Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Caffael
Gradd
Gradd 5
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Llun-Gwener. Mae trefniadau gweithio hyblyg ar gael gyda cymysgedd o weithio mewn swyddfa a gweithio o adref)
Cyfeirnod y swydd
043-AC166-0925
Cyflogwr
GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ty Coetir
Tref
Caerdydd
Cyflog
£31,516 - £38,364 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
13/10/2025 23:59

Teitl cyflogwr

GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau logo

Rheolwr Busnes Caffael Cynorthwyol

Gradd 5

Os ydych am ymuno â PCGC, gweler yr wybodaeth ychwanegol isod a allai fod o ddiddordeb i chi:-

 Mae ein fideo “Buddion” wedi’i greu i amlygu ac arddangos rhai o fuddion gweithio i’r GIG a PCGC:- https://youtu.be/f0uCOjau8K0?si=yTKfnEKoWJ1kWyWz

 

 Mae’r fideo “Awgrymiadau Da – Byddwch yn chi’ch Hun” wedi’i gynllunio i gefnogi ymgeiswyr sy’n gwneud cais am rolau gyda PCGC. Rydym wedi amlinellu 8 cam allweddol i helpu ymgeiswyr i fynegi eu galluoedd a’u profiad wrth gwblhau ceisiadau gyda PCGC. - https://youtu.be/ZawLc_IvcX8?si=xR89FCPYJTEiU1kM

 Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff cais sydd wedi ei gyflwyno yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais sydd wedi ei gyflwyno yn y Saesneg.

 

Trosolwg o'r swydd

Os ydych chi’n chwilio am yrfa ym maes Caffael a fydd yn eich cadw’n llawn cymhelliant, yn cynnig potensial ar gyfer datblygiad personol ac yn eich rhoi mewn sefyllfa i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i GIG Cymru, yna mae gan Wasanaethau Caffael PCGC yrfa a fydd o ddiddordeb i chi.

Bydd y rôl hon yn rhan o Bartneriaeth Integredig Caerdydd a’r Fro – Tîm Rheng Flaen Felindre o fewn Gwasanaethau Caffael

Bydd y rôl yn cynorthwyo i gyflwyno a rheoli trafodaethau amserol ynghylch ystod o gontractau a ddyrannwyd sy'n cynnig gwerth am arian gan ddefnyddio offer electronig.

Y broses o adnabod y galw hyd at ddyfarnu a chyhoeddi contractau yn unol â’r rhaglen gontractau cyhoeddedig gan sicrhau y cydymffurfir â safonau sefydliadol a deddfwriaeth berthnasol.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd deiliad y swydd yn cefnogi’r Pennaeth Caffael a’r tîm caffael ehangach i ddarparu gwasanaeth caffael drwy wasanaeth cwsmeriaid rhagorol, gweinyddu a rheoli contractau a phrosesau caffael presennol.

Yn ychwanegol at y meini prawf a amlinellir yn y fanyleb, dylech ddangos sut byddech chi'n rhoi eich craffter masnachol ar waith ac yn defnyddio eich sgiliau i gyflawni yn yr amgylchedd cymhleth sy’n newid o fewn GIG Cymru.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg fel ei gilydd wneud cais


Gweithio i'n sefydliad

Ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC) rydym yn disgwyl i bawb arddel ein gwerthoedd sef: Gwrando a Dysgu, Cydweithio, Cymryd Cyfrifoldeb ac Arloesi.

Mae ein sefydliad yn annog dull gweithio ystwyth ac rydym yn ymfalchïo mewn bod yn sefydliad sy'n dysgu ac sy’n cael ei ysgogi gan welliant parhaus.

Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy’n gwerthfawrogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, gan ganolbwyntio ar lesiant a pherthyn i’n pobl.

Mae gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol yn rhywbeth yr ydym yn ymgyrraedd ato, ar gyfer ein cwsmeriaid mewnol ac allanol.

Rydym yn cynnig pecyn buddion cynhwysfawr, gyda rhywbeth i bawb.  I gael gwybod mwy am weithio i ni, y buddion rydym yn eu cynnig a chanllawiau ar y broses ymgeisio ewch i https://pcgc.gig.cymru/gweithio-i-ni/

Mae PCGC yn gweithio mewn ffordd ystwyth lle bo modd. Bydd gan bob swydd ganolfan weithio gontractiol, ond fel rhan o ffyrdd ystwyth o weithio gallai hynny olygu gweithio gartref ac mewn lleoliadau eraill. Rydym hefyd yn edrych ar sut rydym yn cydbwyso hyblygrwydd gyda chymuned, a sut i reoli cyfleoedd i ddysgu oddi wrth ein gilydd. 

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Yn gymwys i MCIPS (Lefel 4)/NVQ2/3 neu brofiad cyfatebol
  • 5 TGAU gradd C ac uwch, gan gynnwys Mathemateg a Saesneg neu brofiad cyfatebol

Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i ddiffinio eich dealltwriaeth o’r canlynol rheoli categori
  • Y gallu i ddiffinio eich dealltwriaeth o’r canlynol rheoli risg
  • Y gallu i ddiffinio eich dealltwriaeth o’r canlynol beth yw’r anghenion busnes ar draws y gwasanaethau caffael
  • Y gallu i ddiffinio eich dealltwriaeth o’r canlynol sicrhau gwerth am arian
  • Y gallu i ddiffinio eich dealltwriaeth o’r canlynol holl broses y gadwyn gyflenwi
  • Y gallu i ddiffinio eich dealltwriaeth o’r canlynol dangosyddion perfformiad allweddol
  • Y gallu i ddiffinio eich dealltwriaeth o’r canlynol e-gaffael
  • Y gallu i ddiffinio eich dealltwriaeth o’r canlynol yr angen i gydymffurfio
  • Y gallu i ddiffinio eich dealltwriaeth o’r canlynol gofynion cyfreithiol contract
  • Dealltwriaeth o’r dylanwadau allanol a allai effeithio ar Wasanaethau Caffael yn GIG Cymru
  • Y gallu i gyfleu’r gwerth y mae Gwasanaethau Caffael yn ei gyflawni i Ymddiriedolaethau a Byrddau Iechyd GIG Cymru
Meini prawf dymunol
  • Dealltwriaeth o gaffael yr UE
  • Dealltwriaeth o wella prosesau a pherfformiad, egwyddorion arfer gorau a meincnodi
  • Gwybodaeth am brosesau / gweithdrefnau Caffael Ymddiriedolaethau a Byrddau Iechyd
  • Ymwybyddiaeth o’r ffordd y mae sefydliad Cydwasanaethau yn cyflawni ei swyddogaethau allweddol - yn benodol PCGC
  • ILM Lefel 3, cymwysterau rheoli eraill neu’n gweithio tuag at gymhwyster rheoli

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad profedig o gyflawni prosiectau caffael cymhleth
  • Profiad profedig o asesu angen busnes
  • Profiad profedig o tystiolaeth o dendro
  • Profiad profedig o ysgrifennu manylebau
  • Profiad profedig o meini prawf gwerthuso
  • Profiad profedig o adroddiadau dyfarnu contract
  • Profiad profedig o rheoli contractau
  • Profiad profedig o rhoi contractau ar waith
  • Profiad profedig o ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol
  • Profiad o reoli mwy nag un prosiect ar y tro - y gallu i gynllunio’n effeithiol, bodloni terfynau amser heriol, cydbwyso anghenion cymhleth rhanddeiliaid
  • Arddangos profiad o ymdrin â deddfwriaeth contract, materion cydymffurfio ac uniondeb.
  • Hanes blaenorol amlwg o sicrhau arbedion yn erbyn targedau, buddion anariannol a dangosyddion perfformiad allweddol eraill.
Meini prawf dymunol
  • Ymwybyddiaeth o safonau Ansawdd a gweithio gyda pholisïau a gweithdrefnau ISO.
  • Arddangos profiad o gyfrannu at brosesau cynllunio busnes; cynorthwyo i ddatblygu cynllun contract a chynllun arbedion
  • Profiad o reoli / goruchwylio staff / pobl - os oes modd, profiad o reoli mewn amgylchedd caffael neu gyflenwi.
  • Profiad o reoli risg, cymryd camau lliniaru a rheoli materion i sicrhau canlyniad cadarnhaol.
  • Profiad o reoli categori a datblygu cynlluniau gwaith tîm

Sgiliau a Phriodoleddau

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i sbarduno ac arwain gwaith casglu data cynhwysfawr ar gynhyrchion a chyflenwyr.
  • Y gallu i gyfleu gwybodaeth gymhleth yn effeithiol i grwpiau amlddisgyblaethol o staff a chwsmeriaid ar bob lefel.
  • Yn dda am feithrin perthnasoedd cynhyrchiol a’r gallu i gynnal perthnasoedd partneru busnes effeithiol.
  • Hyfedredd mewn TG yn enwedig o ran defnyddio MS Office; taenlenni cymhleth, cronfeydd data cymhleth pwrpasol a defnyddio systemau ar y we.
  • Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus
  • Y gallu i ddeall amrywiaeth o wybodaeth gymhleth am gynnyrch categori sy’n berthnasol i gwsmeriaid GIG Cymru arhaus.
  • Sgiliau dylanwadu a chyd-drafod cryf gyda chwsmeriaid a phartïon allanol
Meini prawf dymunol
  • Mae Sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar lefelau 1 i 5 o ran deall, siarad, darllen ac ysgrifennu

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Dangoswch sut mae eich rhinweddau personol yn cyfateb i werthoedd craidd Gweithio Gyda'n, Gilydd Arloesi ,Gwrando a Dysgu, Cymryd Cyfrifoldeb
Meini prawf dymunol
  • Y gallu i gael gafael ar gludiant (cyhoeddus a/neu breifat) i deithio o’r safle ar gyfer cyfarfodydd (fel sy’n briodol) ledled Cymru a rhannau eraill o’r DU.

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Customer Service ExcellenceHyderus o ran anabledd - ymroddedigDisability confident committedMenopause Workplace PledgeEnei MemberLexcel Legal Practice Quality MarkRhwydwaith Network 75 logoEmployer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthEmployer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthCore principlesPrentisiaethau ApprenticeshipsArmed Forces Bronze Award NWSSP

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Sian Head
Teitl y swydd
Senior Procurement Business Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Melissa Davies ([email protected])

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg