Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Arweinydd Cymorth Gofal Sylfaenol a Sicrwydd Llywodraethu Gwybodaeth
Band 6
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn sefydliad uchelgeisiol sydd wedi’i greu gan Lywodraeth Cymru i arwain ar drawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal digidol. Mae’n adeiladu ar bensaernïaeth ddigidol a gwasanaethau cenedlaethol a roddwyd ar waith gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru dros y degawd diwethaf.
Bydd y sefydliad yn arwain ar ddatblygiadau ar raddfa fawr sy’n gwneud gwahaniaeth sylweddol i bobl Cymru ynghyd â gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol, megis ehangu’r cofnod iechyd digidol a chreu’r Adnodd Data Cenedlaethol. Bydd yn gwella’r ffordd y mae data’n cael eu casglu, eu rhannu a’u defnyddio.
Gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr holl ohebiaeth sy’n gysylltiedig â recriwtio trwy’r cyfrif e-bost sydd wedi’i gofrestru ar yr ffurflen gais. Gwahoddir pob ymgeisydd i wneud cais yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Mae gennym gyfle cyffrous o fewn y tîm Llywodraethu Gwybodaeth yn y Gyfarwyddiaeth Glinigol, i weithiwr proffesiynol Llywodraethu Gwybodaeth profiadol ymuno â ni yn rôl Arweinydd Cymorth Gofal Sylfaenol a Sicrwydd Llywodraethu Gwybodaeth i gyflenwi dros gyfnod mamolaeth, ar sail cyfnod penodol neu secondiad tan fis Mehefin 2025.
Prif amcan y swydd hon yw darparu cymorth i’r Rheolwr Cymorth Gofal Sylfaenol a Sicrwydd Llywodraethu Gwybodaeth/Rheolwr Gwasanaeth DPO, gan sicrhau gweithrediad parhaus a sicrwydd nifer o raglenni gwaith Gofal Sylfaenol, Llywodraethu Gwybodaeth a chefnogi datblygiadau Pecyn Cymorth Llywodraethu Gwybodaeth Cymru.
Bydd y rôl yn gofyn am wybodaeth am Lywodraethu Gwybodaeth, Diogelu Data a Chyfrinachedd.
Bydd gofyn i chi feddu ar radd berthnasol neu brofiad mewn rôl Llywodraethu Gwybodaeth gyda phrofiad mewn rhaglenni gwaith llywodraethu gwybodaeth.
Yn ddelfrydol, bydd gennych gymhwyster cydnabyddedig mewn Diogelu Data.
Gall y rôl hon fod wedi’i lleoli yn unrhyw un o swyddfeydd Iechyd a Gofal Digidol Cymru.
Mae opsiynau rhan-amser, rhannu swydd a/neu weithio hyblyg (gan gynnwys gweithio gartref) hefyd ar gael.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Rhaid i’r ymgeiswyr delfrydol fod ag ymagwedd hyblyg tuag at weithio, ynghyd â sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol, er mwyn cefnogi datblygu fframwaith llywodraethu gwybodaeth cadarn a darparu cymorth, cyngor ac arweiniad parhaus i’r rhaglen ym mhob mater sy’n ymwneud â diogelu data a llywodraethu gwybodaeth.
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol o ddydd i ddydd am waith llywodraethu gwybodaeth ar gyfer gwasanaethau gofal sylfaenol a rhaglenni gwaith Pecyn Cymorth Llywodraethu Gwybodaeth Cymru, yn ogystal â darparu arbenigedd Llywodraethu Gwybodaeth, nodi arferion gorau a gwneud argymhellion.
Rhaid i ddeiliad y swydd feddu ar sgiliau a gwybodaeth llywodraethu gwybodaeth. Mae profiad o weithio ym maes iechyd a/neu ofal cymdeithasol yn ddymunol ar gyfer y rôl hon ond nid yw’n hanfodol.
Oherwydd daearyddiaeth a lledaeniad y gwasanaeth, bydd gofyn i chi fod ag ymagwedd hyblyg tuag at weithio ac yn gallu teithio ar adegau i wahanol safleoedd ledled Cymru yn ôl yr angen; efallai y bydd angen aros dros nos ar gyfer hyn.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) yn rhan o deulu GIG Cymru ac mae ganddo rôl bwysig wrth newid y ffordd y darperir gwasanaethau iechyd a gofal trwy dechnoleg a data. Mae’r sefydliad yn cefnogi staff rheng flaen gyda systemau modern a mynediad at wybodaeth bwysig am eu cleifion, wrth rymuso pobl Cymru i reoli eu hiechyd eu hunain trwy wasanaethau digidol GIG Cymru.
Mae gweithio i DHCW yn cynnig llawer o fuddion i weithwyr, gan gynnwys gweithio hyblyg, cyflog cystadleuol, 28 diwrnod o wyliau blynyddol yn ogystal â gwyliau banc a chyfleoedd i ddatblygu gyrfa. Rydym wedi ymrwymo i gydnabod a dathlu ein staff fel y rhan fwyaf gwerthfawr o’n sefydliad.
Ymunwch â'n tîm trawsnewidiol sy’n achub bywydau a dechrau gwneud gwahaniaeth go iawn i wasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Darparu cyngor ac arweiniad Llywodraethu Gwybodaeth arbenigol i brosiectau Gofal Sylfaenol a chefnogi datblygiad a gweithrediad parhaus Pecyn Cymorth Llywodraethu Gwybodaeth Cymru.
Gallwch ddod o hyd i Swydd-ddisgrifiad a Manyleb Person gynhwysfawr ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch ar “Gwneud Cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau a/neu Wybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gradd berthnasol neu brofiad cyfatebol
- Meddu ar gymwysterau proffesiynol cyfraith gwybodaeth neu fod yn gweithio tuag at y rhain, er enghraifft, cyfres o dystysgrifau sy'n ymwneud â Gwybodaeth gan Gymdeithas Cyfrifiaduron Prydain (BCS).
Meini prawf dymunol
- Wedi cofrestru gyda chorff proffesiynol gwybodeg perthnasol, er enghraifft, BCS
- Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus mewn meysydd cysylltiedig
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o ddarparu gwybodaeth o ansawdd uchel ar gyfer cynulleidfa fewnol ac allanol
- Profiad o weithio ar brosiectau sy'n hwyluso gwell arferion Llywodraethu Gwybodaeth ac yn tynnu sylw at lwyddiannau
- Dealltwriaeth o gyfrinachedd yn seiliedig ar ddiogelu data’r DU / Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data’r DU ac egwyddorion Caldicott
- Gwybodaeth a phrofiad o ddefnyddio iaith a therminoleg dechnegol
- Profiad o ddatblygu gweithdrefnau a dogfennau canllaw, a diweddaru adnoddau gwybodaeth dros Gymru gyfan
- Sgiliau cyfathrebu a sgiliau rhyngbersonol rhagorol wrth ddelio â gwybodaeth gymhleth a sensitif iawn i ystod eang o randdeiliaid, ac oddi wrthynt
- Profiad o flaenoriaethu gwaith i gwrdd â therfynau amser mewn amgylchedd dan bwysau mawr
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio ar draws ffiniau sefydliadol a phroffesiynol mewn sefydliad cymhleth
Sgiliau a Phriodoleddau
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau cyfathrebu a sgiliau rhyngbersonol ardderchog wrth ddelio ag ystod eang o randdeiliaid
- Gallu cyfleu gwybodaeth gymhleth yn effeithiol mewn adroddiadau, cyflwyniadau neu wrth ymateb i ymholiadau
- Gallu rhoi sylw i fanylion a chynhyrchu gwaith o safon uchel
- Sgiliau cynllunio rhagorol
- Gallu datblygu a chynnal perthnasoedd gwaith effeithiol ar draws timau aml-swyddogaeth a ffiniau sefydliadol
- Sgiliau trefnu rhagorol
- Gallu rheoli llwythi gwaith cymhleth a chyflawni sawl tasg ar yr un pryd mewn amgylcheddau cymhleth a sensitif.
- Gallu dangos sgiliau TG rhagorol, gan gynnwys MS Outlook, Word, Excel, PowerPoint a systemau ar y we
Meini prawf dymunol
- Mae Sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar lefelau 1 i 5 o ran deall, siarad, darllen ac ysgrifennu
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Cora Suckley
- Teitl y swydd
- DPO Service Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector