Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Ddigidol
Gradd
Gradd 8b
Contract
Parhaol
Oriau
  • Llawnamser
  • Gweithio hyblyg
37.5 awr yr wythnos (Model gweithio ystwyth i ganiatáu hyblygrwydd rhwng gweithio gartref a gweithio yn y swyddfa.)
Cyfeirnod y swydd
082-AC083-1025
Cyflogwr
Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Health Education Improvement Wales
Tref
Nantgarw
Cyflog
£65,424 - £76,021 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
06/11/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) logo

Pennaeth Sgiliau a Galluoedd Digidol

Gradd 8b

Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo cynhwysiant yn AaGIC ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb sy'n cydnabod y gwerth y mae amrywiaeth yn ei roi i'n gweithlu. I weithio yn y DU, mae angen i ymgeiswyr nad ydynt yn ddinasyddion y DU neu Weriniaeth Iwerddon (ROI) gael eu noddi trwy Fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod ganddynt ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Sylwch nad oes gan AaGIC drwydded ar hyn o bryd i benodi gweithwyr medrus o dramor drwy eu noddi i weithio yn y DU. Os byddant yn llwyddiannus, byddai ymgeiswyr o'r tu allan i'r DU neu ROI yn gyfrifol am gael eu nawdd neu fisa eu hunain i'w galluogi i weithio i AaGIC - Gweithio yn y DU - Work in the UK

Gall y swydd wag hon gau'n gynnar os bydd yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Cwblhewch a chyflwynwch eich cais mewn da bryd i osgoi cael eich siomi.

Trosolwg o'r swydd

Mae Pennaeth Sgiliau a Galluoedd Digidol yn arfer arweinyddiaeth strategol a goruchwyliaeth weithredol ar lefel genedlaethol wrth adeiladu gallu ac arweinyddiaeth ddigidol ar draws y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae'r rôl hon yn rhan annatod o nod strategol AaGIC o greu gweithlu sy'n hyderus yn ddigidol, yn alluog, ac yn gysylltiedig. Bydd gan ddeiliad y swydd atebolrwydd llawn am ddatblygiad strategol, cyflawniad gweithredol, a rheoli perfformiad rhaglen sgiliau digidol ac arweinyddiaeth genedlaethol, yn unol â'r Fframwaith Gallu Digidol a nodau trawsnewid digidol cenedlaethol. Bydd deiliad y swydd hefyd yn chwarae rhan ganolog wrth gyflawni model deuol Addysg a Gwella Iechyd Cymru, gan arwain rhaglenni mewnol wrth weithio mewn partneriaeth â phartner strategol allanol. Bydd hyn yn gofyn am ddadansoddiad arbenigol o argymhellion allanol, dehongli arfer gorau rhyngwladol, a chyd-destunoli o fewn anghenion penodol GIG Cymru.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd y rôl yn:

·         Arwain ar y gwaith o ddylunio a chyflawni mentrau uwchsgilio digidol cenedlaethol yn strategol ar draws y gweithlu cyfan.

·         Datblygu cynnwys addysgol cynhwysol, llwybrau arweinyddiaeth ddigidol, a rhwydwaith hyrwyddwyr digidol.

·         Adeiladu cynghreiriau strategol a dylanwadu ar randdeiliaid ar draws GIG Cymru, y llywodraeth, a'r byd academaidd ar draws GIG Cymru, Llywodraeth Cymru, a'r sectorau addysg i ymgorffori sgiliau digidol mewn rhaglenni datblygu'r gweithlu ac arweinyddiaeth.

Sicrhau gwelliant parhaus a mesur effaith mentrau gallu digidol. Darparu cyngor awdurdodol i fforymau llywodraethu cenedlaethol, gan gynnwys Grŵp Gallu Gweithlu DDaT a Bwrdd Arweinyddiaeth DDaT, gan sicrhau bod blaenoriaethau'r gweithlu digidol wedi'u halinio â thargedau perfformiad y GIG, Cynlluniau Tymor Canolig Integredig, a strategaethau Llywodraeth Cymru.

Gweithio i'n sefydliad

Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yw'r corff gweithlu strategol ar gyfer GIG Cymru sydd â swyddogaethau statudol sy'n cynnwys addysg a hyfforddiant, cynllunio'r gweithlu, datblygu a thrawsnewid y gweithlu, arweinyddiaeth a chynllunio olyniaeth, a gyrfaoedd.  Ein diben yw datblygu gweithlu sy'n darparu gofal rhagorol i gleifion/defnyddwyr gwasanaethau ac iechyd rhagorol yn y boblogaeth. Rydym yn Awdurdod Iechyd Arbennig sy'n gweithio'n agos gyda'n partneriaid; Gofal Cymdeithasol Cymru, darparwyr addysg, cyrff proffesiynol a rheoleiddiol a Llywodraeth Cymru.

 

Mae AaGIC wedi ymrwymo i ddatblygu diwylliant mewnol o ddewis. Mae ein Gwerthoedd yn adlewyrchu ein meddyliau, ein teimladau a'n credoau o ran sut y byddwn, ac na fyddwn, yn ymddwyn ac yn trin eraill:

- Parch i Bawb ym mhob cyswllt sydd gennym ag eraill,

- Syniadau sy'n Gwella: Harneisio creadigrwydd ac arloesi, gwerthuso a gwella'n barhaus,

- Gyda'n Gilydd fel Tîm

 

Derbyniodd AaGIC Wobr HPMA ar gyfer Ymgysylltu â Gweithwyr yn 2019.

 

Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl:

- cyfnod ymsefydlu corfforaethol ag amserlen Croeso 90 diwrnod,

- arweinyddiaeth dosturiol,

- proses arfarnu perfformiad ystyrlon sy'n seiliedig ar werthoedd,

- y cyfle i effeithio ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a bywydau a lles pobl Cymru.

 

Mae llawer o'n cydweithwyr a'n rhanddeiliaid wedi gwneud sylwadau ar y cyffro a'r awyrgylch a olygwn drwy gydweithio fel "Un Tîm AaGIC". Ydych chi am ymuno â'r tîm hwnnw?

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Gradd Meistr neu lefel gyfwerth o wybodaeth a gafwyd trwy brofiad helaeth ar lefel strategol uwch mewn trawsnewid digidol, addysg, neu ddatblygu'r gweithlu.
  • Dealltwriaeth fanwl o lythrennedd digidol, llythrennedd data, a fframweithiau arweinyddiaeth.
  • Gwybodaeth am dechnolegau iechyd sy'n dod i'r amlwg gan gynnwys deallusrwydd artiffisial, gofal rhithwir, dadansoddi data, a diogelwch clinigol digidol.
  • Cyfarwydd â gofynion llywodraethu a rheoleiddio ar gyfer ymgorffori galluoedd digidol yn natblygiad y gweithlu.
Meini prawf dymunol
  • Dealltwriaeth o system iechyd a gofal digidol Cymru.
  • Cyfarwydd â phasbortau digidol, micro-gymwysterau, neu Fframwaith Cymhwysedd Rheoli'r DU

Sgiliau a Phriodoleddau

Meini prawf hanfodol
  • Arbenigedd mewn dylunio sy'n canolbwyntio ar y dysgwr, arloesedd mewn addysg, a sicrhau ansawdd.
  • Sgiliau rheoli prosiectau a rhaglenni uwch.

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad helaeth o ddylunio ac arwain rhaglenni sgiliau digidol neu allu gweithlu cymhleth, traws-sector ar lefel genedlaethol neu system.
  • Hanes profedig o gydweithio â phartneriaid fel DHCW, SAUau, cyrff proffesiynol, a sefydliadau'r GIG
  • Profiad o ymgorffori sgiliau digidol mewn datblygu arweinyddiaeth, addysg glinigol, a safonau proffesiynol.
  • Profiad o gomisiynu, rheoli a gwerthuso rhaglenni neu bartneriaethau strategol a gyflwynir yn allanol
  • Profiad o ymgysylltu â rhanddeiliaid uwch, sicrhau cyllid, ac arwain llywodraethu rhaglenni.
Meini prawf dymunol
  • Profiad o ddatblygu asesiadau aeddfedrwydd digidol, micro-gymwysterau, neu ardystiadau dysgu digidol.
  • Profiad o gymhwyso sganio gorwelion a meincnodi rhyngwladol i fentrau datblygu'r gweithlu.

Sgiliau a Phriodoleddau

Meini prawf hanfodol
  • Arweinyddiaeth strategol a systemau gyda'r gallu i drosi gweledigaeth yn ddarpariaeth weithredol.
  • Sgiliau cyfathrebu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid rhagorol ar draws proffesiynau a ffiniau sefydliadol.
  • Y gallu i adeiladu cymunedau ymarfer cynhwysol a meithrin diwylliant o hyder ac arloesedd digidol.

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Stonewall Hyrwyddwr Amrywiaeth Diversity ChampionDisability confident committedDying to Work CharterERS Silver Banner WelshEmployer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental health

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Craig Barker
Teitl y swydd
Assistant Director of Digital: Data & Analytics
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg