Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Microbioleg
Gradd
Gradd 6
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (7 diwrnod o waith gan gynnwys ar alwad, penwythnosau a gwyliau cyhoeddus)
Cyfeirnod y swydd
028-HS065-0525
Cyflogwr
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Glangwili
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£37,898 - £45,637 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
18/05/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru logo

Gwyddonydd Biofeddygol Arbennigol

Gradd 6

 

Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru, asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru

Ein gweledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru

Am ragor o wybodaeth amdanom, ewch i’n tudalen hafan, darllenwch am ein cynllun strategol

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl sy’n rhannu ein gwerthoedd o Gydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth

Dilynwch ni ar TwitterFacebook, LinkedIn and Instagram

Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

 


Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.

 Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.

Trosolwg o'r swydd

NODER MAI DIM OND CEISIADAU GAN STAFF A GYFLOGIR GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU AR HYN O BRYD Y BYDDWN YN EU DERBYN.

Mae’n gyfnod cyffrous i ymuno â Microbioleg Iechyd Cyhoeddus Cymru gan ein bod wedi ehangu ein gweithlu a'r ffordd y darperir gwasanaethau Microbioleg yn ddramatig. Mae Microbioleg Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnwys rhwydwaith o labordai sydd ar hyn o bryd wedi'u lleoli ar sawl safle ledled Cymru.

Mae cyfle wedi codi i ymuno â'n Tîm Bacterioleg yn Ysbyty Caerfyrddin. Byddwch yn cael y cyfle i fod ar flaen y gad ym maes Microbioleg yng Nghymru yn dilyn buddsoddiad sylweddol mewn technoleg a staff newydd. Ein nod yw darparu gwasanaeth diagnostig ymatebol, modern, cyflym i bobl Cymru gan ddefnyddio offer o'r radd flaenaf.

I ddangos ein hymrwymiad a'n hymroddiad i'n staff rydym yn cynnig dilyniant awtomatig i Fand 6 ar ôl cwblhau eu Diploma Arbenigol IBMS (Microbioleg/ Bacterioleg Feddygol) yn llwyddiannus gyda chydymffurfiaeth 100% o ran hyfforddiant statudol a gorfodol a dogfennau cymhwysedd perthnasol. 

Bydd deiliaid y swydd llwyddiannus yn cael eu cynorthwyo'n llawn, a rhoddir hyfforddiant llawn gan ein tîm hyfforddi. Byddwch yn cael eich annog i ddatblygu a rhoddir cyfleoedd i wella eich gyrfa.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Gwahoddir ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n frwdfrydig, yn llawn cymhelliant ac yn arloesol, gyda galluoedd trefnu ac ymarferol da wedi'u cefnogi gan wybodaeth wyddonol. Dylai ymgeiswyr feddu ar sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu wedi'u datblygu'n dda a gallu i gefnogi gwaith unigol ac mewn tîm. Bydd bod yn hyblyg, gyda hunangymhelliant a sgiliau ymarferol da yn hanfodol i'ch rôl. Byddwch yn defnyddio'ch gwybodaeth a'ch sgiliau fel Gwyddonydd Biofeddygol i gyfrannu at system gadarn a chwbl weithredol yn yr adran. Byddwch yn cynorthwyo wrth adeiladu tîm cryf a chynorthwyo'r Uwch Wyddonwyr Biofeddygol i alluogi gwelliannau parhaus yn yr adran a thrwy gydol y Rhwydwaith Microbioleg.  Mae dealltwriaeth o arferion labordy da ac ISO15189 rheoli ansawdd yn ddymunol.

Bydd dydd deiliad y swydd yn cefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaeth 24/7 yn unol â rota gyhoeddedig.

Mae ein tîm yn cynnig amgylchedd gwaith amrywiol, heriol a gwerth chweil, gyda'r cyfle i fod ar flaen y gad ym maes Microbioleg yng Nghymru.

Gweithio i'n sefydliad

Iechyd Cyhoeddus Cymru yw Sefydliad Iechyd y Cyhoedd cenedlaethol Cymru. Ein gweledigaeth yw ‘Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru’. Rydym yn chwarae rhan ganolog mewn ysgogi gwelliannau o ran iechyd a llesiant y boblogaeth, lleihau anghydraddoldebau iechyd, gwella canlyniadau gofal iechyd, diogelu'r cyhoedd a chefnogi datblygiad iechyd ym mhob polisi ledled Cymru.

Caiff ein sefydliad ei arwain gan ein gwerthoedd “Cydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth”. Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy'n rhoi gwerth ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.  Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cynrychioli amrywiaeth gyfoethog y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a chan y rhai sy'n dymuno gweithio'n rhan amser neu rannu swydd.

 

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gallwch ddod o hyd i Ddisgrifiad Swydd llawn a Manyleb y Person atodedig yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwnewch gais nawr” i'w gweld yn Trac.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Wedi cofrestru fel Gwyddonydd Biofeddygol gyda'r Cyngor Proffesiynau Gofal ac Iechyd (HCPC).
  • Dealltwriaeth uwch a enillwyd trwy ennill Diploma Arbenigol y Sefydliad Gwyddor Biofeddygol (IBMS) mewn Microbioleg Feddygol/Firoleg neu gymhwyster cyfatebol.
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth arbenigol fanwl o weithdrefnau a thechnegau gweithredu mewn microbioleg ddiagnostig.
  • Yn deall ac yn gallu cymhwyso egwyddorion systemau Sicrhau Ansawdd.
Meini prawf dymunol
  • Cyfranogiad blaenorol mewn gwasanaeth y tu allan i oriau.

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Yn dangos profiad mewn Labordy Microbioleg a gymeradwyir gan yr HCPC a thechnegau moleciwlaidd.
  • Yn deall ac yn gallu cyflawni pob agwedd ar Ficrobioleg ddiagnostig arferol a’i addysgu

Sgiliau a Phriodoleddau

Meini prawf hanfodol
  • Yn gallu gwneud dyfarniadau dadansoddol cymhleth wrth ddatrys problemau. Yn gallu adnabod a delio â phroblemau sy’n ysgogi camau unioni.
  • Yn hunan-gymhellol gyda pharodrwydd i ddysgu.
  • Yn gallu gweithio'n ddibynadwy, yn effeithiol ac yn effeithlon gan ddefnyddio ei fenter ei hun.
  • Yn gallu cyfathrebu'n effeithiol â staff ar bob lefel ar lafar ac yn ysgrifenedig.
  • Yn gallu datblygu ei hun ac eraill.
  • Cynnal ymddygiad ac agwedd broffesiynol hyd yn oed mewn sefyllfaoedd llawn straen neu anodd.
  • Yn barod i weithio'n hyblyg ar draws y labordy ac ar draws safleoedd Iechyd Cyhoeddus Cymru, os oes angen. Bydd deiliad y swydd yn cefnogi'r gwasanaeth y tu allan i oriau a ddarperir gan y labordy. Mae hyn yn cynnwys gweithio ar benwythnosau a diwrnodau estynedig fel rhan o'r wythnos waith a'r gwasanaeth ar alw y tu allan i oriau.
Meini prawf dymunol
  • Yn awyddus i ddangos perfformiad personol da.
  • Gallu siarad Cymraeg/parodrwydd i ddysgu

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Final Gold LevelDisability confident leaderStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.Final Gold Level WelshRefugee Employment NetworkStep into healthHappy to Talk Flexible WorkingArmed Forces CovenantStonewall Top 100 Employers in 2023Employer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthCore principlesPrentisiaethau Apprenticeships

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Kathryn Williams
Teitl y swydd
Senior Biomedical scientist
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01267 227502
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg