Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Uwch Bartner Busnes Pobl a Datblygu Sefydliadol
Band 8a
Os ydych am ymuno â PCGC, gweler yr wybodaeth ychwanegol isod a allai fod o ddiddordeb i chi:-
Cliciwch yma am nesges gan ein Rheolwr Gyfarwyddwr:- Swyddi Gwag Cyfredol - Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
Mae ein fideo “Buddion” wedi’i greu i amlygu ac arddangos rhai o fuddion gweithio i’r GIG a PCGC:-
https://youtu.be/f0uCOjau8K0?si=yTKfnEKoWJ1kWyWz
Mae’r fideo “Awgrymiadau Da – Byddwch yn chi’ch Hun” wedi’i gynllunio i gefnogi ymgeiswyr sy’n gwneud cais am rolau gyda PCGC. Rydym wedi amlinellu 8 cam allweddol i helpu ymgeiswyr i fynegi eu galluoedd a’u profiad wrth gwblhau ceisiadau gyda PCGC. - https://youtu.be/ZawLc_IvcX8?si=xR89FCPYJTEiU1kM
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff cais sydd wedi ei gyflwyno yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais sydd wedi ei gyflwyno yn y Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi i Uwch Bartner Busnes Pobl a Datblygu Sefydliadol ymuno â’n tîm sy’n ehangu ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP).
Ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth a chefnogi'r GIG yng Nghymru?
Oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd naid i sector newydd a gweithio gyda phobl wych ar draws Cymru gyfan?
Oes gennych chi bersbectif ffres ac a ydych chi eisiau dysgu?
Neu a ydych chi'n chwilio am newid?
Rydyn ni'n ymwneud â phobl ac mae gennym ddiddordeb yn eich profiadau a’ch potensial. Rydym yn barod i siarad â chi am yr hyn sydd gennym i'w gynnig a sut y gallwn weithio gyda'n gilydd.
Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth, cynwysoldeb, ystwythder, a pharodrwydd i gydweithio. Os ydych chi'n chwilfrydig am gasglu gwahanol safbwyntiau, yn mwynhau gweithio gyda phobl ac yn ceisio sicrhau’r gorau iddynt, byddem wrth ein boddau yn gweld eich cais.
Os yw unrhyw un o'r datganiadau hyn yn berthnasol i chi, mae'r swydd hon yn berffaith ar eich cyfer chi. Cysylltwch â ni os hoffech drafod y swydd yn fwy manwl.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Gan adrodd i'r Pennaeth Gwasanaethau Pobl, byddwch yn darparu cymorth partneru busnes i nifer o'n hisadrannau ac yn arwain ar nifer fach o brosiectau sy'n ymwneud â'n rôl gynyddol yn GIG Cymru.
Ffocws allweddol o’r swydd yw rheoli perthynas broffesiynol, effeithiol a rhagweithiol gyda'r Is-adrannau, trwy ddeall eu hysgogwyr busnes allweddol a'u blaenoriaethau a darparu rhyngwyneb effeithiol gyda'r swyddogaeth Pobl a Datblygu Sefydliadol i gyflawni'r rhain. Byddwch hefyd yn gweithio'n agos gyda'n His-adrannau i gyflwyno rhaglen o welliant parhaus a newid diwylliannol sy'n cyd-fynd â'n gwerthoedd a'n hymddygiad.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â ni ar adeg gyffrous yn ein taith, wrth i ni ymgymryd â mwy o wasanaethau ar ran GIG Cymru, sy’n gysylltiedig â’i raglen waith “Unwaith i Gymru”. Rydym yn chwilio am rywun sydd â phrofiad o weithredu ar lefel Adnoddau Dynol uwch, hanes o gyflawni newid sefydliadol sylweddol a gweithredu prosiectau pobl cymhleth yn llwyddiannus.
Os ydych yn credu bod gennych y gwerthoedd, y sgiliau a’r profiad angenrheidiol, neu os ydych yn credu bod gennych y potensial i ragori yn y swydd hon, hoffem glywed gennych.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg fel ei gilydd wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Mae gennym safonau uchel ac rydym yn disgwyl i bawb ymgorffori ein gwerthoedd Gwrando a Dysgu, Gweithio
Gyda'n Gilydd, Cymryd Cyfrifoldeb ac Arloesi, tra'n sicrhau bod ymddiriedaeth, gonestrwydd a thosturi yn rhan
annatod o bopeth a wnawn. Rydym yn hyblyg, yn ystwyth ac yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn sefydliad sy’n
dysgu, lle mae’n ddiogel gwneud camgymeriadau, lle caiff bai ei ddisodli gan gyfleoedd i ddysgu a gwella. Mae
arloesi yn rhan o bopeth a wnawn. Cydnabyddwn ein pobl yn rheolaidd trwy'r Orsaf Werthfawrogi, i annog staff i
ganmol ymddygiad rhagorol ymysg ei gilydd ac fe gynhelir seremoni Gwobrau Cydnabyddiaeth Staff Blynyddol
sy'n cyd-fynd â'n gwerthoedd. Rydym yn parchu ac yn gwerthfawrogi ein pobl ac yn ymdrechu i greu diwylliant o
dosturi a chynwysoldeb. Rydym yn sefydliad dwyieithog sydd â thîm o Hyrwyddwyr Newid sy’n hyrwyddo ‘Dyma
Ein PCGC’ ein prif raglen newid. Yn yr un modd, BALCH yw ein rhwydwaith staff newydd sy’n croesawu
cydweithwyr a chynghreiriaid LHDT+ i ddod ynghyd mewn man diogel i gael trafodaethau, i gynllunio
digwyddiadau ac i gael y cyfle i adeiladu rhwydweithiau cefnogol. Mae gennym becyn buddion cynhwysfawr lle
mae rhywbeth at ddant pawb. Mae’n cefnogi iechyd, ymgysylltiad a lles ac mae’n cynnwys Rhaglen Cymorth i
Weithwyr. Mae gennym dros 30 o Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl ac rydym yn gweithio mewn
partneriaeth â sefydliadau lleol a chenedlaethol i sicrhau llesiant a gwydnwch ein pobl
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac
Manyleb y person
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Uwch Rôl Adnoddau Dynol mewn swyddogaeth Adnoddau Dynol o fewn sefydliad undebol cymhleth mawr.
- Profiad o ddelio â materion cysylltiadau gweithwyr cymhleth iawn
Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Aelod Siartredig o’r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (MCIPD).
- Cymhwyster Lefel Meistr neu brofiad cyfatebol
Meini prawf dymunol
- Yn gallu cyfathrebu yn Gymraeg.
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Samantha Graf
- Teitl y swydd
- Head of People Services
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Samantha Graf
Pennaeth Gwasanaethau Pobl
029 2150 1393
I gael sgwrs anffurfiol cysylltwch â Samantha Graf yn uniongyrchol.
Rhestr swyddi gyda GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector