Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- RD&I/UTC
- Gradd
- Gradd 6
- Contract
- Cyfnod Penodol: 12 mis (Secondment)
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Cyfeirnod y swydd
- 120-NMR762-0725
- Cyflogwr
- Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Canolfan Ganser Felindre
- Tref
- Caerdydd
- Cyflog
- £37,898 - £45,637 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 16/07/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Nyrs Ymchwil Oncoleg
Gradd 6
Diolch am eich diddordeb mewn gweithio i Ganolfan Ganser Felindre (CGF), sy'n gyflogwr cyfle cyfartal ymroddedig. Mae CGF yn croesawu ceisiadau gan bobl sy'n rhannu ein gweledigaeth;
Bydd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn cael ei chydnabod yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol fel sefydliad enwog o ragoriaeth mewn perthynas â gofal rhoddwyr a chleifion, addysg ac ymchwil.
ein gwerthoedd;
- Gofalgar
- Parchus
- Atebol
ac a fydd yn ategu’r gweithwyr profiadol ac arbenigol sydd gennym ar hyn o bryd, sydd yn frwdfrydig dros weithio mewn sefydliad sydd â’r uchelgais i ddarparu gwasanaethau a gofal o'r radd flaenaf i'n cleifion.
Mae gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre le arbennig ym maes gofal iechyd yng Nghymru. Mae’n sefydliad anhygoel i weithio ynddo ac i ddatblygu eich gyrfa hefyd. Mae'r Ymddiriedolaeth yn cynnwys dwy adran, sef Canolfan Ganser Felindre a Gwasanaeth Gwaed Cymru. Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP) a Thechnoleg Iechyd Cymru (HTW) yn disgyn dan adain yr Ymddiriedolaeth hefyd, ar ran Llywodraeth Cymru a GIG Cymru.
Mae CGF yn cynnig cyflog cystadleuol i’n gweithwyr, ynghyd â nifer o gynlluniau gwobrwyo, buddion a chefnogaeth i staff.
Os hoffech chi ragor o wybodaeth am y swydd wag hon, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio, a fydd yn falch o drafod y cyfle hwn gyda chi.
Gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr holl ohebiaeth sy'n gysylltiedig â recriwtio trwy'r cyfrif e-bost sydd wedi cael ei roi ar y ffurflen gais.
Mae gan yr Ymddiriedolaeth yr hawl hefyd i gau swydd wag yn gynnar neu i dynnu hysbyseb yn ôl ar unrhyw gam o'r broses, er mwyn caniatáu i staff mewnol gael eu hadleoli i rolau addas.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Mae hon yn swydd cyfnod sefydlog / secondiad am 12 mis
Mae cyfle wedi codi i nyrs gofrestredig lefel gyntaf brofiadol, brwdfrydig ac uchel ei chymhelliant ymuno â thîm uned treialon clinigol sefydledig fel rôl band 6 ar secondiad o fewn Treialon Clinigol.
Mae angen i chi fod ag arbenigedd clinigol sylweddol mewn oncoleg, bod â phrofiad mewn ymchwil glinigol, a sgiliau clinigol profedig wrth weinyddu SACT. Bydd gofyn i chi ddangos sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol a thystiolaeth o ddatblygu rhinweddau arweinyddiaeth
1. Maer'r swydd hon am gyfnod penodol / secondiad (am 12 mis). Os oes diddordeb gyda chi mewn ceisio am swydd secondiad, mae’n rhaid i chi gael caniatad eich rheolwr llinell presennol cyn i chi geisio am y swydd hon. SYLWCH Bydd angen i ymgeiswyr gael caniatâd eu rheolwr llinell cyn cyflwyno eu diddordeb. Gallwch lawrlwytho ffurflen ryddhau i'w chynnwys gyda'ch ffurflen gais yma. (Bydd angen i’r aelod o staff a’r rheolwr llinell gwblhau’r ffurflen hon a’i dychwelyd atoch)
Prif ddyletswyddau'r swydd
Cefnogir cyfrifoldebau gan arweinwyr clinigol yn ystod y cyfle hwn a bydd yn cynnwys
Cynorthwyo timau amlddisgyblaethol i gofrestru cleifion mewn treialon
Cydlynu treialon dan oruchwyliaeth Arweinwyr Tîm o fewn y gwasanaeth
Goruchwylio, cynghori a datblygu tîm o nyrsys/swyddogion ymchwil a chydlynwyr treial ar fand 5 ac is
Cyfathrebu a chydweithio â Sefydliadau rhanbarthol a chenedlaethol lleol ynghylch gweinyddu ymchwil yn ôl yr angen.
Darparu triniaeth SACT yn yr uned Triniaeth Ymchwil Clinigol.
Maer'r swydd hon am gyfnod penodol / secondiad am 1 flynnoedd oherwydd cwrdd gofynion y gwasanaeth. Os oes diddordeb gyda chi mewn ceisio am swydd secondiad, mae’n rhaid i chi gael caniatad eich rheolwr llinell presennol cyn i chi geisio am y swydd hon.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Yma yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre rydym yn hynod falch o’r gwasanaethau arbenigol a ddarparwn ar draws Cymru gyfan yn ein Canolfan Ganser Felindre flaengar a’n Gwasanaeth Gwaed Cymreig arobryn, yn ogystal ag arbenigedd ein swyddogaethau corfforaethol sy’n dod â’r dwy adran gyda'i gilydd. Rydym hefyd yn ffodus i groesawu Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a Thechnoleg Iechyd Cymru ac rydym wedi datblygu gwaith partneriaeth cryf gyda’r gwasanaethau arbenigol hyn.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Cofrestru gyda'r NMC
- Nyrs Gofrestredig Lefel Gradd gyda thystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus
- Gwybodaeth am ymchwil glinigol gan gynnwys y broses ymchwil a gofynion rheoleiddio e.e. ICH-GCP
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster Ymchwil Clinigol
- Cymhwyster addysgu Cymhwyster mewn gofal canser/ymchwil.
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad ym Mand 5
Meini prawf dymunol
- Profiad o Dreialon Clinigol
- Profiad mewn Oncoleg
Gwerthoedd
Meini prawf hanfodol
- Gofal Cleifion o Ansawdd Uchel
Arall
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i deithio wrth gyflawni dyletswyddau
Tueddfryd a Galluoedd
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau arwain ardderchog Y gallu i weithio ar eich menter eich hun
- Sgiliau trefniadol
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol
- Eiriolwr claf da
- Sgiliau TG – gallu defnyddio
- Y gallu i ddefnyddio menter eich hun
- Gallu gweithio'n hyblyg
- Yn gweithio'n dda fel rhan o dîm ond hefyd yn gallu gweithio'n annibynnol yn ôl yr angen
- Brwdfrydig a llawn cymhelliant
- Diddordeb mewn ymchwil a datblygu
- Sylw da i fanylion
- Sgiliau cyfathrebu da
Meini prawf dymunol
- Sgiliau gwythïen-bigo/canwleiddio
- Sgiliau Addysgu a Chyflwyno
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Ruth Allan
- Teitl y swydd
- Early Phase Team Lead
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 02920 615888
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Rhestr swyddi gyda Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn Nyrsio a Bydwreigiaeth neu bob sector