Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Digital
- Gradd
- Band 3
- Contract
- Prentisiaeth: 24 mis (Cytundeb hyfforddi 24 mis)
- Oriau
- Llawnamser
- Gweithio hyblyg
- Cyfeirnod y swydd
- 082-AC062-0825
- Cyflogwr
- Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ty Dysgu
- Tref
- Cardiff
- Cyflog
- £25,313 - £26,999 per annum
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 21/08/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Dadansoddwr Desg Gwasanaeth Digidol Iau
Band 3
Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo cynhwysiant yn AaGIC ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb sy'n cydnabod y gwerth y mae amrywiaeth yn ei roi i'n gweithlu. I weithio yn y DU, mae angen i ymgeiswyr nad ydynt yn ddinasyddion y DU neu Weriniaeth Iwerddon (ROI) gael eu noddi trwy Fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod ganddynt ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Sylwch nad oes gan AaGIC drwydded ar hyn o bryd i benodi gweithwyr medrus o dramor drwy eu noddi i weithio yn y DU. Os byddant yn llwyddiannus, byddai ymgeiswyr o'r tu allan i'r DU neu ROI yn gyfrifol am gael eu nawdd neu fisa eu hunain i'w galluogi i weithio i AaGIC - Gweithio yn y DU - Work in the UK
Trosolwg o'r swydd
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno ag Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) fel Dadansoddwr Desg Gwasanaeth Digidol Iau ar raglen brentisiaeth 24 mis. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhan annatod o dîm y Ddesg Gwasanaeth Digidol, gan ddarparu cymorth TG rheng gyntaf i tua 750 o staff Addysg a Gwella Iechyd Cymru.
Fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer cymorth digidol, bydd y prentis yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau gwasanaeth proffesiynol, ymatebol, sy'n canolbwyntio ar y cwsmer. Byddant yn gyfrifol am ddatrys problemau technegol, cynnal cofnodion cywir, a throsglwyddo problemau mwy cymhleth i gydweithwyr uwch neu dimau cymorth ail linell.
Er y bydd y prentis yn gweithio'n bennaf ar y Ddesg Gwasanaeth Digidol, mae AaGIC wedi ymrwymo i ddarparu profiad dysgu eang a chyfoethog. I gefnogi hyn, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cylchdroi trwy wahanol dimau o fewn y Gyfarwyddiaeth Ddigidol bob ychydig fisoedd. Bydd hyn yn cynnig amlygiad gwerthfawr i wahanol feysydd o wasanaethau digidol, megis seilwaith, cymwysiadau, data a dadansoddeg, a chyflawni prosiectau, gan helpu i adeiladu sylfaen gyflawn ar gyfer gyrfa yn y dyfodol mewn digidol a TG.
Mae'r rôl hon yn ddelfrydol ar gyfer rhywun sydd â brwdfrydedd dros dechnoleg, awydd i ddysgu, ac ymrwymiad i ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol. Mae'n cynnig cyfle unigryw i ennill profiad ymarferol wrth weithio tuag at gymhwyster lefel 2 neu 3 mewn Sgiliau Digidol ar gyfer Busnes, mewn sefydliad cefnogol a blaengar.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd y Dadansoddwr Desg Gwasanaeth Digidol Iau yn aelod allweddol o dîm Desg Gwasanaeth Digidol AaGIC gan weithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer pob ymholiad cymorth digidol. Mae'r rôl yn cynnwys cofnodi, categoreiddio a blaenoriaethu digwyddiadau a cheisiadau gwasanaeth a dderbynnir dros y ffôn, e-bost, Microsoft Teams, neu'r teclyn ITSM. Bydd deiliad y swydd yn anelu at ddatrys problemau ar y cyswllt cyntaf lle bo modd ac uwchgyfeirio problemau mwy cymhleth i gefnogaeth ail linell neu gydweithwyr uwch yn ôl yr angen.
Yn ogystal â rheoli ciw tocynnau a llinell ffôn y ddesg wasanaeth, bydd y dadansoddwr yn gyfrifol am gynnal mewnflwch e-bost y ddesg wasanaeth a gweinyddu'r Gronfa Ddata Rheoli Ffurfweddiadau (CMDB). Byddant hefyd yn monitro lefelau stoc offer TG ac yn sicrhau bod yr holl asedau digidol yn cael eu cofnodi a'u cynnal a'u cadw'n iawn.
Mae'r rôl yn gofyn am sgiliau cyfathrebu a chydweithio cryf, gan y bydd y dadansoddwr yn gweithio'n agos gyda thimau mewnol a phartneriaid allanol fel Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Byddant hefyd yn cyfrannu at gronfa wybodaeth y tîm, yn darparu hyfforddiant i ddefnyddwyr ar offer Microsoft 365, ac yn cefnogi gwelliant parhaus drwy nodi cyfleoedd i wella gwasanaethau a phrosesau digidol.
Mae'r swydd hon yn galw am unigolyn rhagweithiol, sy'n canolbwyntio ar y cwsmer, a all reoli ei lwyth gwaith ei hun, addasu i flaenoriaethau sy'n newid, a chynnal safonau uchel o ran darparu gwasanaethau mewn amgylchedd cyflym.
Gweithio i'n sefydliad
Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yw'r corff gweithlu strategol ar gyfer GIG Cymru sydd â swyddogaethau statudol sy'n cynnwys addysg a hyfforddiant, cynllunio'r gweithlu, datblygu a thrawsnewid y gweithlu, arweinyddiaeth a chynllunio olyniaeth, a gyrfaoedd. Ein diben yw datblygu gweithlu sy'n darparu gofal rhagorol i gleifion/defnyddwyr gwasanaethau ac iechyd rhagorol yn y boblogaeth. Rydym yn Awdurdod Iechyd Arbennig sy'n gweithio'n agos gyda'n partneriaid; Gofal Cymdeithasol Cymru, darparwyr addysg, cyrff proffesiynol a rheoleiddiol a Llywodraeth Cymru.
Mae AaGIC wedi ymrwymo i ddatblygu diwylliant mewnol o ddewis. Mae ein Gwerthoedd yn adlewyrchu ein meddyliau, ein teimladau a'n credoau o ran sut y byddwn, ac na fyddwn, yn ymddwyn ac yn trin eraill:
- Parch i Bawb ym mhob cyswllt sydd gennym ag eraill,
- Syniadau sy'n Gwella: Harneisio creadigrwydd ac arloesi, gwerthuso a gwella'n barhaus,
- Gyda'n Gilydd fel Tîm
Derbyniodd AaGIC Wobr HPMA ar gyfer Ymgysylltu â Gweithwyr yn 2019.
Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl:
- cyfnod ymsefydlu corfforaethol ag amserlen Croeso 90 diwrnod,
- arweinyddiaeth dosturiol,
- proses arfarnu perfformiad ystyrlon sy'n seiliedig ar werthoedd,
- y cyfle i effeithio ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a bywydau a lles pobl Cymru.
Mae llawer o'n cydweithwyr a'n rhanddeiliaid wedi gwneud sylwadau ar y cyffro a'r awyrgylch a olygwn drwy gydweithio fel "Un Tîm AaGIC". Ydych chi am ymuno â'r tîm hwnnw?
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Wedi'i addysgu i Safon Uwch, lefel diploma mewn pwnc perthnasol neu'n gallu dangos profiad cyfatebol
- Tystiolaeth ac Ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol parhaus
- Gwybodaeth gyffredinol dda o gymwysiadau caledwedd a meddalwedd cyffredin gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i
- Dealltwriaeth dda o'r platfform Microsoft 365, gan gynnwys ac heb fod yn gyfyngedig i Outlook, Teams, Power Platform, SharePoint, a MS Lists
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth am strategaeth sefydliadau GIG Cymru
- Gwybodaeth am strategaeth sefydliadau GIG Cymru
- Cymhwyster TGCh cydnabyddedig
Sgiliau a Phriodoleddau
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol
- Y gallu i ddilyn gweithdrefnau wedi'u dogfennu
- Y gallu i gynhyrchu dogfennaeth o ansawdd uchel
- Cyfathrebu'n effeithiol ar bob lefel o fewn y GIG a sefydliadau partner
- Yn gallu blaenoriaethu ac adnabod gweithrediadau brys
- Yn gallu gweithio i ddyddiadau cau tynn a newid Blaenoriaethau
- Sgiliau cyfathrebu Saesneg ysgrifenedig rhagorol
- Hunan-ysgogedig a brwdfrydig gyda'r gallu i weithio heb oruchwyliaeth
- Rhagweithiol ac ymroddedig i gwblhau tasgau
Meini prawf dymunol
- Gallu i gyfathrebu gwybodaeth gymhleth
- Gallu prawf ddarllen
- Gallu i gyfathrebu yn effeithiol yn Gymraeg
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o ateb galwadau ffôn gan gwsmeriaid.
- Profiad o ysgrifennu dogfennaeth dechnegol.
- Profiad o weithio i ddyddiadau cau tynn mewn amgylchedd gwaith prysur
- Profiad o weithio mewn tîm, ac ar ei liwt ei hun
Meini prawf dymunol
- Dealltwriaeth o ystod Gyrfaoedd sydd ar gael yn y GIG
- Profiad o weithio'n uniongyrchol gydag ystod o randdeiliaid, a phartneriaid
- Profiad blaenorol o weithio yn y GIG
- Profiad o weithio mewn rôl cymorth technegol a phrofiad profedig o ddatblygu a chefnogi systemau TG
- Profiad o ddefnyddio adnodd Rheoli Gwasanaeth TG
Arall
Meini prawf hanfodol
- Ymrwymiad i welliant parhaus a bod yn rhan o dîm hynod effeithiol
- Parodrwydd i helpu eraill a chyflawni amcanion AaGIC
- Yn dangos agoredrwydd, uniondeb a charedigrwydd
- Ymagwedd hyblyg at anghenion y gwasanaeth
Gofynion ymgeisio
Nid yw sgiliau iaith Gymraeg yn angenrheidiol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Lloyd Johnson
- Teitl y swydd
- Digital Operations Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector