Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Rheolwr Gwella
Band 7
Croeso i Weithrediaeth GIG Cymru, swyddogaeth gymorth genedlaethol newydd, yn weithredol o 1 Ebrill 2023
Ein pwrpas allweddol yw...
Ysgogi gwelliannau yn ansawdd a diogelwch gofal - gan arwain at ganlyniadau gwell a thecach, mynediad a phrofiad y claf, llai o amrywiad, a gwelliannau yn iechyd y boblogaeth.
I gael gwybod mwy, ewch i Weithrediaeth GIG Cymru.
Ein Gwerthoedd
Gweithio gyda'n gilydd, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth
Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Trosolwg o'r swydd
Noder mai dim ond ceisiadau gan staff a gyflogir gan gig Cymru ar hyn o bryd y byddwn yn eu derbyn.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymgeisio am y swydd hon ar secondiad, bydd yn rhaid i chi gael caniatâd gan eich rheolwr presennol cyn i chi wneud cais.
Hoffech Chi Chwarae Rhan Allweddol Wrth Wella Diogelwch Cleifion Ar Draws GIG Cymru?
Mae hwn yn gyfle i fod yn rhan o’n tîm yng nghyfarwyddiaeth Ansawdd, Diogelwch a Gwella newydd Gweithrediaeth GIG Cymru ar adeg brysur a chyffrous wrth i ni gynyddu ein cefnogaeth i helpu GIG Cymru i wella gofal i bobl Cymru.
Mae Gwelliant Cymru yn rhan greiddiol o'r gyfarwyddiaeth hon. Gyda’n gilydd, rydym yn gweithio ochr yn ochr â sefydliadau i rymuso, gwreiddio a dyrchafu gwelliannau i ansawdd a diogelwch, gan ddarparu rhaglenni gwella Cymru gyfan er mwyn cyflawni blaenoriaethau ansawdd a diogelwch. Ceir disgrifiad o’n gwaith yn ein strategaeth Gwelliant Cymru a gyhoeddwyd yn 2021.
Rydym yn recriwtio i 1 swydd secondiad amser llawn yng Nghaerdydd. Mae'r secondiad tan 01/04/25.
Mae'r swyddi hyn yn cynnig cyfle i fod yn rhan o Welliant Cymru ar adeg brysur a chyffrous wrth inni wneud y canlynol:
- Gweithio gyda GIG Cymru i ddatblygu ein rhaglen Gofal Diogel Gyda’n Gilydd.
Lansio ein Cydweithredfa Gofal Diogel cenedlaethol mewn partneriaeth â’r
- sefydliad Gwella Gofal Iechyd, Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau, a fydd yn tan 2024.
- Gweithio gydag arbenigwyr gwelliant byd-eang, Llywodraeth Cymru a chydweithwyr ar draws GIG Cymru.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Byddwch yn ymuno â thîm uchelgeisiol, sy’n cynnwys rhai o'r gweithwyr Gwelliant proffesiynol mwyaf cymwys a phrofiadol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Fel rhan o’n cyfeiriad newydd, rydym yn awyddus i gryfhau ein tîm trwy recriwtio aelodau tîm newydd o gefndiroedd amrywiol gyda chymysgedd o sgiliau, personoliaethau a phrofiadau – gan ystyried ymgeiswyr a chanddynt gefndir yn y GIG yn ogystal â sectorau eraill.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu dyrannu i dîm rhanbarthol y De-ddwyrain o fewn Rhaglenni, ond gyda chyfleoedd parhaus i waith matrics gyda thimau a phrosiectau Gwelliant Cymru eraill. Mae gan bob swydd gyfrifoldebau cenedlaethol a bydd y gallu i deithio ledled Cymru, gan gynnwys aros dros nos, yn angenrheidiol i bob deiliad swydd.
Anogir ymgeiswyr sydd â diddordeb i gysylltu â'r rheolwr sy’n recriwtio ar gyfer y rôl a enwir isod i drafod y rôl ymhellach os oes ganddynt unrhyw ymholiadau.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Gweithrediaeth GIG Cymru yn darparu arweiniad canolog, gan weithio mewn partneriaeth ar gyfer ac ar ran Llywodraeth Cymru, yn y GIG yng Nghymru a gyda'r GIG. Mae'r Weithrediaeth yn cael ei chynnal gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Rydym yn swyddogaeth gefnogaeth genedlaethol sy'n cyflawni gweledigaeth 'Cymru Iachach' o ddull system gyfan o ddarparu iechyd a gofal cymdeithasol rhagorol ledled Cymru.
Rôl y Weithrediaeth wrth gefnogi'r weledigaeth hon yw darparu arweinyddiaeth genedlaethol gref a chyfeiriad strategol sy'n galluogi, cefnogi a, phan fo angen, ymyrryd i sicrhau bod blaenoriaethau a safonau cenedlaethol yn cael eu cyflawni, er mwyn gwella ansawdd a diogelwch gofal. Bydd y Weithrediaeth yn ysgogi gwelliannau i sicrhau canlyniadau gofal iechyd gwell a thecach i bobl Cymru.
Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy'n rhoi gwerth ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cynrychioli amrywiaeth gyfoethog y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a chan y rhai sy'n dymuno gweithio'n rhan amser neu rannu swydd.
Mae ein sefydliad yn cael ei arwain gan Werthoedd Iechyd Cyhoeddus Cymru, “Cydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth”.
I ddarganfod mwy am weithio i ni a'r buddion rydym yn eu cynnig, ewch i Gyrfaoedd - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)
I gael arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i Gwybodaeth a Chanllawiau i Ymgeiswyr - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Addysg hyd at lefel gradd neu brofiad cyfwerth mewn rôl reoli
- Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus
- Wedi cwblhau hyfforddiant gwella/ymgymryd â hyfforddiant gwella’n flaenorol
Meini prawf dymunol
- Ardystiad gwella (Gwelliant mewn Ymarfer, y Sefydliad Gwella Gofal Iechyd (IHI), Lean ac ati)
- Cymhwyster rheoli prosiectau
- Cymhwyster darparu hyfforddiant
- Cymhwyster hyfforddi, fel ILM
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Ymgysylltu â grwpiau amlbroffesiynol a staff ar bob lefe
- Profiad o goetsio unigolion neu dimau
- Profiad o gyflwyno a hwyluso gyda grwpiau amlbroffesiynol
- Profiad o weithredu gwelliannau a sbardunir gan brosiectau yn llwyddiannus, gyda thystiolaeth o ddysgu gan ddefnyddio methodolegau gwyddoniaeth gwella
Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i ysgogi pobl eraill er mwyn annog gweithio ar y cyd
- Y gallu i gydweithio â phobl o ddisgyblaethau eraill a ffurfio perthnasoedd cryf â rhanddeiliaid i wella gwasanaethau
- Y gallu i gasglu, dadansoddi a chyflwyno data cymhleth i ddylanwadu ar benderfyniadau a wneir i wella gwasanaethau
- Y gallu i ganfod datrysiadau mewn sefyllfaoedd cymhleth sy’n dderbyniol i nifer o randdeiliaid
- Y gallu i gymhwyso gwybodaeth a sgiliau gwella
Meini prawf dymunol
- Dangos y gallu i weithredu fel cyfeirbwynt arbenigol ar faterion hyfforddi yn ymwneud â rheoli newid a gwelliant parhaus.
- Y gallu i hyfforddi grwpiau amlddisgyblaethol, gan gynnwys staff clinigol, ar fethodolegau gwelliant parhaus.
Nodweddion Personol
Meini prawf hanfodol
- Deall pwysigrwydd bod yn aelod cryf o dîm, sy’n cynnwys: o Cyfranogi’n weithredol o Cydweithredu o Parchu a chefnogi pobl eraill
- Tystiolaeth o archwilio datrysiadau amgen i broblemau yn barhaus
- Ymrwymiad i hunanddatblygiad, gan gymryd camau pendant i geisio adborth a dysgu
- Y gallu i ganolbwyntio a chwblhau tasgau’n gywir o fewn amserlenni a roddwyd ar yr un pryd â delio ag ymyriadau annisgwyl e.e. blaenoriaethau sy’n newid
- Y gallu i fodloni anghenion teithio mynych y swydd. (Bydd yn ofynnol i ddeilydd y swydd deithio i unrhyw leoliad ledled Cymru a’r Deyrnas Unedig, fel y bo’r angen gan y sefydliad, a gallai hyn olygu aros dros nos oddi cartref yn aml)
- Hyblyg i fodloni anghenion y gwasanaeth.
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Mark Wilson
- Teitl y swydd
- Senior Improvement Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector