Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Ymchwilydd Iechyd y Cyhoedd
- Gradd
- Gradd 7
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 22.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 028-AC166-0725
- Cyflogwr
- Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Cyfres y Cyfalaf 2
- Tref
- Caerdydd
- Cyflog
- £46,840 - £53,602 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 30/07/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 04/09/2025
Teitl cyflogwr

Ymchwilydd Iechyd y Cyhoedd
Gradd 7
Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru, asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru
Ein gweledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru
Am ragor o wybodaeth amdanom, ewch i’n tudalen hafan, darllenwch am ein cynllun strategol
Dilynwch ni ar Twitter, Facebook, LinkedIn and Instagram
Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
SWYDD RAN-AMSER YW HON O GANLYNIAD I ANGHENION Y GWASANAETH.
Mae Is-adran Ymchwil a Gwerthuso Iechyd Cyhoeddus Cymru yn awyddus i recriwtio Ymchwilydd Iechyd y Cyhoedd. Diben y rôl yw cefnogi’r broses o ddatblygu a chydlynu’r agenda ymchwil newid hinsawdd ar draws Iechyd Cyhoeddus Cymru a gyda’n partneriaid. Bydd deiliad y swydd yn gweithio ar ffyrdd o gryfhau’r trefniadau cydweithredol gyda’r gymuned ymchwil, gan nodi a mapio blaenoriaethau ymchwil a chyfleoedd rhyngddisgyblaethol, a chydlynu cynnig i ddatblygu ac i ddylanwadu ar ymchwil.
Mae’r Is-adran Ymchwil a Gwerthuso yn dîm amlddisgyblaethol profiadol, sy’n cydweithio ar draws Iechyd Cyhoeddus Cymru a gyda sefydliadau academaidd a sefydliadau partner allanol, ac mae’n awyddus i ymestyn ei chysylltiadau ymchwil â phartneriaid cenedlaethol a rhyngwladol.
O ganlyniad i’r cyllid sydd ar gael, swydd ran-amser yw hon.
I gael rhagor o fanylion neu i drefnu sgwrs anffurfiol, cysylltwch ag Elen de Lacy, Arweinydd Ymchwil, Datblygu a Strategaeth ([email protected])
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd deiliad y swydd yn rhan allweddol o helpu i ganfod, llywio a rheoli gweithgareddau ymchwil yn y maes newid hinsawdd a phartneriaethau cydweithredol, a’r nod yw cyflymu’r newid tuag at waith ymchwil mwy cydgysylltiedig a dylanwadol, sy’n cyd-fynd â blaenoriaethau Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn ogystal â datblygu partneriaethau, rhwydweithiau a chonsortia newydd yn y maes hwn.
Bydd deiliad y swydd yn mapio, yn sganio’r amgylchedd ac yn blaenoriaethu anghenion ymchwil yn y maes newid hinsawdd, yn datblygu trosolwg cynhwysfawr ac yn dadansoddi gweithgareddau ymchwil. Bydd deiliad y swydd yn rhan o gefnogi’r broses o ddatblygu cynigion ymchwil ac arbenigedd ymchwil ar draws y sector, gan gynnwys cefnogi ymgeiswyr gyda phrosesau llywodraethu a chymeradwyo ymchwil y GIG ar gyfer ceisiadau a dyfarniadau.
Bydd y swydd hon o gymorth i gyflawni dull gweithredu Iechyd Cyhoeddus Cymru o ran ymchwil a datblygu, drwy gefnogi strategaeth hirdymor Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Strategaeth Ymchwil a Gwerthuso.
Gweithio i'n sefydliad
Ni yw Iechyd Cyhoeddus Cymru - asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru. Ein diben yw ‘gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru iachach'. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach, iachach. Gyda'n partneriaid, ein nod yw cynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Gyda'i gilydd, mae ein timau'n gweithio i atal clefyd, diogelu iechyd, a darparu arweinyddiaeth, gwasanaethau arbenigol ac arbenigedd iechyd cyhoeddus. Ni yw'r brif ffynhonnell o wybodaeth, ymchwil ac arloesedd iechyd cyhoeddus yng Nghymru. Nid yw iechyd cyhoeddus erioed wedi bod mor bwysig wrth i ni ddod drwy bandemig y Coronafeirws, wynebu heriau'r argyfwng costau byw a mynd i'r afael ac atal effeithiau niweidiol newid hinsawdd.
Caiff ein sefydliad ei arwain gan ein gwerthoedd 'Cydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth'. Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy'n rhoi gwerth ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cynrychioli amrywiaeth gyfoethog y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a chan y rhai sy'n dymuno gweithio'n rhan amser neu rannu swydd.
I ddarganfod mwy am weithio i ni a'r buddion rydym yn eu cynnig, ewch i Gyrfaoedd - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)
I gael arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i Gwybodaeth a Chanllawiau i Ymgeiswyr - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Mae’r swydd hon wedi’i lleoli yn isadran Ymchwil a Gwerthuso Iechyd Cyhoeddus Cymru. Bydd deiliad y swydd yn gweithio mewn partneriaeth â Sefydliadau Addysg Uwch (SAUau) ledled Cymru a’r DU i gydgysylltu’r gwaith o ddatblygu a chyd-drefnu’r agenda ymchwil newid hinsawdd ac i gryfhau cydweithio â’r gymuned ymchwil. Bydd deiliad y swydd hefyd yn nodi ac yn mapio blaenoriaethau ymchwil a chyfleoedd rhyngddisgyblaethol, yn ogystal â chyd-drefnu partneriaethau a’r gwaith o ddatblygu cynigion ac ymchwil sy'n cael effaith.
Mae’r Is-adran Ymchwil a Gwerthuso yn dîm amlddisgyblaethol profiadol, sy’n gweithio ar y cyd ar draws Iechyd Cyhoeddus Cymru a chyda sefydliadau academaidd a phartner allanol. Rydym yn awyddus i ymestyn ein cysylltiadau ymchwil â phartneriaid cenedlaethol a rhyngwladol. Bydd y swydd hon yn helpu i gyflwyno dull Iechyd Cyhoeddus Cymru at ymchwil a datblygu, i gefnogi strategaeth hirdymor y sefydliad a'r Strategaeth Ymchwil a Gwerthuso.
Byddwch yn gallu dod o hyd i ddisgrifiad Swydd llawn a Manyleb Person sydd ynghlwm o fewn y dogfennau ategol neu cliciwch "Gwnewch gais nawr" i'w weld yn Trac
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Manyleb y person
Cymwysterau a Hyfforddiant
Meini prawf hanfodol
- Tystiolaeth o wybodaeth am gymwyseddau craidd Iechyd y Cyhoedd ar lefel meistr neu gyfwerth
- Gradd Uwch gydag elfen ymchwil gref
- Tystiolaeth o astudio newid yn yr hinsawdd/newid ymddygiad iechyd neu astudiaeth gyfatebol ar lefel uwch
Meini prawf dymunol
- PhD mewn maes cysylltiedig
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad amlwg sylweddol yn arwain at wybodaeth arbenigol ddatblygedig iawn mewn ymchwil sy'n berthnasol i iechyd y cyhoedd
- Profiad o chwarae rhan flaenllaw mewn prosiect ymchwil mawr
- Profiad o sicrhau cyllid ymchwil trwy broses gystadleuol
- Profiad o ddatblygu cydweithrediadau a phartneriaethau academaidd
Meini prawf dymunol
- Profiad o waith ym maes iechyd y cyhoedd mewn gwasanaeth arbenigol neu leoliad academaidd
- Profiad o ddulliau cymysg o wneud ymchwil
- Profiad o weithio gyda chyllidebau/costau a llywodraethu ar gyfer prosiectau ymchwil.
Gwybodaeth, Sgiliau a Phriodoleddau
Meini prawf hanfodol
- Gwybodaeth am ystod o ddulliau ac ymagweddau ymchwil
- Yn gallu dadansoddi data ansoddol neu feintiol cymhleth
- Sgiliau wrth ddefnyddio ystod o ddulliau casglu data ansoddol a/neu feintiol
- Yn gallu dewis a dehongli ystod o brofion ystadegol
- Sgiliau trefnu rhagorol gyda'r gallu i flaenoriaethu eich gwaith eich hun a gwaith eraill yn effeithiol
- Yn gallu goruchwylio gwaith pobl eraill
- Talu sylw i fanylion
- Gallu cyfathrebu gwybodaeth gymhleth yn ysgrifenedig ac ar lafar, mewn lleoliadau ffurfiol ac anffurfiol ac i wahanol gynulleidfaoedd
- Tystiolaeth o ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol parhaus
- Sgiliau wrth ddefnyddio ystod o becynnau meddalwedd ar gyfer dadansoddi data
- Arddangos y gallu i weithio dan bwysau, cynllunio a rheoli eich llwyth gwaith eich hun a chynllunio gwaith ymlaen llaw i fodloni terfynau amser
- Dangos gallu i hunan-ysgogi a chymell eraill
- Deall a chymhwyso prosesau, polisïau a gweithdrefnau ymchwil a llywodraethu gwybodaeth
Meini prawf dymunol
- Sgiliau rheoli prosiectau neu raglenni
- Yn gallu gweithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol
- Profiad o addysgu/hyfforddi
Gofynion corfforol
Meini prawf hanfodol
- Yn gallu teithio ledled Cymru, gan gynnwys teithio i gymunedau gwledig
Meini prawf dymunol
- Yn gallu gweithio oriau hyblyg yn ôl yr angen
- Yn gallu gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Elen de Lacy, Research,
- Teitl y swydd
- Development and Strategy Lead
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector