Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Cynorthwyydd Cadwyn Gyflenwi
Gradd 2
Os ydych am ymuno â PCGC, gweler yr wybodaeth ychwanegol isod a allai fod o ddiddordeb i chi:-
Cliciwch yma am nesges gan ein Rheolwr Gyfarwyddwr:- Swyddi Gwag Cyfredol - Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
Mae ein fideo “Buddion” wedi’i greu i amlygu ac arddangos rhai o fuddion gweithio i’r GIG a PCGC:-
https://youtu.be/f0uCOjau8K0?si=yTKfnEKoWJ1kWyWz
Mae’r fideo “Awgrymiadau Da – Byddwch yn chi’ch Hun” wedi’i gynllunio i gefnogi ymgeiswyr sy’n gwneud cais am rolau gyda PCGC. Rydym wedi amlinellu 8 cam allweddol i helpu ymgeiswyr i fynegi eu galluoedd a’u profiad wrth gwblhau ceisiadau gyda PCGC. - https://youtu.be/ZawLc_IvcX8?si=xR89FCPYJTEiU1kM
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff cais sydd wedi ei gyflwyno yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais sydd wedi ei gyflwyno yn y Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio fel aelod o dîm prysur iawn sy'n ymwneud â derbynebu, dewis a phacio eitemau stoc, gosod cod bar a dosbarthu stoc i wardiau ac adrannau ledled yr ysbyty. Dadlwytho lorïau, gwneud cyfrif stoc blynyddol a chyflawni dyletswyddau storfeydd cyffredinol. Bydd y swydd yn cwmpasu ardal fawr o amgylch yr ysbyty a bydd yn golygu llawer o gerdded. |
Prif ddyletswyddau'r swydd
Cyfnewid gwybodaeth yn fewnol ac yn allanol gyda staff a chyflenwyr ynghylch danfoniadau, gan gynnwys amseroedd dosbarthu a nwyddau wedi'u difrodi. Cofnodi nwyddau drwy'r system Oracle FMS. Sicrhau bod nwyddau'n cael eu cylchdroi a'u storio'n gywir (lle bo hynny'n berthnasol). Cynorthwyo i gymryd stoc pan ofynnir amdano. Ymgymryd â gwaith glanhau a gofal cyffredinol holl offer y storfa o ddydd i ddydd. Cysylltu â phersonél ysbytai mewn pwyntiau derbyn a dosbarthu a sicrhau bod yr holl ddogfennaeth wedi'i llofnodi a'i chwblhau fel y bo'n briodol. Darparu a derbyn gwybodaeth reolaidd ar lafar a/neu'n ysgrifenedig, i hysbysu Cwsmeriaid a chydweithwyr. |
Gweithio i'n sefydliad
Mae gennym safonau uchel ac rydym yn disgwyl i bawb ymgorffori ein gwerthoedd Gwrando a Dysgu, Gweithio Gyda'n Gilydd, Cymryd Cyfrifoldeb ac Arloesi, tra'n sicrhau bod ymddiriedaeth, gonestrwydd a thosturi yn rhan annatod o bopeth a wnawn. Rydym yn hyblyg, yn ystwyth ac yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn sefydliad sy’n dysgu, lle mae’n ddiogel gwneud camgymeriadau, lle caiff bai ei ddisodli gan gyfleoedd i ddysgu a gwella. Mae arloesi yn rhan o bopeth a wnawn. Cydnabyddwn ein pobl yn rheolaidd trwy'r Orsaf Werthfawrogi, i annog staff i ganmol ymddygiad rhagorol ymysg ei gilydd ac fe gynhelir seremoni Gwobrau Cydnabyddiaeth Staff Blynyddol sy'n cyd-fynd â'n gwerthoedd. Rydym yn parchu ac yn gwerthfawrogi ein pobl ac yn ymdrechu i greu diwylliant o dosturi a chynwysoldeb. Rydym yn sefydliad dwyieithog sydd â thîm o Hyrwyddwyr Newid sy’n hyrwyddo ‘Dyma Ein PCGC’ ein prif raglen newid. Yn yr un modd, BALCH yw ein rhwydwaith staff newydd sy’n croesawu cydweithwyr a chynghreiriaid LHDT+ i ddod ynghyd mewn man diogel i gael trafodaethau, i gynllunio digwyddiadau ac i gael y cyfle i adeiladu rhwydweithiau cefnogol. Mae gennym becyn buddion cynhwysfawr lle mae rhywbeth at ddant pawb. Mae’n cefnogi iechyd, ymgysylltiad a lles ac mae’n cynnwys Rhaglen Cymorth i Weithwyr. Mae gennym dros 30 o Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl ac rydym yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau lleol a chenedlaethol i sicrhau llesiant a gwydnwch ein pobl.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac |
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- NVQ Lefel 2 mewn Warws a Dosbarthu (neu'n barod i weithio tuag at y cymhwyster)
Meini prawf dymunol
- NVQ Lefel 3 mewn Warws a Dosbarthu. Gwybodaeth sylfaenol o eitemau meddygol
Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gwybodaeth am Iechyd a Diogelwch
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth am COSHH
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Paul King
- Teitl y swydd
- R&D manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01437 773319
Rhestr swyddi gyda GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau yn Gwasanaethau cymorth neu bob sector