Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Microbioleg
Gradd
Gradd 3
Contract
12 mis (Cyfnod Penodol am 12 mis oherwydd cyfnod mamolaeth)
Oriau
Rhan-amser - 21 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
028-ACS025-0625
Cyflogwr
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Glangwili
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£24,433 - £26,060 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
24/06/2025 23:59
Dyddiad y cyfweliad
07/07/2025

Teitl cyflogwr

Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru logo

Uwch-weithiwr Cymorth Biofeddygol

Gradd 3

 

Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru, asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru

Ein gweledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru

Am ragor o wybodaeth amdanom, ewch i’n tudalen hafan, darllenwch am ein cynllun strategol

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl sy’n rhannu ein gwerthoedd o Gydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth

Dilynwch ni ar TwitterFacebook, LinkedIn and Instagram

Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

 


Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.

 Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.

Trosolwg o'r swydd

MAE’R SWYDD HON AM GYFNOD PENODOL/SECONDIAD AM 12 MIS  OHERWYDD CYFNOD MAMOLAETH.

Rydym yn chwilio am weithiwr cymorth Biofeddygol Uwch i ymuno â'r thîm Bwyd, Dwr ac Amgylcheddol sydd wedi'i leoli yn ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin. Bydd angen i ymgeiswyr fod yn frwdfrydig, yn llawn cymhelliant ac yn arloesol, gyda galluoedd trefnu ac ymarferol da. Bydd ganddynt sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu wedi'u datblygu'n dda a gallu i arwain a chefnogi gwaith unigol ac mewn tîm.

 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cymryd rhan mewn amrywiaeth eang o dasgau labordy arferol. Mae’r rhain yn cynnwys rheoli ansawdd, prosesu samplau bwyd a dwr, cynnal a chadw offer, gweithredu offer awtomataidd, gwaredu gwastraff a dyletswyddau clercol. Bydd deiliad y swydd yn cefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau diagnostig microbiolegol ar y cyd â staff gwyddonol cymwys. Mae'n hanfodol bod deiliad swydd yn cadw at arferion Iechyd a Diogelwch llym yn y labordy, y gallu dilyn trefniadau gweithredu safonol ysgrifenedig y labordy a gweithio fel rhan o'r dîm.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cymryd rhan mewn gwaith ar ddyddiau'r wythnos, penwythnosau, gwyliau banc ac oriau anghymdeithasol, sy'n cydymffurfio â'r Agenda ar gyfer Newid a'r Gyfarwyddeb Oriau Gwaith Ewropeaidd. Yn gytundebol bydd 21 awr i'w gweithio dros wythnos waith.

 

 

Gweithio i'n sefydliad

Iechyd Cyhoeddus Cymru yw Sefydliad Iechyd y Cyhoedd cenedlaethol Cymru. Ein gweledigaeth yw ‘Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru’. Rydym yn chwarae rhan ganolog mewn ysgogi gwelliannau o ran iechyd a llesiant y boblogaeth, lleihau anghydraddoldebau iechyd, gwella canlyniadau gofal iechyd, diogelu'r cyhoedd a chefnogi datblygiad iechyd ym mhob polisi ledled Cymru.

Caiff ein sefydliad ei arwain gan ein gwerthoedd “Cydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth”. Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy'n rhoi gwerth ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.  Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cynrychioli amrywiaeth gyfoethog y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a chan y rhai sy'n dymuno gweithio'n rhan amser neu rannu swydd.

I gael rhagor o wybodaeth am weithio i ni, y buddion a gynigiwn a'r arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i https://icc.gig.cymru/gweithio-i-ni/gwybodaeth-a-chanllawiau-i-ymgeiswyr/

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • TGAU/lefel O gan gynnwys Saesneg a Mathemateg a phwnc sy'n gysylltiedig a Gwyddoniaeth.
Meini prawf dymunol
  • Tystysgrif Cyflawniad IBMS Rhan 1.

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Gwybodaeth sylfaenol am waith labordy
Meini prawf dymunol
  • Profiad o weithio mewn labordy microbioleg yn y DU

Sgiliau

Meini prawf hanfodol
  • Gallu gweithio'n ddibynadwy ac yn effeithlon ar eich menter eich hun ac fel rhan o dîm.
  • Gallu dilyn cyfarwyddiadau a gweithdrefnau geiriol ac ysgrifenedig yn gywir
  • Sgiliau TG da
Meini prawf dymunol
  • Defnydd blaenorol o'r System Rheoli Gwybodaeth Labordy (LIMS).
  • Ymwybyddiaeth o faterion Iechyd a Diogelwch ac arfer da mewn labordy.

Rhinweddau Personol

Meini prawf hanfodol
  • Dibynadwy, cydwybodol a phrydlon
  • Gallu derbyn cyfarwyddyd (ysgrifenedig a geiriol) a chymryd cyfrifoldeb am eich gweithredoedd eich hun.
  • Gallu ymdrin a phroblemau mewn ffordd dawel ac effeithlon
Meini prawf dymunol
  • Llawn cymhelliant a brwdfrydig am y gwaith a'r proffesiwn
  • Yn awyddus i ddangos perfformiad personol da

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Parodrwydd i gymryd rhan mewn diwrnod gwaith estynedig, rotau ar benwythnosau a gwyliau banc yn y labordy.
Meini prawf dymunol
  • Gallu siarad Cymraeg

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Final Gold LevelDisability confident leaderStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.Final Gold Level WelshRefugee Employment NetworkStep into healthHappy to Talk Flexible WorkingArmed Forces CovenantStonewall Top 100 Employers in 2023Employer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthCore principlesPrentisiaethau Apprenticeships

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Dariusz Olewnik
Teitl y swydd
Quality Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01267227587
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn ymweld â'r labordy i gael golwg a deall y rôl swydd.

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg