Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Caffael
- Gradd
- Gradd 5
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 043-AC120-0725
- Cyflogwr
- GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Tŷ Gorwel, Parc Dewi Sant,
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £31,516 - £38,364 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 31/07/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Diprwy Rheolwr Busnes Caffael
Gradd 5
Os ydych am ymuno â PCGC, gweler yr wybodaeth ychwanegol isod a allai fod o ddiddordeb i chi:-
Mae ein fideo “Buddion” wedi’i greu i amlygu ac arddangos rhai o fuddion gweithio i’r GIG a PCGC:- https://youtu.be/f0uCOjau8K0?si=yTKfnEKoWJ1kWyWz
Mae’r fideo “Awgrymiadau Da – Byddwch yn chi’ch Hun” wedi’i gynllunio i gefnogi ymgeiswyr sy’n gwneud cais am rolau gyda PCGC. Rydym wedi amlinellu 8 cam allweddol i helpu ymgeiswyr i fynegi eu galluoedd a’u profiad wrth gwblhau ceisiadau gyda PCGC. - https://youtu.be/ZawLc_IvcX8?si=xR89FCPYJTEiU1kM
Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff cais sydd wedi ei gyflwyno yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais sydd wedi ei gyflwyno yn y Saesneg.
Cytunwyd ar y raddfa gyflog uchod fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2025/2026 a chaiff ei weithredu ym mis Awst 2025 gydag ôl-ddyddio i 1af Ebrill 2025 lle bo'n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle wedi codi i Reolwr Busnes Caffael Cynorthwyol ymuno â Thîm Partneriaeth Caffael Integredig Hywel Dda ym Mharc Dewi Sant, Caerfyrddin.
Os ydych chi'n chwilio am yrfa mewn Caffael sy'n eich cadw'n frwdfrydig, yn cynnig potensial ar gyfer datblygiad personol ac yn eich rhoi mewn sefyllfa i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i'r GIG yng Nghymru, yna mae gan Wasanaethau Caffael NWSSP yrfa a fydd o ddiddordeb i chi.
Mae hwn yn gyfle gwych i ddatblygu eich gyrfa gaffael mewn amgylchedd deinamig, heriol ac uchel ei broffil. Yn ogystal â'r meini prawf a amlinellir yn y fanyleb, dylech ddangos sut rydych chi'n defnyddio craffter masnachol ac yn defnyddio sgiliau i gyflawni yn yr amgylchedd cymhleth, newidiol ledled GIG Cymru. Mae angen personoliaeth wydn a hanes o gyflawni atebion creadigol ac arloesol ar gyfer llwyddiant yn y rôl hon.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cyfartal i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais. Mae'r sefydliad yn cydnabod yr heriau o recriwtio ymgeiswyr o safon uchel ac mae ganddo nifer o ganolfannau ledled Cymru.
Er mai Parc Dewi Sant yng Nghaerfyrddin fyddai'r ganolfan ddewisol, mae gweithio hybrid yn fantais i'r rôl hon, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio yn y swyddfa/o gartref 2/3 diwrnod yr wythnos a gellir cynnal trafodaethau yn hyn o beth gyda'r ymgeisydd llwyddiannus.
Prif ddyletswyddau'r swydd
PCGC – Mae Gwasanaethau Caffael PCGC yn Wasanaethau Caffael sefydledig sy’n cynorthwyo Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau ledled Cymru i ddarparu gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar y claf. Rydym yn wasanaeth sydd wedi ennill gwobrau, ac rydym yn canolbwyntio ar werth am arian, diogelwch, rhagoriaeth, arloesedd ac ansawdd.
Yn Wasanaeth Caffael mae’n rhaid i ni ddarparu gwasanaeth o’r ansawdd gorau i randdeiliaid a chwsmeriaid, gan sicrhau bod y cynnyrch, y ddarpariaeth neu’r gwasanaeth cywir wedi’i gyrchu a’i gyflenwi’n effeithlon ac am y pris cywir i Gymru gyfan. Ein nod yw rhoi proses gaffael ddi-dor ar waith sy’n rhyddhau amser fel bod modd canolbwyntio ar ofalu am gleifion, ynghyd â datblygu agwedd tuag at gaffael sy’n seiliedig ar werth ac sydd â chleifion yn ganolbwynt iddi.
Mae gan Dîm Caffael PCGC swydd wag ar gyfer Rheolwr Cynorthwyol Busnes Caffael.
Dyma gyfle gwych i ddatblygu eich gyrfa gaffael mewn amgylchedd deinamig, heriol a phroffil uchel yn genedlaethol. Yn ychwanegol at y meini prawf a amlinellir yn y fanyleb, dylech ddangos sut rydych chi'n rhoi craffter masnachol ar waith ac yn defnyddio sgiliau i gyflawni yn yr amgylchedd cymhleth sy’n newid ledled GIG Cymru. Mae angen personoliaeth wydn a thystiolaeth o ddarparu atebion creadigol ac arloesol er mwyn llwyddo yn y rôl hon.
Gweithio i'n sefydliad
Ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC) rydym yn disgwyl i bawb arddel ein gwerthoedd sef: Gwrando a Dysgu, Cydweithio, Cymryd Cyfrifoldeb ac Arloesi.
Mae ein sefydliad yn annog dull gweithio ystwyth ac rydym yn ymfalchïo mewn bod yn sefydliad sy'n dysgu ac sy’n cael ei ysgogi gan welliant parhaus.
Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy’n gwerthfawrogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, gan ganolbwyntio ar lesiant a pherthyn i’n pobl.
Mae gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol yn rhywbeth yr ydym yn ymgyrraedd ato, ar gyfer ein cwsmeriaid mewnol ac allanol.
Rydym yn cynnig pecyn buddion cynhwysfawr, gyda rhywbeth i bawb. I gael gwybod mwy am weithio i ni, y buddion rydym yn eu cynnig a chanllawiau ar y broses ymgeisio ewch i https://pcgc.gig.cymru/gweithio-i-ni/
Mae PCGC yn gweithio mewn ffordd ystwyth lle bo modd. Bydd gan bob swydd ganolfan weithio gontractiol, ond fel rhan o ffyrdd ystwyth o weithio gallai hynny olygu gweithio gartref ac mewn lleoliadau eraill. Rydym hefyd yn edrych ar sut rydym yn cydbwyso hyblygrwydd gyda chymuned, a sut i reoli cyfleoedd i ddysgu oddi wrth ein gilydd.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwhysterau
Meini prawf hanfodol
- Cymwys hyd at Lefel 4 (Diploma) CIPS neu Wybodaeth / Profiad CIPS cyfatebol y gellir eu harddangos
- Gallu diffinio eich dealltwriaeth o: Rheoli categori, Rheoli risg
- Dealltwriaeth o'r dylanwadau allanol a allai effeithio ar Wasanaethau Caffael yn GIG Cymru."
Meini prawf dymunol
- Dealltwriaeth o gaffael yr UE.
- Dealltwriaeth o wella prosesau a pherfformiad, egwyddorion arferion gorau a meincnodi"
- Gwybodaeth am brosesau / gweithdrefnau Caffael Ymddiriedolaethau a Byrddau Iechyd.
Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Gallu sbarduno ac arwain gwaith casglu data cynhwysfawr ar gynhyrchion a chyflenwyr
- Gallu cyfleu gwybodaeth gymhleth yn effeithiol i grwpiau amlddisgyblaethol o staff a chwsmeriaid ar bob lefel
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad y gellir ei phrofi o gyflawni prosiectau caffael cymhleth
- Profiad o reoli prosiectau lluosog ar yr un pryd
Meini prawf dymunol
- Ymwybyddiaeth o safonau Ansawdd a gweithio gyda pholisïau a gweithdrefnau ISO.
- "Dangos profiad o gyfrannu at brosesau cynllunio busnes; cynorthwyo i ddatblygu cynllun contract a chynllun arbedion."
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Gemma Deverill
- Teitl y swydd
- Deputy Head of Operational Procurement
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector