Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Cyflawni Digidol
Gradd
Gradd 8c
Contract
Parhaol
Oriau
  • Llawnamser
  • Gweithio hyblyg
37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
025-AC075-0524
Cyflogwr
Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ty Glan Yr Afon
Tref
Caerdydd
Cyflog
£71,473 - £82,355 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
23/05/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Iechyd a Gofal Digidol Cymru logo

Pennaeth Cyflawni Digidol – Cyfarwyddiaeth Gweithrediadau

Gradd 8c

Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn sefydliad uchelgeisiol sydd wedi’i greu gan Lywodraeth Cymru i arwain ar drawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal digidol. Mae’n adeiladu ar bensaernïaeth ddigidol a gwasanaethau cenedlaethol a roddwyd ar waith gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru dros y degawd diwethaf.


Bydd y sefydliad yn arwain ar ddatblygiadau ar raddfa fawr sy’n gwneud gwahaniaeth sylweddol i bobl Cymru ynghyd â gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol, megis ehangu’r cofnod iechyd digidol a chreu’r Adnodd Data Cenedlaethol. Bydd yn gwella’r ffordd y mae data’n cael eu casglu, eu rhannu a’u defnyddio.


Gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr holl ohebiaeth sy’n gysylltiedig â recriwtio trwy’r cyfrif e-bost sydd wedi’i gofrestru ar yr ffurflen gais.  Gwahoddir pob ymgeisydd i wneud cais yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

Ydych chi’n barod i arwain y gwaith o lunio’r dyfodol digidol? Ydych chi’n ffynnu ar ddarparu datrysiadau digidol blaengar sy’n trawsnewid busnesau ac yn plesio cwsmeriaid? Os felly, mae gennym gyfle perffaith i chi! 

Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn sefydliad GIG Cymru blaenllaw ac arloesol. Rydym wedi ymroddi i ddarparu cynhyrchion a gwasanaethau digidol o ansawdd uchel i’n partneriaid gwerthfawr er mwyn galluogi trawsnewid gofal iechyd yng Nghymru. Gydag ymrwymiad cryf i ragoriaeth, arloesedd a boddhad cwsmeriaid, rydym wedi cyflawni twf a llwyddiant rhyfeddol. Ein nod yw chwyldroi’r dirwedd ddigidol ac wrth i ni barhau i dyfu ac ehangu ein harlwy digidol, rydym yn chwilio am arweinydd â gweledigaeth i ymuno â’n tîm fel Pennaeth Cyflawni Digidol. 

Y Rôl: 

Fel Pennaeth Cyflawni Digidol, byddwch ar flaen y gad yn ein taith trawsnewid digidol. Eich prif gyfrifoldeb fydd helpu i arwain ac ysbrydoli tîm o arbenigwyr cyflawni digidol dawnus, gan sicrhau bod ein prosiectau, ein cynnyrch a’n gwasanaethau digidol yn cael eu rhoi ar waith yn llwyddiannus. 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Byddwch yn cael cyfle i wneud y canlynol: 

  • Helpu i ddatblygu a gweithredu cynllun strategol ar gyfer cyflawni digidol, gan ei alinio â strategaeth a gweledigaeth IGDC. 
  • Arwain tîm o reolwyr rhaglenni a phrosiectau digidol, gan feithrin diwylliant o gydweithio ac arloesi. 
  • Ysgogi’r gwaith o gyflawni mentrau digidol effaith uchel sy’n cyd-fynd â’r Cynllun Tymor Canolig Integredig, o’r cysyniad i’r gweithredu. 
  • Sicrhau bod prosiectau’n cael eu cyflawni ar amser, o fewn cwmpas, ac o fewn y gyllideb, gan fodloni neu ragori ar ddisgwyliadau cleientiaid. 
  • Nodi tueddiadau a thechnolegau newydd i wella ein galluoedd digidol. 
  • Meithrin perthnasoedd cryf ar draws GIG Cymru a rhanddeiliaid Gofal Cymdeithasol, a phartneriaid, gan weithredu fel partner strategol y gellir ymddiried ynddo. 

I ragori yn y rôl hon, dylech feddu ar y canlynol: 

  • Profiad amlwg o arwain timau cyflawni, yn ddelfrydol o fewn sefydliad sy’n cael ei yrru gan dechnoleg. 
  • Hanes o gyflawni prosiectau a chynhyrchion digidol cymhleth yn llwyddiannus. 
  • Sgiliau meddwl strategol a datrys problemau cryf. 
  • Galluoedd cyfathrebu ac arwain rhagorol. 
  • Angerdd dros gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y tueddiadau a’r technolegau digidol diweddaraf. 
  • Meddylfryd sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau gyda ffocws ar welliant parhaus. 

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg ymgeisio. 

Gweithio i'n sefydliad

Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) yn rhan o deulu GIG Cymru ac mae ganddo rôl bwysig wrth newid y ffordd y darperir gwasanaethau iechyd a gofal trwy dechnoleg a data. Mae’r sefydliad yn cefnogi staff rheng flaen gyda systemau modern a mynediad at wybodaeth bwysig am eu cleifion, wrth rymuso pobl Cymru i reoli eu hiechyd eu hunain trwy wasanaethau digidol GIG Cymru.

Mae gweithio i DHCW yn cynnig llawer o fuddion i weithwyr, gan gynnwys gweithio hyblyg, cyflog cystadleuol, 28 diwrnod o wyliau blynyddol yn ogystal â gwyliau banc a chyfleoedd i ddatblygu gyrfa. Rydym wedi ymrwymo i gydnabod a dathlu ein staff fel y rhan fwyaf gwerthfawr o’n sefydliad.

Ymunwch â'n tîm trawsnewidiol sy’n achub bywydau a dechrau gwneud gwahaniaeth go iawn i wasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gallwch ddod o hyd i Swydd-ddisgrifiad llawn a Manyleb y Person ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch ar “Gwneud Cais nawr” i’w gweld yn Trac 

Yr hyn a gynigiwn i chi: 

Yn IGDC rydym yn gwerthfawrogi ein gweithwyr ac yn credu mewn meithrin amgylchedd gwaith cydweithredol ac arloesol. Pan ymunwch â’n tîm fel Pennaeth Cyflawni Digidol, cewch y buddion canlynol: 

  • Pecyn cyflog a buddion cystadleuol. 
  • Cyfleoedd i ddatblygu gyrfa ac ymrwymiad i’ch datblygiad proffesiynol. 
  • Diwylliant gweithle deinamig, cefnogol a chynhwysol. 
  • Cyfle i weithio ar brosiectau digidol cyffrous ac effeithiol. 
  • Y boddhad o fod yn rhan o gwmni sy’n ysgogi newid digidol ystyrlon. 

Os ydych chi’n barod i fynd â’ch gyrfa i’r lefel nesaf ac arwain y gad ym maes cyflawni digidol, rydyn ni eisiau clywed gennych chi!  

Ymunwch â ni wrth i ni lunio’r dyfodol digidol a gwneud gwahaniaeth! Gwnewch gais heddiw a byddwch yn rhan o’n taith gyffrous yn IGDC. 

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Addysg hyd at lefel gradd meistr neu brofiad cyfatebol
  • Cymhwyster Rheoli Rhaglen, MSP, neu brofiad cyfatebol
  • Cymhwyster rheoli prosiect (e.e. Prince 2) neu brofiad cyfatebol
Meini prawf dymunol
  • Profiad o roi ffyrdd ystwyth o weithio ar waith

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad sylweddol mewn rôl uwch reoli ym maes rheoli rhaglenni a/neu brofiad sylweddol mewn uwch reoli ar gyfer y rhaglen berthnasol.
  • Gwybodaeth fanwl am dechnegau ar gyfer cynllunio, monitro a rheoli prosiectau, e.e. PRINCE2, Microsoft Project, MSP.
  • Sgiliau arwain a rheoli tîm profedig.
  • Profiad blaenorol o reoli cyllidebau a gweithdrefnau dyrannu adnoddau a’u cymhwyso

Sgiliau a Phriodoleddau

Meini prawf hanfodol
  • Profiad amlwg o weithio mewn amgylchedd prosiect.
  • Sgiliau rheoli tîm.
  • Sgiliau cyfathrebu a sgiliau rhyngbersonol rhagorol wrth ddelio â gwybodaeth gymhleth a sensitif iawn i ystod eang o randdeiliaid ar draws ffiniau sefydliadol.

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Apprenticeships logoAge positiveWork With Me - A commitment to becoming a more inclusive business for disabled peopleGold Award for Corporate Health StrategyImproving working livesStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesGood Recruitment CollectiveStonewall Hyrwyddwr Amrywiaeth Diversity ChampionMindful employer.  Being positive about mental health.CTP The Ministry of Defence partnering with Right ManagementDisability confident employerRemploy CymruThe University of Wales Trinity Saint David - Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi SantThe Poppy FactoryDying to Work CharterThe Chartered Institute for IT - Reward the professionalism of your team, define and accelerate career paths, and recognise your organisation’s commitment to advancing technology.Federation for Informatics Professionals - A collaboration between the leading professional bodies in health and care informatics supporting the development of the informatics profession.Armed Forces CovenantEmployer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Bryony Clark
Teitl y swydd
Associate Director of Digital Delivery
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg