Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- TG
- Gradd
- Gradd 7
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Gweithio hyblyg
- Cyfeirnod y swydd
- 025-AC318-1225
- Cyflogwr
- Iechyd a Gofal Digidol Cymru
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Gweithio Hybrid
- Tref
- Caerdydd
- Cyflog
- £48,527 - £55,532 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 10/12/2025 23:59
Teitl cyflogwr
Uwch Ddatblygwr Meddalwedd (Gyda Rheoli)
Gradd 7
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn sefydliad uchelgeisiol sydd wedi’i greu gan Lywodraeth Cymru i arwain ar drawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal digidol. Mae’n adeiladu ar bensaernïaeth ddigidol a gwasanaethau cenedlaethol a roddwyd ar waith gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru dros y degawd diwethaf.
Bydd y sefydliad yn arwain ar ddatblygiadau ar raddfa fawr sy’n gwneud gwahaniaeth sylweddol i bobl Cymru ynghyd â gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol, megis ehangu’r cofnod iechyd digidol a chreu’r Adnodd Data Cenedlaethol. Bydd yn gwella’r ffordd y mae data’n cael eu casglu, eu rhannu a’u defnyddio.
Gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr holl ohebiaeth sy’n gysylltiedig â recriwtio trwy’r cyfrif e-bost sydd wedi’i gofrestru ar yr ffurflen gais. Gwahoddir pob ymgeisydd i wneud cais yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Mae IGDC yn cefnogi rhyngweithrededd rhwng gwahanol gydrannau saernïaeth genedlaethol GIG Cymru, a reolir gan wasanaethau Integreiddio trwy gyfuniad o dechnolegau i gefnogi rhyngweithredu.
Mae’r tîm Integreiddio yn trawsnewid ac yn safoni negeseuon sy’n cynnwys gwybodaeth cleifion i’w rhannu ar draws Adeiladwaith Negeseua GIG Cymru, rhan allweddol o’r seilwaith cenedlaethol. Mae IGDC yn dechrau rhaglen fudo, moderneiddio ac ehangu ar raddfa fawr i ddisodli Fiorano gyda datrysiad negeseua pwrpasol ac rydym yn dymuno recriwtio Datblygwr Arweiniol i ymuno â’r Tîm Platfform Integreiddio.
Yn unol â’r Strategaeth Ddata Genedlaethol, mae angen datrysiad yn y cwmwl nad yw’n berchnogol, sy’n niwtral o ran gwerthwr ac sy’n agnostig i ddylanwad y farchnad er mwyn osgoi dod yn ddibynnol ar un cyflenwr a chodiadau mewn costau cymorth a chynnal a chadw. Bydd datrysiad a ddatblygir yn fewnol yn galluogi IGDC a GIG Cymru i ddarparu gwasanaethau integreiddio sy’n cefnogi strategaethau cenedlaethol mewn modd effeithlon a chost-effeithiol, gan leihau’r ddibyniaeth ar ddatrysiadau perchnogol trydydd parti.
Bydd disgwyl i chi weithio gyda staff ar bob lefel i’n helpu i gyflawni ein cynllun strategol drwy roi ansawdd, diogelwch ac arloesedd wrth wraidd yr hyn a wnewch. Byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth weithio ochr yn ochr â thîm amlddisgyblaethol i gefnogi darpariaeth cynhyrchion newydd a gwelliannau i systemau presennol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Profiad amlwg o ddefnyddio Amgylchedd Datblygu Integredig (IDE) i ysgrifennu cod meddalwedd a chynhyrchu cymwysiadau meddalwedd cain a chadarn y gellir eu cynnal.
Gan weithio tuag at ddatrysiad dylunio a adeiladwyd yn flaenorol, disgwylir i chi arwain y datblygiad a sicrhau ei fod yn cael ei brofi a’i ddogfennu’n drylwyr yn unol ag arferion gorau IGDC a’r diwydiant.
Gan weithio’n annibynnol i raddau helaeth, o dan arweiniad pensaer datrysiadau, bydd cyfleoedd i weithio gydag ystod o dechnolegau system a rhyngwyneb defnyddiwr. Yn ogystal â datblygiadau newydd, byddwch yn rhan o’r gwaith datblygu datrysiadau i integreiddio systemau etifeddol.
Sgiliau allweddol ar gyfer y rôl hon:
- Phyton, Rust, Java
- Dylunio saernïaeth system ar gyfer integreiddio perfformiad uchel y gellir ei ehangu (microwasanaethau)
- Offer aml-edefyn a pherfformiad, arsylwi a monitro
- Enterprise Service Bus (WSO2, JCAPs, Fiorano, Biztalk, IBM Websphere)
- Ciwiau negeseua (Rabbit MQ, Active MQ, ac ati)
- Gwasanaethau Gwe, API, XML, XSLT, .Net, SQL, SOAP, REST
- Cysylltedd rhwydweithio, TCP/CDU/socedi
- Cymwysiadau cynhwysydd, Docker, Kubernetes
- Offer CI/CD a DevOps, Ystwyth, SDLC
Profiad gyda’r canlynol:
- Apache Camel
- HL7 v 2.x a FHIR
- Datrysiadau Argaeledd Uchel, Adlewyrchu, Dyblygu, Clystyru, AOG
- Offer ac ieithoedd modelu, Enterprise Architect/UML
- Arbenigwr OOP, profi uned, patrymau dylunio meddalwedd, egwyddorion SOLID, TDD
Gweithio i'n sefydliad
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC) yn gorff cenedlaethol arbenigol ac yn rhan o GIG Cymru. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â chydweithwyr yn GIG Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill i ddarparu gwasanaethau digidol a data cenedlaethol sy’n cefnogi’r gwaith o ddarparu iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae gwasanaethau iechyd a gofal modern yn dibynnu ar offer digidol, data a gwybodaeth da. Mae IGDC yn rhedeg neu’n gweithio gyda mwy na 100 o wasanaethau ac yn darparu rhaglenni trawsnewid digidol cenedlaethol mawr i gefnogi hyn. Yn ogystal, mae IGDC yn darparu cyngor arbenigol mewn perthynas â seiberddiogelwch a llywodraethu gwybodaeth. Rydym yn rhoi’r offer digidol i staff rheng flaen sy’n eu helpu i ddarparu gofal mwy diogel a mwy effeithlon. Rydym hefyd yn rhoi offer digidol i gleifion a’r cyhoedd i reoli eu hiechyd a’u llesiant eu hunain yn well, gan rymuso pobl i fyw bywydau iachach. Rydym yn rhoi pobl wrth wraidd popeth a wnawn, gan weithio i’r safonau uchaf i ddarparu ansawdd ac i wneud digidol yn rym er gwell ym maes iechyd a gofal.
Mae gweithio i DHCW yn cynnig llawer o fuddion i weithwyr, gan gynnwys gweithio hyblyg, cyflog cystadleuol, 28 diwrnod o wyliau blynyddol yn ogystal â gwyliau banc a chyfleoedd i ddatblygu gyrfa. Rydym wedi ymrwymo i gydnabod a dathlu ein staff fel y rhan fwyaf gwerthfawr o’n sefydliad.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Yn y rôl byddwch yn:
- Gweithio gyda rhanddeiliaid ac yn cymryd rhan yng nghylch oes cyfan y prosiect.
- Gan ddefnyddio arbenigedd a phrofiad technegol, arwain defnyddwyr a rhanddeiliaid eraill ar y ffordd fwyaf effeithiol o ddatrys problemau busnes.
- Defnyddio meddalwedd rheoli fersiynau fel GIT neu SVN i reoli gwaith datblygu yn gywir.
- Gweithio fel rhan o dîm datblygu ystwyth i ddylunio ac ysgrifennu meddalwedd o ansawdd uchel.
- Chwarae rhan allweddol gan weithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol meddalwedd profiadol mewn tîm amlddisgyblaethol i gefnogi’r gwaith o gyflwyno cynhyrchion newydd a gwelliannau i systemau cyfredol, sy’n cynnwys cymwysiadau ar y We, Windows a’r Cwmwl.
- Ymchwilio i dechnoleg newydd berthnasol, gan asesu ei photensial i wella’r gwasanaethau presennol.
- Defnyddio egwyddorion Ystwyth i ddeall ac awgrymu gwelliannau i’r broses ddatblygu i rymuso’r tîm gyda gwell cydweithio a chyfathrebu.
- Arwain datblygiad a dylanwadu ar ddyfodol y platfform a’i dechnoleg.
- Dylunio, datblygu a gweithredu cymwysiadau, microwasanaethau ac APIs y gellir eu hehangu, ar sail fframweithiau a chanllawiau saernïaeth diffiniedig
- Gweithio gydag aelodau’r tîm i integreiddio cod newydd i’r piblinellau integreiddio parhaus (CI) a chyflwyno/gweithredu parhaus (CD) presennol.
- Defnyddio egwyddorion Ystwyth i ddeall ac awgrymu gwelliannau i’r broses ddatblygu i rymuso’r tîm gyda gwell cydweithio a chyfathrebu.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gradd meistr mewn maes proffesiynol cysylltiedig (neu gymhwyster/profiad cyfatebol).
- Tystiolaeth bellach o addysg a/neu hyfforddiant lefel uwch perthnasol, e.e. gwybodaeth a enillwyd trwy brofiad ymarferol o weithio ar y lefel hon, ar draws yr ystod o weithdrefnau ac arferion gwaith.
- Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus.
Meini prawf dymunol
- Cofrestriad Proffesiynol: Technegydd TG Cofrestredig (RITTech)
- Uwch Ymarferydd FEDIP, neu gymhwyster proffesiynol uwch cydnabyddedig cyfatebol.
- Gwybodaeth am y GIG, systemau gofal iechyd eraill, neu’r sector iechyd, gan gynnwys amrywiadau rhanbarthol neu genedlaethol.
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad sylweddol o weithio ar gynnyrch a gwasanaethau digidol, mewn rôl debyg, gyda thimau amlddisgyblaethol.
- Hyfedr mewn offer meddalwedd sy’n awtomeiddio neu’n cynorthwyo rhan o’r broses ddatblygu.
- Hyfedr mewn set o godau a chystrawen (a gefnogir gan offer meddalwedd) sy’n galluogi trosi swyddogaeth benodedig yn god ffynhonnell ar gyfer creu rhaglenni cyfrifiadurol yn ddiamwys.
- Hyfedr mewn dulliau a thechnegau ar gyfer adolygiadau strwythuredig, gan gynnwys adolygiadau o gynhyrchion gwaith technegol, cynlluniau prawf, achosion busnes, pensaernïaeth ac unrhyw gyflawniadau allweddol eraill.
- Yn gyfarwydd ag offer meddalwedd sy’n awtomeiddio neu’n cynorthwyo unrhyw ran o’r broses brofi ar draws y cylch bywyd profi cyfan neu ran ohono.
- Yn gyfarwydd â’r dull DevOps cydweithredol sy’n cynnwys arferion, prosesau a gweithdrefnau ystwyth a gynlluniwyd i hwyluso gwasanaeth TG cyflym a darparu cynnyrch yn gyflym
Meini prawf dymunol
- Yn ymwybodol o ddulliau a thechnegau ar gyfer cynnal cyfarfodydd effeithiol ac ar gyfer deall a dylanwadu ar y rolau a chwaraeir gan gyfranogwyr.
- Yn ymwybodol o egwyddorion, dulliau a thechnegau ar gyfer sefydlu, dogfennu a chynnal safonau.
- Yn ymwybodol o ddulliau a thechnegau sy’n gysylltiedig â chynllunio a monitro cynnydd prosiectau.
- Yn gyfarwydd â dulliau a thechnegau ar gyfer hyfforddi unigolion neu grwpiau trwy gyfuniad cytbwys o gefnogaeth a chyfarwyddyd.
- Yn gyfarwydd â dulliau a thechnegau ar gyfer gwerthuso perfformiad a photensial unigolyn.
- Yn gyfarwydd â nodi, cytuno a monitro amcanion a thargedau i’w cyflawni gydag unigolion, nodi materion tanberfformio yn erbyn safonau ansawdd a meini prawf perfformiad y cytunwyd arnynt, a nodi bylchau mewn gallu a’r achosion.
Sgiliau a Phriodoleddau
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau meddwl cysyniadol er mwyn meithrin dealltwriaeth a mewnwelediad ynghylch y materion sylfaenol mewn problemau neu sefyllfaoedd cymhleth trwy ddatblygu cynrychioliadau haniaethol, nodi patrymau a dadansoddi damcaniaethau.
- Sgiliau creadigol i ddefnyddio dulliau arloesol o ddatrys problemau a/neu lunio datrysiadau dyfeisgar a chreadigol.
- Sgiliau rhoi sylw i fanylion i gymhwyso safonau ansawdd penodol i bob tasg er mwyn sicrhau bod yr hyn a gyflawnir yn gywir ac yn gyflawn.
- Ymwybyddiaeth traws-swyddogaethol a rhyngddisgyblaethol i ddeall anghenion, amcanion a chyfyngiadau’r rhai mewn disgyblaethau a swyddogaethau eraill.
- Sgiliau rhyngweithio â phobl i sefydlu perthnasoedd, gan gyfrannu at ddiwylliant agored a chynnal cysylltiadau â phobl o amrywiaeth o gefndiroedd a disgyblaethau. Bod yn gyfathrebwr effeithiol, sensitif a hawdd mynd ato mewn gwahanol gymunedau a diwylliannau, gyda’r gallu i addasu dull ac arddull gweithredu i ddiwallu anghenion gwahanol gynulleidfaoedd.
Meini prawf dymunol
- Ymrwymiad i gefnogi cenhadaeth y sefydliad i annog a chroesawu amrywiaeth a chynhwysiant ar draws y GIG.
- Gofyniad i ddangos ac ymgorffori Gwerthoedd ac Ymddygiadau’r sefydliad, gan gynnwys yr Egwyddorion Arweinyddiaeth Dosturiol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru.
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Stuart Davies
- Teitl y swydd
- Service Owner
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector
















