Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Epidemeoleg
- Gradd
- Band 6
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 028-AC138-0625
- Cyflogwr
- Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- 2 Capital Quarter
- Tref
- Caerdydd
- Cyflog
- £37,898 - £45,637 Y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 22/06/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Epidemiolegydd (Arbenigwr Dadansoddwr Gwybodaeth)
Band 6
Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru, asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru
Ein gweledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru
Am ragor o wybodaeth amdanom, ewch i’n tudalen hafan, darllenwch am ein cynllun strategol
Dilynwch ni ar Twitter, Facebook, LinkedIn and Instagram
Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn chwilio am unigolyn profiadol, arloesol, cydweithredol a deinamig i ymuno â thîm o arbenigwyr dadansoddol yn y Ganolfan Gwyliadwriaeth Clefydau Trosglwyddadwy (CDSC) i ddarparu gwasanaeth rhagweithiol ac ymatebol.
Bydd deiliad y swydd yn aelod allweddol o staff gwyddonol o fewn y Ganolfan Wyliadwriaeth ar gyfer Clefydau Trosglwyddadwy (CDSC), sydd wedi ei leoli o fewn Adran Diogelu Iechyd Cyhoeddus Cymru. Bydd yn gweithio'n agos gyda'r uwch-wyddonwyr, uwch-epidemiolegwyr ac aelodau eraill o'r tîm i ddatblygu systemau gwyliadwriaeth newydd, i ehangu'r rhai sydd eisoes yn bodoli ac i ddarparu cefnogaeth ddadansoddol yn ystod sefyllfaoedd o ddigwyddiad mawr a brigiad o achosion. Bydd deiliad y swydd yn arwain prosiectau ac adroddiadau gwyliadwriaeth ac yn helpu i sicrhau bod terfynau amser adrodd a dadansoddol yn cael eu bodloni.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd deiliad y swydd yn gweithio o fewn y tim Epidemioleg Genomig. Bydd deiliad y swydd yn:
-
Gweithio'n agos gyda'r uwch-wyddonwyr ac epidemiolegwyr ymgynghorol i baratoi cynlluniau goruchwyliaeth newydd ac i ehangu neu ddatblygu systemau gwyliadwriaeth sydd eisoes yn bodoli er mwyn adlewyrchu newidiadau yn narpariaeth y gwasanaeth, dulliau cipio data a blaenoriaethau.
-
Goruchwylio'r gwaith o gynhyrchu adroddiadau goruchwyliaeth sydd eisoes yn bodoli, helpu i'w paratoi a sicrhau ansawdd yn ôl yr angen.
-
Darparu ymatebion, o dan oruchwyliaeth, i ymholiadau ad-hoc gan sefydliadau cyhoeddus eraill, Llywodraeth Cymru, y wasg ac aelodau o'r cyhoedd, yn ôl yr angen. Darparu ymatebion, o dan oruchwyliaeth, i ymholiadau brys o fewn yr Is-adran Diogelu Iechyd a Llywodraeth Cymru.
-
Paratoi deunyddiau i'w cyhoeddi ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru, helpu i sicrhau ansawdd gwybodaeth goruchwyliaeth a gaiff eu cyflwyno ar y wefan ac ymchwilio i ffyrdd gwahanol o gyflwyno data i wahanol gynulleidfaoedd.
-
Darparu cefnogaeth i'r gwaith ymchwiliadau maes ar gyfer brigiadau o achosion cymunedol ac mewn ysbytai a chyfrannu at waith Is-adran Diogelu Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn perthynas â chapasiti gwyliadwriaeth mewn ymateb i afiechyd trosglwyddadwy ac iechyd y cyhoedd amgylcheddol.
-
Cyfrannu at waith ymchwil epidemioleg ar raglen y Ganolfan Wyliadwriaeth ar gyfer Clefydau Trosglwyddadwy yn ôl yr angen.
Gweithio i'n sefydliad
Ni yw Iechyd Cyhoeddus Cymru - asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru. Ein diben yw ‘gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru iachach'. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach, iachach. Gyda'n partneriaid, ein nod yw cynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Gyda'i gilydd, mae ein timau'n gweithio i atal clefyd, diogelu iechyd, a darparu arweinyddiaeth, gwasanaethau arbenigol ac arbenigedd iechyd cyhoeddus. Ni yw'r brif ffynhonnell o wybodaeth, ymchwil ac arloesedd iechyd cyhoeddus yng Nghymru. Nid yw iechyd cyhoeddus erioed wedi bod mor bwysig wrth i ni ddod drwy bandemig y Coronafeirws, wynebu heriau'r argyfwng costau byw a mynd i'r afael ac atal effeithiau niweidiol newid hinsawdd.
Caiff ein sefydliad ei arwain gan ein gwerthoedd 'Cydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth'. Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy'n rhoi gwerth ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cynrychioli amrywiaeth gyfoethog y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a chan y rhai sy'n dymuno gweithio'n rhan amser neu rannu swydd.
I ddarganfod mwy am weithio i ni a'r buddion rydym yn eu cynnig, ewch i Gyrfaoedd - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)
I gael arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i Gwybodaeth a Chanllawiau i Ymgeiswyr - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Ddisgrifiad Swydd llawn a Manyleb Person ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud Cais nawr” i'w gweld yn Trac
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Manyleb y person
Cwmwysterau
Meini prawf hanfodol
- Gradd gyntaf mewn disgyblaeth wyddonol
- Cymhwyster ôl-raddedig mewn iechyd cyhoeddus, epidemioleg, ystadegau neu bwnc cysylltiedig, neu brofiad cyfatebol
Meini prawf dymunol
- Cefndir cryf mewn maes cysylltiedig ag iechyd neu wyddor fiolegol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad ôl-raddedig mewn gwaith dadansoddi gwybodaeth neu wyddonol
- Profiad o weithio gyda setiau data mawr neu gymhleth
- Profiad o waith sy'n seiliedig ar brosiectau
- Profiad o gynhyrchu adroddiadau ysgrifenedig i'w cyhoeddi a gweithio i derfynau amser
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio ym maes epidemioleg, ystadegau meddygol, microbioleg neu iechyd cyhoeddus
- Profiad o rannu gwybodaeth â chynulleidfaoedd gwyddonol, partneriaid allanol a'r cyhoedd
- Profiad o ymchwilio a datblygu
Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Yn fedrus wrth ddefnyddio pecynnau meddalwedd ystadegol a dadansoddi data (e.e. STATA, SPSS, R, Epidata)
- Sgiliau dadansoddol ac epidemioleg gwych, gan gynnwys dadansoddi ystadegol a dehongli data
- Sgiliau cyffredinol TG da, gan gynnwys defnyddio a gofyn am gronfeydd data
- Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig gwych, gan gynnwys ysgrifennu adroddiadau a chyflwyno data mewn dulliau priodol
- Y gallu i gynllunio a threfnu sawl prosiect ar yr un pryd
- Y gallu i hunanreoli llwyth gwaith, gweithio i'r amcanion y cytunwyd arnynt, gosod blaenoriaethau a bodloni terfynau amser
- Y gallu i gyfrannu at bapurau a adolygwyd gan gymheiriaid a'u gwerthuso
Meini prawf dymunol
- Y gallu i siarad Cymraeg neu'r parodrwydd i ddysgu
- Yn meddu ar sgiliau defnyddio meddalwedd cynllunio data a mapio
Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gwybodaeth am egwyddorion epidemioleg
- Gwybodaeth sylfaenol eang am lywodraethu gwybodaeth, diogelu data a materion cyfrinachedd
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth sylfaenol am iechyd cyhoeddus
- Gwybodaeth am sefydliadau gwasanaethau iechyd yng Nghymru
Nodwedion Personol
Meini prawf hanfodol
- Yn gallu gweithio'n annibynnol ac fel aelod o dîm, gan feddu ar lefelau uchel o gymhelliant
- Yn gallu ymgysylltu â phobl ar bob lefel
- Yn gallu ymateb i batrymau gwaith anrhagweladwy yn bwyllog a chwrdd â therfynau amser brys
- Dull hyblyg ac arloesol o weithio
- Bod yn gydwybodol a thalu sylw i fanylder
- Y gallu i gynnal y lefelau cyfrinachedd gofynnol
Arall
Meini prawf hanfodol
- Ymrwymiad i ddatblygiad personol parhaus
- Yn barod i deithio
- Parodrwydd i weithio oriau hyblyg os oes angen er mwyn diwallu anghenion y gwasanaeth
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Mark Postans
- Teitl y swydd
- Senior Epidemiological Scientist
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07758238172
Rhestr swyddi gyda Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector