Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Gweinyddiaeth
- Gradd
- Gradd 3
- Contract
- Cyfnod Penodol: 9 mis (Tan Chwefror 2026)
- Oriau
- Rhan-amser - 34 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 028-AC116-0525
- Cyflogwr
- Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Sgrinio Coluddion Cymru
- Tref
- Llantrisant
- Cyflog
- £24,433 - £26,060 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 19/05/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Gweinyddwr Llwybr Sgrinio
Gradd 3
Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru, asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru
Ein gweledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru
Am ragor o wybodaeth amdanom, ewch i’n tudalen hafan, darllenwch am ein cynllun strategol
Dilynwch ni ar Twitter, Facebook, LinkedIn and Instagram
Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
MAE’R SWYDD HON AM GYFNOD PENODOL/SECONDIAD AM 9 MISOEDD OHERWYDD CWRDD GOFYNION Y GWASANAETH.
OS OES DIDDORDEB GYDA CHI MEWN CEISIO AM SWYDD SECONDIAD, MAE’N RHAID I CHI GAEL CANIATAD EICH RHEOLWR
Mae deiliad y swydd yn gyfrifol am ateb ymholiadau i’r llinell gymorth SCC a gweithio mewn gallu gweinyddol. Cefnogi’r gwaith gweinyddol sy’n hwyluso’r broses o alw/adalw pobl yn effeithlon ac am systemau diogelu rhag methu’r Is-adran Sgrinio.
Bydd deiliad y swydd yn cael ei recriwtio i hwyluso’r gwaith o ateb gofynion gweinyddu’r rhaglenni sgrinio yn yr ardal. Mae’r disgrifiad sy’n dilyn o’r prif ddyletswyddau a’r cyfrifoldebau o safbwynt y rhaglenni sgrinio unigol, ond mae’r gofynion o ran gallu’n angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau a chyfrifoldebau pob un o’r rhaglenni sgrinio.
Bydd gofyn i ddeiliad y swydd ateb ymholiadau o’r llinell gymorth wrth ddefnyddio’r system wybodaeth i brosesu gwahoddiadau, apwyntiadau a chanlyniadau’n gywir ac yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r rhaglen. Bydd angen i ddeiliad y swydd fod yn rhan o’r broses ddilysu er mwyn sicrhau bod y cyfranogwyr yn cael eu rheoli’n briodol. Bydd yn gyfrifol hefyd am gofnodi gwybodaeth sydd wedi’i chodio’n gywir ac am ddiweddaru’r systemau papur a chyfrifiadurol sy’n gysylltiedig â chanlyniadau cleifion. Deiliad y swydd hefyd fydd y man cyswllt cyntaf i gyfranogwyr sy’n awyddus i newid apwyntiadau i gael prawf sgrinio a/neu ar gyfer ymholiadau cyffredinol am y broses sgrinio.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae deiliad y swydd yn gyfrifol am ateb ymholiadau i’r llinell gymorth SCC a gweithio mewn gallu gweinyddol. Cefnogi’r gwaith gweinyddol sy’n hwyluso’r broses o alw/adalw pobl yn effeithlon ac am systemau diogelu rhag methu’r Is-adran Sgrinio.
Bydd deiliad y swydd yn cael ei recriwtio i hwyluso’r gwaith o ateb gofynion gweinyddu’r rhaglenni sgrinio yn yr ardal. Mae’r disgrifiad sy’n dilyn o’r prif ddyletswyddau a’r cyfrifoldebau o safbwynt y rhaglenni sgrinio unigol, ond mae’r gofynion o ran gallu’n angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau a chyfrifoldebau pob un o’r rhaglenni sgrinio.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Ni yw Iechyd Cyhoeddus Cymru - asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru. Ein diben yw ‘gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru iachach'. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach, iachach. Gyda'n partneriaid, ein nod yw cynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Gyda'i gilydd, mae ein timau'n gweithio i atal clefyd, diogelu iechyd, a darparu arweinyddiaeth, gwasanaethau arbenigol ac arbenigedd iechyd cyhoeddus. Ni yw'r brif ffynhonnell o wybodaeth, ymchwil ac arloesedd iechyd cyhoeddus yng Nghymru. Nid yw iechyd cyhoeddus erioed wedi bod mor bwysig wrth i ni ddod drwy bandemig y Coronafeirws, wynebu heriau'r argyfwng costau byw a mynd i'r afael ac atal effeithiau niweidiol newid hinsawdd.
Caiff ein sefydliad ei arwain gan ein gwerthoedd 'Cydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth'. Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy'n rhoi gwerth ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cynrychioli amrywiaeth gyfoethog y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a chan y rhai sy'n dymuno gweithio'n rhan amser neu rannu swydd.
I ddarganfod mwy am weithio i ni a'r buddion rydym yn eu cynnig, ewch i Gyrfaoedd - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)
I gael arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i Gwybodaeth a Chanllawiau i Ymgeiswyr - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- • O leiaf 5 TGAU gan gynnwys Saesneg (graddau A*-C) neu lefel cymhwyster neu brofiad cyfatebol
Meini prawf dymunol
- • NVQ lefel 3 mewn Gweinyddu Busnes neu Ofal Cwsmer neu wybodaeth a phrofiad cyfatebol amlwg gyda pharodrwydd i weithio tuag at ddiploma mewn sgrinio
Gwybodaeth a Phrofiad
Meini prawf hanfodol
- • Profiad gweinyddol blaenorol
- • Lefel dda o wybodaeth ar draws ystod eang o swyddogaethau gweinyddol
- • Profiad blaenorol o ddelio â phobl dros y ffôn neu wyneb yn wyneb
Meini prawf dymunol
- • Profiad o weithio mewn amgylchedd GIG
- • Gwybodaeth a dealltwriaeth neu raglenni sgrinio
Sgiliau a Phriodoleddau Personol
Meini prawf hanfodol
- • Y gallu i gynnal lefel uchel o gywirdeb
- • Y gallu i weithio'n dda dan bwysau a pharhau i ganolbwyntio wrth ddelio ag ymyriadau cyson
Meini prawf dymunol
- • Sgiliau cyfathrebu rhyngbersonol da - ysgrifenedig, wyneb yn wyneb a dros y ffôn
- • Y gallu i siarad, darllen ac ysgrifennu yn Gymraeg
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Josh Jones
- Teitl y swydd
- Screening Pathway Coordinator
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01443 235146
Rhestr swyddi gyda Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector