Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- TG
- Gradd
- Band 8b
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Gweithio hyblyg
- Cyfeirnod y swydd
- 025-AC138-0725
- Cyflogwr
- Iechyd a Gofal Digidol Cymru
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Gweithio Hybryd
- Tref
- Caerdydd
- Cyflog
- £63,150 - £73,379 per annum
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 14/07/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Perchennog Gwasanaeth
Band 8b
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn sefydliad uchelgeisiol sydd wedi’i greu gan Lywodraeth Cymru i arwain ar drawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal digidol. Mae’n adeiladu ar bensaernïaeth ddigidol a gwasanaethau cenedlaethol a roddwyd ar waith gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru dros y degawd diwethaf.
Bydd y sefydliad yn arwain ar ddatblygiadau ar raddfa fawr sy’n gwneud gwahaniaeth sylweddol i bobl Cymru ynghyd â gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol, megis ehangu’r cofnod iechyd digidol a chreu’r Adnodd Data Cenedlaethol. Bydd yn gwella’r ffordd y mae data’n cael eu casglu, eu rhannu a’u defnyddio.
Gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr holl ohebiaeth sy’n gysylltiedig â recriwtio trwy’r cyfrif e-bost sydd wedi’i gofrestru ar yr ffurflen gais. Gwahoddir pob ymgeisydd i wneud cais yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Arwain Cynnyrch a Gwasanaethau Digidol yn GIG Cymru
Rydym yn chwilio am Berchennog Gwasanaeth i ymuno â’r Gyfarwyddiaeth Gweithrediadau – Cynnyrch yn IGDC – sefydliad cyflawni digidol GIG Cymru.
Rydym yn chwilio am Berchennog Gwasanaeth rhagweithiol a strategol i arwain y gwaith o ddylunio, darparu a gwella gwasanaethau digidol y GIG yn barhaus yn ein maes Cynnyrch
Mewn rôl allweddol yn y sefydliad, byddwch yn gyfrifol am sicrhau bod ein gwasanaethau’n bodloni anghenion defnyddwyr, gan gynnwys clinigwyr, staff a thimau data, gan ysgogi effeithlonrwydd ac arloesi. Byddwch yn gyfrifol am ansawdd eich gwasanaeth ac yn goruchwylio cylch oes gwasanaeth o’r dechrau i’r diwedd, gan alinio technoleg, gweithrediadau, prosesau a pholisi i wella canlyniadau cleifion a pherfformiad gwasanaeth.
Os oes gennych chi angerdd am wella gwasanaethau gofal iechyd a’r arbenigedd cynnyrch i ysgogi trawsnewid yn y GIG, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Arwain timau cynnyrch Mabwysiadu safbwynt portffolio, gan reoli gwasanaethau o’r dechrau i’r diwedd sy’n cynnwys cynhyrchion a sianeli lluosog.
Cynrychioli eich gwasanaeth Cyfleu buddion a pherfformiad eich gwasanaeth a bod yn gyfrifol am sicrhau ei fod yn gweithredu’n llwyddiannus ac yn gwella’n barhaus
Gweithio gyda rhanddeiliaid uwch Cynrychioli eich gwasanaeth gyda rhanddeiliaid o’r sefydliad, Gweithrediaeth y GIG ac uwch randdeiliaid, gan ddefnyddio gwybodaeth o ffynonellau defnyddwyr, masnachol a gwasanaeth amrywiol
Prif ddyletswyddau'r swydd
- Mentora a chynghori – Gweithredu fel pwynt arbenigedd i’r tîm, gan helpu eraill i adeiladu eu sgiliau cynnyrch a gwasanaeth.
- Adeiladu’r gymuned Perchnogion Gwasanaeth – Rhannu gwybodaeth ac arferion gorau, a hyrwyddo arferion gorau sgiliau perchnogion gwasanaeth ar draws y sefydliad.
Prif ddyletswyddau’r swydd
Mae Perchennog y Gwasanaeth yn rôl strategol ond ymarferol sy’n goruchwylio timau cynnyrch lluosog i sicrhau bod y cynhyrchion hynny’n bodloni anghenion defnyddwyr. Byddwch yn creu ac yn cyfleu gweledigaeth rymus ar gyfer y gwasanaeth a map ffordd gan sicrhau’r cydbwysedd cywir rhwng bodloni amcanion busnes/defnyddwyr a rheoli risg dechnegol.
Fel arbenigwr ar reoli cynnyrch a dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr, byddwch yn darparu arweinyddiaeth ddigidol, yn cyflwyno ac yn ymgorffori diwylliant a sgiliau digidol gyda’ch timau, a sicrhau bod eich cynhyrchion yn perfformio’n dda.
Byddwch yn cyfrannu at Gymuned Ymarfer Perchnogion Gwasanaeth, ac yn mentora ac yn uwchsgilio aelodau’r tîm wrth safoni arferion gorau. Gan gydweithio â thimau dylunio, rheolwyr cyflawni ystwyth, datblygwyr, profwyr a thimau cynnyrch, byddwch yn datblygu cynhyrchion a gwasanaethau sy’n perfformio’n dda ac sy’n bodloni anghenion defnyddwyr.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC) yn gorff cenedlaethol arbenigol ac yn rhan o GIG Cymru. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â chydweithwyr yn GIG Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill i ddarparu gwasanaethau digidol a data cenedlaethol sy’n cefnogi’r gwaith o ddarparu iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae gwasanaethau iechyd a gofal modern yn dibynnu ar offer digidol, data a gwybodaeth da. Mae IGDC yn rhedeg neu’n gweithio gyda mwy na 100 o wasanaethau ac yn darparu rhaglenni trawsnewid digidol cenedlaethol mawr i gefnogi hyn. Yn ogystal, mae IGDC yn darparu cyngor arbenigol mewn perthynas â seiberddiogelwch a llywodraethu gwybodaeth. Rydym yn rhoi’r offer digidol i staff rheng flaen sy’n eu helpu i ddarparu gofal mwy diogel a mwy effeithlon. Rydym hefyd yn rhoi offer digidol i gleifion a’r cyhoedd i reoli eu hiechyd a’u llesiant eu hunain yn well, gan rymuso pobl i fyw bywydau iachach. Rydym yn rhoi pobl wrth wraidd popeth a wnawn, gan weithio i’r safonau uchaf i ddarparu ansawdd ac i wneud digidol yn rym er gwell ym maes iechyd a gofal.
Mae gweithio i DHCW yn cynnig llawer o fuddion i weithwyr, gan gynnwys gweithio hyblyg, cyflog cystadleuol, 28 diwrnod o wyliau blynyddol yn ogystal â gwyliau banc a chyfleoedd i ddatblygu gyrfa. Rydym wedi ymrwymo i gydnabod a dathlu ein staff fel y rhan fwyaf gwerthfawr o’n sefydliad.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Mae cyfrifoldebau allweddol yn cynnwys datblygu gweledigaeth hirdymor, cynllun ac amcanion strategol, datblygu achosion busnes ystwyth, hyfforddi ac arwain timau ar arferion ystwyth a darbodus, a chyfathrebu’n hyderus ag uwch randdeiliaid.
Fel Perchennog Gwasanaeth, byddwch yn cymryd rôl ymarferol ond strategol wrth arwain, datblygu a rhedeg eich gwasanaeth. Byddwch yn darparu arweinyddiaeth cynnyrch a gwasanaeth, gan weithredu fel arbenigwr pwnc ar reoli cynnyrch, dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr ac arweinyddiaeth ddigidol.
Gan weithio’n agos gyda’ch timau cynnyrch, byddwch yn sefydlu ac yn datblygu’r safon gwasanaeth digidol, er mwyn sicrhau datrysiadau gofal iechyd digidol o ansawdd uchel yng Nghymru. Byddwch yn datblygu’r weledigaeth ar gyfer eich gwasanaeth, yn berchen ar y map ffordd, yn arwain y timau, ac yn ymgysylltu ag uwch randdeiliaid yn Llywodraeth Cymru a Gweithrediaeth y GIG.
Byddwch hefyd yn mentora a chefnogi aelodau’r tîm, yn meithrin sgiliau rheoli cynnyrch, ac yn cyfrannu at gymuned ymarfer sy’n gwella perchnogaeth gwasanaethau yn IGDC.
Gallwch ddod o hyd i Swydd-ddisgrifiad llawn a Manyleb y Person ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch ar “Gwneud Cais nawr” i'w gweld yn Trac.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg ymgeisio.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Addysg hyd at radd Meistr neu gyfwerth mewn maes proffesiynol cysylltiedig.
- Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus.
- Gwybodaeth a phrofiad arbenigol o Berchnogaeth Gwasanaeth a Rheoli Cynnyrch mewn amgylchedd TG/digidol; rheoli gwasanaethau mawr a chymhleth
- Gwybodaeth arbenigol a phrofiad mewn offer a thechnegau Ystwyth i gyflwyno rhaglenni, gwasanaethau a chynhyrchion ar raddfa fawr, yn ogystal â materion ariannol, cyfreithiol a thechnegol sy’n ymwneud â darparu ar raddfa fawr.
- Gwybodaeth a dealltwriaeth fanwl o newid cymhleth/trawsnewidiol ac o ddamcaniaethau a phrosesau rheoli newid.
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth arbenigol am bolisïau, strategaethau a phrosesau llywodraethu’r GIG a/neu awdurdodau lleol.
- Gwybodaeth arbenigol am brosesau cynllunio, cyfalaf a rheoli’r GIG neu’r sector cyhoeddus.
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Darparu cynhyrchion a gwasanaethau digidol o ansawdd uchel sy’n bodloni’r safonau gwasanaeth ac sydd orau o ran bodloni disgwyliadau uwch defnyddwyr o ran technoleg, gan gymryd cyfrifoldeb am dechnoleg etifeddol yn y maes gwasanaeth, a mynd i’r afael â’r risgiau sy’n gysylltiedig â hynny.
- Profiad sylweddol o reoli/arwain timau i gyflawni amcanion prosiect yn brydlon ac o fewn y gyllideb.
- Creu a chyfleu gweledigaeth a map ffordd cymhellol ar gyfer y gwasanaeth, gan sicrhau’r cydbwysedd cywir rhwng bodloni amcanion busnes/defnyddwyr a rheoli risgiau technegol.
- Goruchwylio darpariaeth gwasanaeth o ddydd i ddydd, gan sicrhau gwydnwch, graddadwyedd, a gwelliant parhaus.
- Cynrychioli maes gwasanaeth i swyddogion lefel bwrdd ac uwch randdeiliaid, gan ddefnyddio gwybodaeth o ffynonellau defnyddwyr, masnachol a gwasanaeth amrywiol.
- Sicrhau bod y gwasanaeth yn bodloni safonau cydymffurfiaeth, ansawdd a pherfformiad drwy strwythurau llywodraethu priodol.
- Ymgorffori diwylliant digidol gyda’ch rhanddeiliaid, y sefydliad, a GIG Cymru yn ehangach.
- Profiad o ddelio â darparwyr TG mawr yn y sector preifat wrth gyflenwi prosiectau a datrysiadau TG mawr.
Sgiliau a Phriodoleddau
Meini prawf hanfodol
- Canolbwyntio ar ganlyniadau – cydbwyso anghenion rhanddeiliaid sy’n gwrthdaro, gydag ymwybyddiaeth hynod ddatblygedig o’r cwsmer, gan sicrhau bod gwasanaethau’n werthfawr ac yn effeithiol i’r sefydliad.
- Sgiliau cyfathrebu a sgiliau rhyngbersonol rhagorol wrth ddelio â gwybodaeth gymhleth a sensitif iawn i ystod eang o randdeiliaid ar draws ffiniau sefydliadol, a sgiliau cyflwyno, negodi a hwyluso rhagorol.
- Yn fedrus wrth ddod o hyd i ffyrdd o ddatrys neu ragweld problemau.
- Sgiliau trefnu, barnu, dadansoddi a gwneud penderfyniadau ardderchog wrth drin problemau hynod gymhleth.
- Yn gallu gweithio’n effeithiol mewn cyd-destun sy’n newid.
- Arwain a datblygu timau amlddisgyblaethol sy’n perfformio’n dda ac sy’n defnyddio arferion dylunio gwasanaethau ac arferion cyflenwi sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr, a yrrir gan ddata ac sydd ar y cwmwl.
- Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar Lefel 1 neu uwch mewn deall, siarad, darllen ac ysgrifennu yn Gymraeg.
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Roxana Partenie
- Teitl y swydd
- Head of Core Services and APIs
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector