/neu ymholiadau cyhoeddus i ymuno â'n tîm Indemniad Ymarfer Meddygol Cyffredinol (GMPI).
Mae’r tîm yn rheoli hawliadau o esgeuluster clinigol yn erbyn y rhai sy’n gyfrifol am ddarparu Gwasanaethau Gofal Sylfaenol ar ran Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau GIG Cymru, gan gynnwys Meddygon Teulu.
Os hoffech chi wneud gwahaniaeth cadarnhaol a gweithio mewn sefydliad sydd wir yn gwerthfawrogi ei staff, bydd hyn o ddiddordeb i chi.
Bydd eich rôl wedi'i lleoli yn Nhŷ'r Cwmnïau i ddechrau.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg ymgeisio.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Rheoli llwyth achosion amrywiol o hawliadau esgeuluster clinigol ar ran GIG Cymru (gan gynnwys hawliadau yn erbyn meddygon teulu a darparwyr gwasanaethau meddygon teulu), gan roi arweiniad i feddygon teulu a chynnal eiriolaeth pan fo’n briodol.
Cefnogi cleientiaid mewn perthynas â materion Pryderon/Gwneud Iawn cleifion.
Mae hon yn rôl amrywiol a fydd yn caniatáu i ddeiliad y swydd ddatblygu ystod eang o sgiliau. Rydym yn ymfalchïo yn ein perthynas â'n cleientiaid ac ansawdd ein gwasanaeth. Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd feithrin perthnasoedd cryf â chleientiaid yn gyflym a gallu gweithio'n gyflym. Rydym wedi ymrwymo i arloesedd ac effeithlonrwydd. Rydym yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau newid ledled Cymru. Rydym wedi ymrwymo i ddatblygiad a llesiant ein staff. Darperir goruchwyliaeth er mwyn i’r cyfreithiwr fagu’r profiad angenrheidiol yn y maes gwaith hwn.
Gweithio i'n sefydliad
Ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC) rydym yn disgwyl i bawb arddel ein gwerthoedd sef: Gwrando a Dysgu, Cydweithio, Cymryd Cyfrifoldeb ac Arloesi.
Mae ein sefydliad yn annog dull gweithio ystwyth ac rydym yn ymfalchïo mewn bod yn sefydliad sy'n dysgu ac sy’n cael ei ysgogi gan welliant parhaus.
Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy’n gwerthfawrogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, gan ganolbwyntio ar lesiant a pherthyn i’n pobl.
Mae gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol yn rhywbeth yr ydym yn ymgyrraedd ato, ar gyfer ein cwsmeriaid mewnol ac allanol.
Rydym yn cynnig pecyn buddion cynhwysfawr, gyda rhywbeth i bawb. I gael gwybod mwy am weithio i ni, y buddion rydym yn eu cynnig a chanllawiau ar y broses ymgeisio ewch i https://pcgc.gig.cymru/gweithio-i-ni/
Mae PCGC yn gweithio mewn ffordd ystwyth lle bo modd. Bydd gan bob swydd ganolfan weithio gontractiol, ond fel rhan o ffyrdd ystwyth o weithio gallai hynny olygu gweithio gartref ac mewn lleoliadau eraill. Rydym hefyd yn edrych ar sut rydym yn cydbwyso hyblygrwydd gyda chymuned, a sut i reoli cyfleoedd i ddysgu oddi wrth ein gilydd.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gallwch ddod o hyd i Swydd-ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch ar “Gwneud Cais nawr” i'w
gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gradd yn y Gyfraith a Diploma Ôl-raddedig Ymarfer y Gyfraith (neu gywerth)
- Yn gymwys gyda hawliau ymgyfreitha ac eiriolaeth: Cyfreithiwr cymwys sydd wedi'i dderbyn i gofrestr cyfreithwyr Cymru a Lloegr Ymgyfreithiwr ac Eiriolwr CILEx (Sifil) Bargyfreithiwr cymwysedig wedi'i dderbyn i'r bar yng Nghymru a Lloegr(neu wedi ymrwymo i gymhwyso gyda'r hawliau hyn o fewn 6-12 mis)
- Yn meddu ar wybodaeth gyfreithiol berthnasol
Meini prawf dymunol
- Strwythur y GIG.
- Cyfraith berthnasol sy’n gysylltiedig â gofal iechyd
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad a gafwyd drwy hyfforddiant ym maes esgeuluster clinigol/anaf personol/ymchwiliadau cyhoeddus
Meini prawf dymunol
- Profiad o ddrafftio dogfennau a chyngor i gleientiaid.
- Profiad o fod yn ddiffynnydd/hawlydd mewn achosion o esgeuluster clinigol
Sgiliau a Phriodoleddau
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau TG/Hyddysg mewn cyfrifiadura i gynnwys gallu dysgu technolegau newydd a TG a gyflwynir.
- Yn gallu cyfathrebu ym mhob fformat, mewn Saesneg eglur.
- Yn gallu negodi mewn amgylchiadau sy’n aml yn anodd neu’n emosiynol
- Ymagwedd gydwybodol, hyderus, hyblyg a phroffesiynol at waith
- Yn gallu blaenoriaethu a threfnu eich gwaith eich hun
- Gallu adnabod eich galluoedd eich hun
- Tystiolaeth o sgiliau gofal cleientiaid rhagorol
Gwerthoedd
Meini prawf hanfodol
- Dangos sut mae eich rhinweddau personol yn cyfateb i werthoedd craidd PCGC: • Gwrando a Dysgu • Gweithio gyda'n gilydd • Cymryd cyfrifoldeb • Arloesi
Arall
Meini prawf hanfodol
- Yn barod i ymgymryd â datblygiad proffesiynol pellach
- Gallu teithio i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd mewn amryw leoliadau.
Meini prawf dymunol
- Mae Sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar lefelau 1 i 5 o ran deall, siarad, darllen ac ysgrifennu
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Heather Grimbaldeston
- Teitl y swydd
- Team Leader
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector












