Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Partner Busnes Cyllid Cynorthwyol
Gradd 8a
Os ydych am ymuno â PCGC, gweler yr wybodaeth ychwanegol isod a allai fod o ddiddordeb i chi:-
Cliciwch yma am nesges gan ein Rheolwr Gyfarwyddwr:- Swyddi Gwag Cyfredol - Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
Mae ein fideo “Buddion” wedi’i greu i amlygu ac arddangos rhai o fuddion gweithio i’r GIG a PCGC:-
https://youtu.be/f0uCOjau8K0?si=yTKfnEKoWJ1kWyWz
Mae’r fideo “Awgrymiadau Da – Byddwch yn chi’ch Hun” wedi’i gynllunio i gefnogi ymgeiswyr sy’n gwneud cais am rolau gyda PCGC. Rydym wedi amlinellu 8 cam allweddol i helpu ymgeiswyr i fynegi eu galluoedd a’u profiad wrth gwblhau ceisiadau gyda PCGC. - https://youtu.be/ZawLc_IvcX8?si=xR89FCPYJTEiU1kM
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff cais sydd wedi ei gyflwyno yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais sydd wedi ei gyflwyno yn y Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â Thîm Cyllid PCGC fel Partner Busnes Cyllid Cynorthwyol . Bydd y swydd, a fydd yn rhoi ystod eang o brofiadau i chi ym maes rheolaeth ariannol ar draws PCGC, wedi’i lleoli yn ein pencadlys yn Nantgarw, Caerdydd. Mae'r rôl yn gofyn am unigolyn ymroddedig, gweithgar sydd â phrofiad ariannol a llygad da am fanylion sy'n gweithio'n dda fel rhan o dîm ac sy'n gallu gweithio i derfynau amser llym.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Yn gyfrifol am reolaeth a pherfformiad cyffredinol yr adran gyllid.
Cymryd cyfrifoldeb am reoli un neu fwy o feysydd ariannol cymhleth; ymchwilio a chynghori ar faterion hynod gymhleth a darparu adroddiadau corfforaethol/cyngor cynllunio ariannol a busnes strategol yn y maes hwn.
Sicrhau bod cyfrifon a ffurflenni statudol/y GIG yn gywir ac yn bodloni amserlenni ariannol a gofynion cyfreithiol, gan ddehongli’r rhain lle bo angen.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg fel ei gilydd wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Mae gennym safonau uchel ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru ac rydym yn disgwyl i bawb ymgorffori ein gwerthoedd Gwrando a Dysgu, Gweithio Gyda'n Gilydd, Cymryd Cyfrifoldeb ac Arloesi, tra'n sicrhau bod ymddiriedaeth, gonestrwydd a thosturi yn rhan annatod o bopeth a wnawn.
Rydym yn hyblyg, yn ystwyth ac yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn sefydliad sy’n dysgu, lle mae’n ddiogel gwneud camgymeriadau, lle caiff bai ei ddisodli gan gyfleoedd i ddysgu a gwella. Mae arloesi yn rhan o bopeth a wnawn.
Cydnabyddwn ein pobl yn rheolaidd trwy'r Orsaf Werthfawrogi, i annog staff i ganmol ymddygiad rhagorol ymysg ei gilydd ac fe gynhelir seremoni Gwobrau Cydnabyddiaeth Staff Blynyddol sy'n cyd-fynd â'n gwerthoedd.
Rydym yn parchu ac yn gwerthfawrogi ein pobl ac yn ymdrechu i greu diwylliant o dosturi a chynwysoldeb. Rydym yn sefydliad dwyieithog sydd â thîm o Hyrwyddwyr Newid sy’n hyrwyddo ‘Dyma Ein PCGC’ ein prif raglen newid. Yn yr un modd, BALCH yw ein rhwydwaith staff newydd sy’n croesawu cydweithwyr a chynghreiriaid LHDT+ i ddod ynghyd mewn man diogel i gael trafodaethau, i gynllunio digwyddiadau ac i gael y cyfle i adeiladu rhwydweithiau cefnogol.
Mae gennym becyn buddion cynhwysfawr lle mae rhywbeth at ddant pawb. Mae’n cefnogi iechyd, ymgysylltiad a lles ac mae’n cynnwys Rhaglen Cymorth i Weithwyr. Mae gennym dros 30 o Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl ac rydym yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau lleol a chenedlaethol i sicrhau llesiant a gwydnwch ein pobl.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cyfrifydd â chymwysterau proffesiynol CCAB gyda rhywfaint o brofiad ôl-gymhwyso
- Tystiolaeth o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus.
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad cyllid GIG helaeth a phrofiad ar lefel uwch reoli o fewn y GIG neu gyfwerth
- Gwybodaeth fanwl am weithdrefnau ariannol a chyfrifyddu, agweddau ariannol ar ddeddfwriaeth y GIG a pholisïau cyllid y GIG
- Gwybodaeth a phrofiad arbenigol o reolaeth ariannol y GIG a chynllunio busnes a strategol.
- Hanes blaenorol o ymdrin â sefyllfaoedd cymhleth dros ben a chyflawni amcanion corfforaethol heriol.
- Profiad o reoli pobl a thimau.
- Profiad o weithio mewn sefydliad hynod gymhleth a gwleidyddol sensitif
- Tystiolaeth o ddylanwadu'n llwyddiannus ar uwch glinigwyr a gweithwyr proffesiynol eraill a gweithio gyda thîm amlddisgyblaethol.
Meini prawf dymunol
- Profiad o ymgymryd ag achosion busnes cymhleth
- Profiad Rheolaeth Cyffredinol
Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Yn hyddysg mewn TG gyda sgiliau cyfrifiadurol ymarferol yn cynnwys cynhyrchion Microsoft, ac ar lefel uwch o ran taenlenni Excel
- Yn gallu gweithio ar nifer o dasgau cymhleth ar yr un pryd a chynhyrchu gwaith o safon uchel o fewn terfynau amser tynn a chydag adnoddau cyfyngedig
- Sgiliau rhyngbersonol, cyfathrebu a chyflwyno rhagorol
- Sgiliau dadansoddi, dehongli a chymharu datblygedig iawn a’r gallu i ddelio â gwybodaeth hynod gymhleth a sensitif i gefnogi penderfyniadau rhesymegol.
- Y gallu i weithio yn annibynnol a’r un mor effeithiol fel rhan o dîm amlddisgyblaeth
- Sgiliau amlwg o ran rheoli prosiectau gan gynnwys cynllunio, trefnu a blaenoriaethu gwaith.
- Y gallu i feddwl yn arloesol a datblygu ffyrdd newydd o weithio, gan ymdrechu’n barhaus i wella systemau a pherfformiad
- Gwybodaeth a dealltwriaeth arbennig o: • Cyfundrefn Ariannol y GIG • Rheolaeth Ariannol a Chynllunio Busnes y GIG • Gweithdrefnau Buddsoddi Cyfalaf y GIG • Datblygiadau a Strategaethau Cyfredol y GIG • Y gallu i ddehongli a chymhwyso Safonau Adrodd Ariannol ac Egwyddorion Cyfrifyddu a Dderbynnir yn Gyffredinol
Meini prawf dymunol
- Defnyddio Oracle neu systemau cyfriflyfr cyffredinol eraill
- Mae Sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar lefelau 1 i 5 o ran deall, siarad, darllen ac ysgrifennu
Rhinweddau personol
Meini prawf hanfodol
- Yn gallu cyfathrebu'n effeithiol ag ystod eang o staff a rheolwyr proffesiynol ar bob lefel, oddi mewn ac oddi allan i’r sefydliad
- Hynod ymroddgar a hunanysgogol, gydag ymrwymiad i safonau proffesiynol uchel
- Y gallu i ddylanwadu ar randdeiliaid hollbwysig
- Yn meddu ar weledigaeth strategol
- Gwydn yn emosiynol a’r gallu i ymateb i amgylchiadau trallodus neu emosiynol
- Yn gallu gweithio dan bwysau.
- Y gallu i gynllunio a blaenoriaethu eich llwyth gwaith eich hun a thimau unigol
- Angen canolbwyntio’n ddwys am gyfnod maith
- Y gallu i weithio'n hyblyg wrth ymdrin â gwaith
Meini prawf dymunol
- Gallu teithio’n i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd mewn safleoedd amrywiol.
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Paul Beckett
- Teitl y swydd
- Head of Capital & Corporate Programmes
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- +447943974960
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Jane Tyler, Uwch Bartner Business Cyllid
[email protected]Linsay Payne, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol
[email protected]
Rhestr swyddi gyda GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau yn Meddygol a deintyddol neu bob sector