Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- TG
- Gradd
- Band 3
- Contract
- Cyfnod Penodol: 24 mis (hyd y cwrs)
- Oriau
- Llawnamser
- Gweithio hyblyg
- Cyfeirnod y swydd
- 025-AC026-0226
- Cyflogwr
- Iechyd a Gofal Digidol Cymru
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Gweithio hybrid
- Tref
- Cardiff / Mold
- Cyflog
- £25,313 - £26,999 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 09/02/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Prentis Cyfrifiadura Defnyddiwr Terfynol
Band 3
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn sefydliad uchelgeisiol sydd wedi’i greu gan Lywodraeth Cymru i arwain ar drawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal digidol. Mae’n adeiladu ar bensaernïaeth ddigidol a gwasanaethau cenedlaethol a roddwyd ar waith gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru dros y degawd diwethaf.
Bydd y sefydliad yn arwain ar ddatblygiadau ar raddfa fawr sy’n gwneud gwahaniaeth sylweddol i bobl Cymru ynghyd â gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol, megis ehangu’r cofnod iechyd digidol a chreu’r Adnodd Data Cenedlaethol. Bydd yn gwella’r ffordd y mae data’n cael eu casglu, eu rhannu a’u defnyddio.
Gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr holl ohebiaeth sy’n gysylltiedig â recriwtio trwy’r cyfrif e-bost sydd wedi’i gofrestru ar yr ffurflen gais. Gwahoddir pob ymgeisydd i wneud cais yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Mae’r swydd hon am gyfnod penodol/secondiad am 24 mis yn unol â hyd y cwrs
Os oes diddordeb gyda chi mewn ceisio am swydd secondiad, mae’n rhaid i chi gael caniatad eich rheolwr llinell presennol cyn i chi geisio am y swydd hon.
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC) am benodi Prentis Cyfrifiadura Defnyddiwr Terfynol brwdfrydig i ymuno â'n tîm Gweithle Digidol. Mae hwn yn gyfle gwych i ddechrau eich gyrfa mewn TG o fewn y GIG, gan ennill profiad ymarferol wrth gwblhau eich cymhwyster prentisiaeth.
Chi fydd y pwynt cyswllt cyntaf i ddefnyddwyr gwasanaethau, gan ddarparu cymorth a gweinyddiaeth effeithlon i'r timau Gweithle Digidol. Gan weithio'n agos gyda chydweithwyr ar draws GIG Cymru, byddwch yn helpu i gynnal systemau, cefnogi gwasanaethau gweithredol, a chyfrannu at wella gwasanaethau digidol.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Prif ddyletswyddau'r swydd
- O fewn y tîm Gweithle Digidol, gweithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf i alwyr a defnyddwyr gwasanaethau, gan ddarparu cymorth i ddefnyddwyr terfynol ac ymateb i ymholiadau yn effeithlon.
- Monitro systemau galwadau ITSM, gan ddatrys neu uwchgyfeirio ceisiadau yn ôl yr angen.
- Cynnal a diweddaru taenlenni, cronfeydd data a dangosfyrddau i sicrhau adrodd cywir.
- Cynorthwyo gydag agendâu, adroddiadau a dogfennaeth ar gyfer y timau Gweithle Digidol.
- Cydweithio â chydweithwyr a sefydliadau allanol i wneud y gorau o adnoddau a gwella perfformiad adrannol.
- Mynychu sefydliad addysgol yn unol â gofynion y rhaglen brentisiaeth.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC) yn gorff cenedlaethol arbenigol ac yn rhan o GIG Cymru. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â chydweithwyr yn GIG Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill i ddarparu gwasanaethau digidol a data cenedlaethol sy’n cefnogi’r gwaith o ddarparu iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae gwasanaethau iechyd a gofal modern yn dibynnu ar offer digidol, data a gwybodaeth da. Mae IGDC yn rhedeg neu’n gweithio gyda mwy na 100 o wasanaethau ac yn darparu rhaglenni trawsnewid digidol cenedlaethol mawr i gefnogi hyn. Yn ogystal, mae IGDC yn darparu cyngor arbenigol mewn perthynas â seiberddiogelwch a llywodraethu gwybodaeth. Rydym yn rhoi’r offer digidol i staff rheng flaen sy’n eu helpu i ddarparu gofal mwy diogel a mwy effeithlon. Rydym hefyd yn rhoi offer digidol i gleifion a’r cyhoedd i reoli eu hiechyd a’u llesiant eu hunain yn well, gan rymuso pobl i fyw bywydau iachach. Rydym yn rhoi pobl wrth wraidd popeth a wnawn, gan weithio i’r safonau uchaf i ddarparu ansawdd ac i wneud digidol yn rym er gwell ym maes iechyd a gofal.
Mae gweithio i DHCW yn cynnig llawer o fuddion i weithwyr, gan gynnwys gweithio hyblyg, cyflog cystadleuol, 28 diwrnod o wyliau blynyddol yn ogystal â gwyliau banc a chyfleoedd i ddatblygu gyrfa. Rydym wedi ymrwymo i gydnabod a dathlu ein staff fel y rhan fwyaf gwerthfawr o’n sefydliad.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac
Fel Prentis Cyfrifiadura Defnyddiwr Terfynol, byddwch yn gweithio tuag at gymhwyster Lefel 3 neu Lefel 4 sy'n berthnasol i'r rôl. Disgwylir i chi gymryd cyfrifoldeb am gwblhau pob elfen o'ch rhaglen brentisiaeth, gan gynnwys gwaith cwrs, asesiadau a gweithgareddau dysgu a drefnwyd.
Mae'r brentisiaeth hon yn cynnig y cyfle i ennill profiad ymarferol wrth ddatblygu eich sgiliau technegol mewn amgylchedd cefnogol. Mae'n fan cychwyn ardderchog ar gyfer adeiladu gyrfa hirdymor ym maes TG, gan gyfuno astudiaeth strwythuredig â dysgu ymarferol yn y gwaith.
Am ymholiadau ynghylch cymhwysedd cwrs, cysylltwch â: [email protected]
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Addysg i Lefel 3 (e.e. safon Lefel A, diploma cenedlaethol neu uwch) neu’n meddu ar lefel gyfwerth o brofiad.
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth am systemau a gweithdrefnau TG Bwrdd gwaith
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o Word, Excel a gwybodaeth dda am systemau gwybodaeth (gan gynnwys cronfeydd data)
Sgiliau a Phriodoleddau
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau rhyngbersonol da.
- Yn gallu blaenoriaethu a chwrdd â therfynau amser
- Yn gallu gweithio fel rhan o dîm
Meini prawf dymunol
- Mae Sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar lefelau 1 i 5 o ran deall, siarad, darllen ac ysgrifennu yn y Gymraeg
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Johnathan Rees
- Teitl y swydd
- Senior End User Computing Engineer
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector
















