Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Microbioleg
Gradd
Gradd 5 atodiad 21Gradd 5/6 (yn dibynnu ar brofiad)
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (08:45 - 17:00 Dydd Llun - Dydd Gwener, cymryd rhan mewn rotas penwythnos ac hwyr nos ar alwad)
Cyfeirnod y swydd
028-HS015-0626
Cyflogwr
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Glangwili
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
y flwyddyn . Penodir BMS dan hyfforddiant band 5 yn atodiad 21
Yn cau
17/06/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru logo

Dan hyfforddiant/Gwyddonydd Biofeddygol/Arbennig - MEWNOL

Gradd 5 atodiad 21Gradd 5/6 (yn dibynnu ar brofiad)

 

Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru, asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru

Ein gweledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru

Am ragor o wybodaeth amdanom, ewch i’n tudalen hafan, darllenwch am ein cynllun strategol

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl sy’n rhannu ein gwerthoedd o Gydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth

Dilynwch ni ar TwitterFacebook, LinkedIn and Instagram

Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

 


Nodyn Pwysig ar gyfer swyddi a gaiff eu cynnig ar sail tymor penodol neu secondiad.

Gall unigolion sydd â swydd barhaol (sylfaenol) yn y GIG ond gael eu penodi drwy secondiad. Bydd angen i’ch Rheolwr llinell presennol roi cymeradwyaeth ar gyfer secondiad cyn gellir cyflwyno cais.


 

Trosolwg o'r swydd

Nodwch y gall y penodiad gael ei wneud ar Band 5 atodiad 21, Band 5 neu Fand 6 yn dibynnu ar brofiad. 

DALIER SYLW BYDD Y CRYWELIADAU MEWN PERSON YN UNIG

Mae’n gyfnod cyffrous i ymuno â Microbioleg Iechyd Cyhoeddus Cymru gan ein bod wedi ehangu ein gweithlu a'r ffordd y darperir gwasanaethau Microbioleg yn ddramatig. Mae Microbioleg Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnwys rhwydwaith o labordai sydd ar hyn o bryd wedi'u lleoli ar sawl safle ledled Cymru.

Mae cyfle wedi codi i ymuno â'n Tîm Bacterioleg yn Ysbyty Glangwili. Byddwch yn cael y cyfle i fod ar flaen y gad ym maes Microbioleg yng Nghymru yn dilyn buddsoddiad sylweddol mewn technoleg a staff newydd. Ein nod yw darparu gwasanaeth diagnostig ymatebol, modern, cyflym i bobl Cymru gan ddefnyddio offer o'r radd flaenaf.

I ddangos ein hymrwymiad a'n hymroddiad i'n staff rydym yn cynnig dilyniant awtomatig i Fand 6 ar ôl cwblhau eu Diploma Arbenigol IBMS (Microbioleg/ Bacterioleg Feddygol) yn llwyddiannus gyda chydymffurfiaeth 100% o ran hyfforddiant statudol a gorfodol a dogfennau cymhwysedd perthnasol. 

Bydd deiliaid y swydd llwyddiannus yn cael eu cynorthwyo'n llawn, a rhoddir hyfforddiant llawn gan ein tîm hyfforddi. Byddwch yn cael eich annog i ddatblygu a rhoddir cyfleoedd i wella eich gyrfa.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Gwahoddir ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n frwdfrydig, yn llawn cymhelliant ac yn arloesol, gyda galluoedd trefnu ac ymarferol da wedi'u cefnogi gan wybodaeth wyddonol. Dylai ymgeiswyr feddu ar sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu wedi'u datblygu'n dda a gallu i gefnogi gwaith unigol ac mewn tîm. Bydd bod gyda agwedd hyblyg at waith, gyda hunangymhelliant a sgiliau ymarferol da yn hanfodol i'ch rôl. Byddwch yn defnyddio'ch gwybodaeth a'ch sgiliau fel Gwyddonydd Biofeddygol i gyfrannu at system gadarn a chwbl weithredol yn yr adran. Byddwch yn cynorthwyo wrth adeiladu tîm cryf a chynorthwyo'r Uwch Wyddonwyr Biofeddygol i alluogi gwelliannau parhaus yn yr adran a thrwy gydol y Rhwydwaith Microbioleg.  Mae dealltwriaeth o arferion labordy da ac ISO15189 rheoli ansawdd yn ddymunol.

Bydd dydd deiliad y swydd yn cefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaeth 24/7 yn unol â rota gyhoeddedig.

Mae ein tîm yn cynnig amgylchedd gwaith amrywiol, heriol a gwerth chweil, gyda'r cyfle i fod ar flaen y gad ym maes Microbioleg yng Nghymru.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.

Gweithio i'n sefydliad

Iechyd Cyhoeddus Cymru ydym ni – yr asiantaeth iechyd y cyhoedd genedlaethol yng Nghymru. Ein pwrpas yw ‘Gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru Iachach’. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach, iachach a hapusach. Gyda'n partneriaid, rydym yn gweithio i gynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, yn awr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. 

Mae ein timau'n gweithio i atal clefydau, diogelu iechyd, a darparu arweinyddiaeth, gwasanaethau arbenigol ac arbenigedd iechyd y cyhoedd. Ni yw prif ffynhonnell gwybodaeth, ymchwil ac arloesedd iechyd y cyhoedd yng Nghymru.  Mewn byd sy'n wynebu heriau iechyd cymhleth, nid yw ein gwaith erioed wedi bod mor bwysig. 

Rydym yn cael ein harwain gan ein Gwerthoedd, 'Gweithio gyda'n gilydd, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth'. Rydym wedi ymrwymo i adeiladu gweithle cynhwysol sy'n gwerthfawrogi cydraddoldeb ac amrywiaeth.  Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cynrychioli amrywiaeth gyfoethog y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu ac sy'n cefnogi trefniadau gweithio hyblyg, gan gynnwys rolau rhan-amser a rhannu swyddi.

I gael gwybod rhagor am weithio i ni a’r buddion rydym yn eu cynnig, ewch i https://icc.gig.cymru/gyrfaoedd/

I gael arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i https://icc.gig.cymru/gyrfaoedd/gwybodaeth-a-chanllawiau-i-ymgeiswyr/

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gallwch ddod o hyd i Ddisgrifiad Swydd llawn a Manyleb y Person atodedig yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwnewch gais nawr” i'w gweld yn Trac.

 

Manyleb y person

Cymwysterau/Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Gradd Gwyddorau Fiofeddygol neu gymhwyster cyfatebol arall sy'n dderbyniol ar gyfer cofrestriad HCPC.
Meini prawf dymunol
  • Cofrestredig gyda HCPC

Cymwysterau/Profiad

Meini prawf dymunol
  • Parodrwydd i astudio ar gyfer Diploma Arbenigol IBMS.
  • Dealltwriaeth ddatblygedig a gafwyd trwy ennill Diploma Arbenigol IBMS mewn Microbioleg Feddygol

Cymwysterau/Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiadau o weithio mewn labordy Microbioleg Glinigol.
Meini prawf dymunol
  • Yn deall, yn gallu perfformio ac yn gallu dysgu pob agwedd ar Ficrobioleg ddiagnostig arferol.

Sgiliau a Phriodoleddau

Meini prawf hanfodol
  • Yn deall egwyddorion arferion da labordy, egwyddorion a phwysigrwydd Systemau Sicrwydd Ansawdd, cyfrifoldebau Iechyd a Diogelwch personol a egwyddorion Methodoleg Ymchwil a Datblygu.
Meini prawf dymunol
  • Sgiliau TG dda ac yn deall pwysigrwydd defnyddio TG yn y labordy.

Sgiliau a Phriodoleddau

Meini prawf dymunol
  • Cymryd rhan mewn sesiynau gwaith brys.

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Final Gold LevelDisability confident leaderStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.Final Gold Level WelshRefugee Employment NetworkStep into healthHappy to Talk Flexible WorkingArmed Forces CovenantStonewall Top 100 Employers in 2023Employer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthCore principlesPrentisiaethau Apprenticeships

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Rachel Ecclestone
Teitl y swydd
Senior Biomedical Scientist
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01267 227502
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Mae taith yn y labordy yn cael ei hannog. I drefnu, cysylltwch â Louise [email protected]                            Katherine Davies [email protected] or         Sian Jones [email protected]

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg