Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Gweinyddiaeth
- Gradd
- Gradd 4
- Contract
- 7 mis (Secondiad tan 31 Mawrth 2026 yn unol â'r cyllid sydd ar gael)
- Oriau
- Llawnamser
- Gweithio hyblyg
- Cyfeirnod y swydd
- 082-AC051-0725
- Cyflogwr
- Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ty Dysgu
- Tref
- Nantgarw
- Cyflog
- £26,928 - £29,551 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 27/07/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Gweinyddwr Cymorth Prosiect
Gradd 4
Trosolwg o'r swydd
Mae hwn yn gyfle cyffrous i fod yn rhan o sefydlu'r tîm Trawsnewid Gweithlu Therapïau Seicolegol arloesol o fewn Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Rydym yn chwilio am Weinyddwr Cymorth Prosiect a all ddarparu cymorth prosiect gweinyddol i gynorthwyo gyda chynllunio, monitro a chyflwyno rhaglenni a phrosiectau sy'n cefnogi cyflawni amcanion strategol Trawsnewid Gweithlu Therapïau Seicolegol.
Mae’r swydd hon am gsecondiad am31.03.2026 otherwydd cyllido
Mae'r swydd hon yn cael ei chynnig fel cyfle secondiad yn unig. Os dymunwch wneud cais, rhaid i chi gael cymeradwyaeth eich rheolwr llinell cyn ymgeisio. Mae’r swydd hon am gyfnod secondiad penodol ond gellir ei hymestyn neu ei gwneud yn barhaol ar ddiwedd y cyfnod secondiad yn dibynnu ar y cyllid sydd ar gael a’r gofynion busnes.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd sicrhau bod y portffolio o dasgau a phrosiectau yn cael ei gynllunio, ei reoli, a'i gyflwyno'n effeithiol i ddiwallu, a rhagori lle bo modd, ar anghenion busnes cymhleth AaGIC.
Bydd deiliaid y swydd yn cefnogi cyfathrebu cadarn a rheolaeth rhanddeiliaid, gan ymgysylltu â grŵp eang ac amrywiol o unigolion a sefydliadau ar draws GIG Cymru a sefydliadau partner eraill, gan gynhyrchu gwaith i derfynau amser wrth sicrhau cydymffurfiaeth â pholisïau a gweithdrefnau AaGIC.
Bydd disgwyl i ddeiliaid y swydd weithio'n annibynnol, gan ddefnyddio eu menter eu hunain i reoli eu portffolio o waith, gan weithio o fewn polisïau a gweithdrefnau diffiniedig.
Mae’r swydd hon am gyfnod penodol am 7 mis oherwydd cwrdd gofynion y gwasanaeth.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yw'r corff gweithlu strategol ar gyfer GIG Cymru sydd â swyddogaethau statudol sy'n cynnwys addysg a hyfforddiant, cynllunio'r gweithlu, datblygu a thrawsnewid y gweithlu, arweinyddiaeth a chynllunio olyniaeth, a gyrfaoedd. Ein diben yw datblygu gweithlu sy'n darparu gofal rhagorol i gleifion/defnyddwyr gwasanaethau ac iechyd rhagorol yn y boblogaeth. Rydym yn Awdurdod Iechyd Arbennig sy'n gweithio'n agos gyda'n partneriaid; Gofal Cymdeithasol Cymru, darparwyr addysg, cyrff proffesiynol a rheoleiddiol a Llywodraeth Cymru.
Mae AaGIC wedi ymrwymo i ddatblygu diwylliant mewnol o ddewis. Mae ein Gwerthoedd yn adlewyrchu ein meddyliau, ein teimladau a'n credoau o ran sut y byddwn, ac na fyddwn, yn ymddwyn ac yn trin eraill:
- Parch i Bawb ym mhob cyswllt sydd gennym ag eraill,
- Syniadau sy'n Gwella: Harneisio creadigrwydd ac arloesi, gwerthuso a gwella'n barhaus,
- Gyda'n Gilydd fel Tîm
Derbyniodd AaGIC Wobr HPMA ar gyfer Ymgysylltu â Gweithwyr yn 2019.
Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl:
- cyfnod ymsefydlu corfforaethol ag amserlen Croeso 90 diwrnod,
- arweinyddiaeth dosturiol,
- proses arfarnu perfformiad ystyrlon sy'n seiliedig ar werthoedd,
- y cyfle i effeithio ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a bywydau a lles pobl Cymru.
Mae llawer o'n cydweithwyr a'n rhanddeiliaid wedi gwneud sylwadau ar y cyffro a'r awyrgylch a olygwn drwy gydweithio fel "Un Tîm AaGIC". Ydych chi am ymuno â'r tîm hwnnw?
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i ddisgrifiad Swydd llawn a Manyleb Person o fewn y dogfennau ategol neu cliciwch "Gwnewch gais nawr" i'w weld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau a/neu Wybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster busnes Lefel 4 neu brofiad cyfatebol
- Tystiolaeth o DPP diweddar
Meini prawf dymunol
- ECDL neu brofiad a/neu gymwysterau cyfatebol
- Cymhwyster rheoli prosiectau e.e., PRINCE II ystwyth, MSP
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Yn gyfarwydd ac yn gymwys â phecynnau TG Microsoft, yn enwedig Word, Excel, a PowerPoint
- Profiad helaeth o weithio mewn rôl weinyddol heriol/dwysedd uchel gan gynnwys sgiliau sefydliadol a datrys problemau i oruchwylio cyflawni prosiectau yn llwyddiannus
- Profiad amlwg o sefydlu systemau a gweithdrefnau gweinyddol sy'n gwneud gwelliannau lle bo angen
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio o fewn y GIG
Addasrwydd a Galluoedd
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau cyfathrebu llafar acysgrifenedig ardderchog
- Y gallu i weithio i gwrdd Terfynau amser
- Gallu i flaenoriaethu
- Sgiliau trefnu da
- Hunan-gymhellol ac yn gallu gweithio heb oruchwyliaeth
- Yn gallu gweithio fel rhan o dîm
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1) neu barodrwydd i weithio tuag at
Arall
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i deithio o amgylch Cymru mewn modd amserol yn ôl yr angen
Values
Meini prawf hanfodol
- Dull hyblyg o weithio i ddiwallu anghenion y busnes
- Ymagwedd barchus a chynhwysol tuag at bawb
- Parodrwydd i weithio gyda'i gilydd fel rhan o dîm sy'n perfformio'n uchel
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Dr Charlotte Montgomery
- Teitl y swydd
- Workforce Transformation Psychological Therapies
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
I gael rhagor o wybodaeth am y rolau hyn, cysylltwch â [email protected]
Rhestr swyddi gyda Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector