Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Prynwr
- Gradd
- Gradd 3
- Contract
- Cyfnod Penodol: 5 mis (Hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol gyfredol 31/03/2027)
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Trefniadau gweithio hyblyg ar gael gyda chyfuniad o weithio yn y swyddfa a gweithio gartref.)
- Cyfeirnod y swydd
- 043-AC174-1026
- Cyflogwr
- GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ty Gwent
- Tref
- Cwmbran
- Cyflog
- £26,813 - £27,890 Y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 06/10/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Prynwr
Gradd 3
Trosolwg o'r swydd
Mae’r swydd hon am gyfnod penodolam 5 mos oherwydd cwrdd gofynion y gwasanaeth.
Os ydych yn chwilio am yrfa ym maes Caffael sy'n eich ysgogi, yn cynnig potensial ar gyfer datblygiad personol ac yn eich rhoi mewn sefyllfa i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i'r GIG Cymru, yna mae gan Wasanaethau Caffael PCGC yrfa a fydd o ddiddordeb i chi.
Mae Gwasanaethau Caffael PCGC yn gyflogwr sefydledig sy'n cefnogi darparu nwyddau a gwasanaethau i GIG Cymru. Ein nod yw bod yn “ymgynghorydd y gellir ymddiried ynddo” ac yn bartner hollbwysig i’n cwsmeriaid ar bob mater yn ymwneud â chaffael. Rydym yn ceisio bod yn sefydliad sy’n cael argraff gadarnhaol ar bobl sy’n gweithio i ni a chyda ni, wrth gydymffurfio â set glir o werthoedd sydd wrth wraidd popeth a wnawn. Rydym yn gyflogwr arobryn, ac rydym yn cael ein cydnabod yn rheolaidd yn lleol ac yn genedlaethol am y gwaith a wnawn dros GIG Cymru ym myd caffael.
Rydym yn ymrwymedig i ddatblygu ein staff ac rydym yn cefnogi datblygiad ein staff bob blwyddyn gyda lefelau gwahanol cymwysterau CIPS. Ein nod yw meddu ar weithlu medrus, ymroddedig a phroffesiynol sy’n cefnogi GIG Cymru ym mhob agwedd ar y broses Caffael i Dalu.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad o weithio mewn amgylchedd swyddfa brysur gyda dealltwriaeth o egwyddorion prynu sylfaenol, bydd yn darparu gwasanaeth cwsmeriaid effeithlon a phroffesiynol, sy'n sicrhau arbedion/manteision cost parhaus yn unol ag amcanion y timau Caffael.
Aelod o'r Tîm, y bydd yn ofynnol iddo fabwysiadu dull hyblyg o ymdrin ag unrhyw weithgareddau a gyflawnir, a fydd yn gofyn am arfer menter, er ei fod yn gweithredu o fewn canllawiau gweithdrefnol. Cysylltu â staff ar bob lefel o fewn y sefydliadau rhanddeiliaid, staff eraill y GIG a chyflenwyr allanol. Yn meddu ar brofiad o weithio mewn swyddfa brysur, a bod yn llythrennog mewn TG.
Y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y rôl yw sylw at fanylion, gweithio i amserlenni tynn (sgiliau rheoli amser) a’r ddealltwriaeth o systemau gweithredu niferus a’u defnydd (mae llythrennedd TG yn bwysig)
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC) rydym yn disgwyl i bawb arddel ein gwerthoedd sef: Gwrando a Dysgu, Cydweithio, Cymryd Cyfrifoldeb ac Arloesi.
Mae ein sefydliad yn annog dull gweithio ystwyth ac rydym yn ymfalchïo mewn bod yn sefydliad sy'n dysgu ac sy’n cael ei ysgogi gan welliant parhaus.
Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy’n gwerthfawrogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, gan ganolbwyntio ar lesiant a pherthyn i’n pobl.
Mae gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol yn rhywbeth yr ydym yn ymgyrraedd ato, ar gyfer ein cwsmeriaid mewnol ac allanol.
Rydym yn cynnig pecyn buddion cynhwysfawr, gyda rhywbeth i bawb. I gael gwybod mwy am weithio i ni, y buddion rydym yn eu cynnig a chanllawiau ar y broses ymgeisio ewch i https://pcgc.gig.cymru/gweithio-i-ni/
Mae PCGC yn gweithio mewn ffordd ystwyth lle bo modd. Bydd gan bob swydd ganolfan weithio gontractiol, ond fel rhan o ffyrdd ystwyth o weithio gallai hynny olygu gweithio gartref ac mewn lleoliadau eraill. Rydym hefyd yn edrych ar sut rydym yn cydbwyso hyblygrwydd gyda chymuned, a sut i reoli cyfleoedd i ddysgu oddi wrth ein gilydd.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i ddisgrifiad Swydd llawn a Manyleb Person sydd wedi'u hatodi yn y dogfennau ategol neu cliciwch Gwneud cais nawr i'w weld yn Trac
Manyleb y person
Gwerthoedd
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i weithio'n gadarnhaol fel rhan o dîm.
Meini prawf dymunol
- Gallu siarad Cymraeg
Doniau a Galluoedd
Meini prawf hanfodol
- Gallu amlwg i ddefnyddio cynhyrchion Microsoft
- Sgiliau rhyngbersonol rhagorol
- Y gallu i weithio o fewn terfynau amser.
Meini prawf dymunol
- Y gallu i ddadansoddi a dehongli setiau data cymhleth.
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i weithio o fewn terfynau amser.
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth am egwyddorion prynu a chyfraith contractau
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- 1 lefel A neu NVQ lefel 3
Meini prawf dymunol
- Profiad gwaith blaenorol mewn swyddogaeth caffael
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Rachel Lee
- Teitl y swydd
- Assistant Procurement Business Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 029 2150 1672
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Cyfeiriwch at wefan Cydwasanaethau GIG Cymru am ragor o wybodaeth mewn perthynas â'r sefydliad a gwasanaethau Caffael
Rhestr swyddi gyda GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector












