Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Cyllid
- Gradd
- Gradd 5
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Gweithio hyblyg
- Cyfeirnod y swydd
- 082-AC081-1025
- Cyflogwr
- Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ty Dysgu
- Tref
- Nantgarw
- Cyflog
- £31,516 - £38,364 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 23/10/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Cyfrifydd Rheoli Cynorthwyol
Gradd 5
Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo cynhwysiant yn AaGIC ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb sy'n cydnabod y gwerth y mae amrywiaeth yn ei roi i'n gweithlu. I weithio yn y DU, mae angen i ymgeiswyr nad ydynt yn ddinasyddion y DU neu Weriniaeth Iwerddon (ROI) gael eu noddi trwy Fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod ganddynt ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Sylwch nad oes gan AaGIC drwydded ar hyn o bryd i benodi gweithwyr medrus o dramor drwy eu noddi i weithio yn y DU. Os byddant yn llwyddiannus, byddai ymgeiswyr o'r tu allan i'r DU neu ROI yn gyfrifol am gael eu nawdd neu fisa eu hunain i'w galluogi i weithio i AaGIC - Gweithio yn y DU - Work in the UK
Gall y swydd wag hon gau'n gynnar os bydd yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Cwblhewch a chyflwynwch eich cais mewn da bryd i osgoi cael eich siomi.
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn chwilio am weithiwr cyllid proffesiynol brwdfrydig, cymelledig ac ymroddedig i ymuno â thîm cyllid AaGIC fel Cyfrifydd Rheoli Cynorthwyol. Bydd y rôl yn cynorthwyo'r Partneriaid Busnes Cyllid i ddarparu rheolaeth ariannol ac adroddiadau ariannol i gefnogi cyflawniad blaenoriaethau a deilliannau strategol AaGIC yn y tymor byr a'r tymor hir.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd y Cyfrifydd Rheoli Cynorthwyol yn swydd allweddol o fewn y tîm cyllid a bydd yn darparu cefnogaeth ar draws yr adran gyllid ehangach a'r sefydliad, gan weithio i sicrhau bod cyfanrwydd y systemau ariannol yn cael ei gynnal.
Bydd deiliad y swydd yn sicrhau bod gwybodaeth ariannol yn cael ei phrosesu'n amserol, yn gywir ac yn unol â gweithdrefnau i gefnogi adrodd mewnol i uwch reolwyr, Cyfarwyddwyr a Bwrdd AaGIC.
Bydd yn ofynnol hefyd i ddeiliad y swydd ddarparu cefnogaeth i rolau eraill o fewn yr Adran Gyllid ac adrannau eraill yn AaGIC yn ôl yr angen.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yw'r corff gweithlu strategol ar gyfer GIG Cymru sydd â swyddogaethau statudol sy'n cynnwys addysg a hyfforddiant, cynllunio'r gweithlu, datblygu a thrawsnewid y gweithlu, arweinyddiaeth a chynllunio olyniaeth, a gyrfaoedd. Ein diben yw datblygu gweithlu sy'n darparu gofal rhagorol i gleifion/defnyddwyr gwasanaethau ac iechyd rhagorol yn y boblogaeth. Rydym yn Awdurdod Iechyd Arbennig sy'n gweithio'n agos gyda'n partneriaid; Gofal Cymdeithasol Cymru, darparwyr addysg, cyrff proffesiynol a rheoleiddiol a Llywodraeth Cymru.
Mae AaGIC wedi ymrwymo i ddatblygu diwylliant mewnol o ddewis. Mae ein Gwerthoedd yn adlewyrchu ein meddyliau, ein teimladau a'n credoau o ran sut y byddwn, ac na fyddwn, yn ymddwyn ac yn trin eraill:
- Parch i Bawb ym mhob cyswllt sydd gennym ag eraill,
- Syniadau sy'n Gwella: Harneisio creadigrwydd ac arloesi, gwerthuso a gwella'n barhaus,
- Gyda'n Gilydd fel Tîm
Derbyniodd AaGIC Wobr HPMA ar gyfer Ymgysylltu â Gweithwyr yn 2019.
Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl:
- cyfnod ymsefydlu corfforaethol ag amserlen Croeso 90 diwrnod,
- arweinyddiaeth dosturiol,
- proses arfarnu perfformiad ystyrlon sy'n seiliedig ar werthoedd,
- y cyfle i effeithio ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a bywydau a lles pobl Cymru.
Mae llawer o'n cydweithwyr a'n rhanddeiliaid wedi gwneud sylwadau ar y cyffro a'r awyrgylch a olygwn drwy gydweithio fel "Un Tîm AaGIC". Ydych chi am ymuno â'r tîm hwnnw?
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i ddisgrifiad Swydd llawn a Manyleb Person o fewn y dogfennau ategol neu cliciwch "Gwnewch gais nawr" i'w weld yn Trac.
Byddem yn falch iawn o glywed gennych, ac os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu gael sgwrs anffurfiol, cysylltwch â [email protected].
Manyleb y person
Cymwysterau a/neu Wybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Aelod o AAT neu gymhwyster ar lefel Tystysgrif CCAB neu gyfwerth.
- Addysgedig i lefel Gradd mewn pwnc perthnasol neu brofiad cyfatebol.
Meini prawf dymunol
- Defnyddio systemau cyfriflyfr cyffredinol Oracle.
- Gwybodaeth fanwl am gyfundrefn Cyllid y GIG a pholisïau Cyllid y GIG.
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o Gyfrifeg Rheoli.
Meini prawf dymunol
- Wedi gweithio yng nghyd-destun cyllid y GIG.
- Adnabyddiaeth o ORACLE a QlikView.
Arall
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i deithio ar adegau pan na ellir cynnal cyfarfodydd rhithwir â rhanddeiliaid allanol.
Sgiliau a Phriodoleddau
Meini prawf hanfodol
- Lefel uchel o ran sgiliau rhifedd.
- Sgiliau dadansoddi cryf.
- Sgiliau TG rhagorol, gan gynnwys profiad gyda phob un o raglenni Microsoft.
- Y gallu i gyfathrebu materion ariannol cymhleth a manwl mewn modd clir a syml.
- Cynhyrchu gwaith o safon gan roi sylw i fanylion.
Meini prawf dymunol
- Mae Sgiliau Cymraeg yn ddymunol, lefelau 1 i 5 mewn deall, siarad, darllen ac ysgrifennu yn Gymraeg
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Helen Satherley
- Teitl y swydd
- Finance Business Partner
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
-
Byddem yn falch iawn o glywed gennych, ac os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu gael sgwrs anffurfiol, cysylltwch â [email protected].
-
Rhestr swyddi gyda Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector