Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Administrative
- Gradd
- NHS AfC: Band 8b
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 120-AC288-0925
- Cyflogwr
- Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Velindre NHS Trust
- Tref
- Nantgarw
- Cyflog
- £65,424 - £76,021 per annum
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 18/09/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Pennaeth Seilwaith Digidol
NHS AfC: Band 8b
Diolch am eich diddordeb mewn gweithio i Ganolfan Ganser Felindre (CGF), sy'n gyflogwr cyfle cyfartal ymroddedig. Mae CGF yn croesawu ceisiadau gan bobl sy'n rhannu ein gweledigaeth;
Bydd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn cael ei chydnabod yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol fel sefydliad enwog o ragoriaeth mewn perthynas â gofal rhoddwyr a chleifion, addysg ac ymchwil.
ein gwerthoedd;
- Gofalgar
- Parchus
- Atebol
ac a fydd yn ategu’r gweithwyr profiadol ac arbenigol sydd gennym ar hyn o bryd, sydd yn frwdfrydig dros weithio mewn sefydliad sydd â’r uchelgais i ddarparu gwasanaethau a gofal o'r radd flaenaf i'n cleifion.
Mae gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre le arbennig ym maes gofal iechyd yng Nghymru. Mae’n sefydliad anhygoel i weithio ynddo ac i ddatblygu eich gyrfa hefyd. Mae'r Ymddiriedolaeth yn cynnwys dwy adran, sef Canolfan Ganser Felindre a Gwasanaeth Gwaed Cymru. Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP) a Thechnoleg Iechyd Cymru (HTW) yn disgyn dan adain yr Ymddiriedolaeth hefyd, ar ran Llywodraeth Cymru a GIG Cymru.
Mae CGF yn cynnig cyflog cystadleuol i’n gweithwyr, ynghyd â nifer o gynlluniau gwobrwyo, buddion a chefnogaeth i staff.
Os hoffech chi ragor o wybodaeth am y swydd wag hon, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio, a fydd yn falch o drafod y cyfle hwn gyda chi.
Gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr holl ohebiaeth sy'n gysylltiedig â recriwtio trwy'r cyfrif e-bost sydd wedi cael ei roi ar y ffurflen gais.
Mae gan yr Ymddiriedolaeth yr hawl hefyd i gau swydd wag yn gynnar neu i dynnu hysbyseb yn ôl ar unrhyw gam o'r broses, er mwyn caniatáu i staff mewnol gael eu hadleoli i rolau addas.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Ydych chi’n teimlo’n frwdfrydig ynghylch sut y gall gwasanaethau digidol drawsnewid gofal iechyd, ar gyfer ein rhoddwyr, cleifion a chydweithwyr? Mae gennym gyfle cyffrous yn y Tîm Gwasanaethau Digidol ar gyfer Pennaeth Seilwaith Digidol, i weithio ar y cyd ar draws yr Ymddiriedolaeth a GIG Cymru yn ehangach, i ddarparu systemau digidol trawsnewidiol a gwasanaethau dan arweiniad mewnwelediad.
Rydym mewn cyfnod cyffrous o newid, fel y nodir yn y ddogfen Cyrchfan 2033, sy’n cynnwys agor canolfan ganser newydd o safon fyd-eang i ymestyn a gwella triniaeth canser arbenigol, ynghyd â darparu gofal canser yn nes at adref mewn safleoedd rhanbarthol. Ar gyfer Gwasanaeth Gwaed Cymru, rydym yn trawsnewid gwasanaethau gwaed a thrawsblaniadau, ac yn gwella galluoedd presennol, ochr yn ochr â datblygu gwasanaethau newydd, gan gynnwys plasma ar gyfer meddyginiaethau.
Mae strategaeth ddigidol uchelgeisiol yn cefnogi hyn, a fydd yn chwyldroi’r ffordd yr ydym yn darparu gwasanaethau – o gyd-gynhyrchu technolegau arloesol, gweithio ar gynhwysiant digidol, i fewnosod data a mewnwelediad i’n bywyd bob dydd. Mae ein tîm yma i ddarparu atebion digidol newydd a gwasanaeth digidol dyddiol rhagorol, i wella gwasanaethau a chanlyniadau.
Rydym yn cydnabod bod gwasanaeth trawsnewid digidol llwyddiannus yn ymwneud cymaint â’n pobl a’n diwylliant ag y mae i’w wneud â thechnoleg.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol yn weithredol am weithredu elfennau seilwaith y Strategaeth Ddigidol a'i Chynllun Cyflawni Strategol cysylltiedig a sicrhau bod y seilwaith ar waith i gefnogi darparu gofal iechyd diogel, effeithiol ac effeithlon. Bydd hyn yn gofyn am wybodaeth a dealltwriaeth fanwl ar draws holl ystod y gwasanaethau seilwaith gyda'r weledigaeth, y brwdfrydedd a'r mewnwelediad i dynnu'r llinynnau cymhleth ac amrywiol hyn yn gynllun cydlynol, dealladwy sy'n darparu atebion technegol amserol a chywir i ategu gofal iechyd o ansawdd uchel. Bydd deiliad y swydd yn gweithredu fel arbenigwr seilwaith ar ystod o grwpiau traws-broffesiynol, yn aml ar lefel genedlaethol, ac yn cynnwys cynrychiolaeth ar draws nifer o fyrddau technegol. Fel gweithiwr proffesiynol Digidol/Seilwaith, bydd deiliad y swydd yn darparu arbenigedd technegol wrth ddehongli a chyflwyno atebion technegol cymhleth iawn ar gyfer uwch reolwyr o fewn yr Ymddiriedolaeth. Byddant yn dirprwyo ar ran y Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cyflenwi Digidol ym mhob maes.
Gweithio i'n sefydliad
Yma yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, rydym yn hynod falch o'r gwasanaethau arbenigol a ddarparwn ledled Cymru yn ein Canolfan Ganser Felindre arloesol ac ein Gwasanaeth Gwaed Cymru gwobrwyedig. Yn ogystal ag arbenigedd ein swyddogaethau corfforaethol sy'n dod â'r ddwy adran at ei gilydd. Rydym hefyd yn ffodus i gynnal Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a Thechnoleg Iechyd Cymru ac rydym wedi datblygu gwaith partneriaeth cryf gyda'r gwasanaethau arbenigol hyn.
Wedi'i sefydlu ym 1999, mae gan yr Ymddiriedolaeth weithlu ymroddedig sy'n ymdrechu'n barhaus i ddarparu egwyddorion allweddol gofal iechyd sy'n seiliedig ar Werth drwy amrywiaeth eang o rolau. Rydym yn chwarae rhan hanfodol yn y cymunedau rydym yn eu cefnogi ac mae gennym gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol i barhau i wella'r gwasanaethau a ddarparwn. Rydym yn ymdrechu i gynnal ein gwerthoedd craidd ym mhopeth a wnawn drwy fod yn; atebol, beiddgar, gofalgar a deinamig, a sicrhau'r gofal gorau posibl i'n cleifion a'n rhoddwyr.
Os ydych am weithio i sefydliad sy'n ymfalchïo mewn gwneud gwahaniaeth go iawn ac sy'n cynnig cyfleoedd gyrfa cyffrous, yna Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yw'r lle i chi.
Ewch i'n gwefan i gael rhagor o wybodaeth: https://velindre.nhs.wales/
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb Person ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch "Gwneud cais nawr" i'w gweld yn Trac
Manyleb y person
Qualifications
Meini prawf hanfodol
- Addysg hyd at lefel gradd Meistr neu brofiad cyfatebol
- Hyfforddiant PRINCE2 (ffurfiol neu anffurfiol)
- Gwybodaeth dechnegol helaeth dros ystod o ddisgyblaethau gan gynnwys Seilwaith Digidol, AD, Cyllid.
- Tystiolaeth o ddatblygiad pellach a neu addysg a hyfforddiant
Experience
Meini prawf hanfodol
- Profiad sylweddol ar lefel uwch reolwr o fewn amgylchedd TGCh/Digidol
- Hanes blaenorol o lwyddo ar lefel reoli
- Profiad o gynllunio, monitro a rheoli prosiectau’n llwyddiannus gan ddefnyddio methodoleg strwythuredig (e.e. PRINCE2)
- Hanes blaenorol profedig o arloesi a gweithredu technegol
- Profiad a gwybodaeth fanwl o'r broses gaffael a datblygu achosion busnes
- Profiad o ymdrin â materion seilwaith digidol cymhleth iawn o fewn sefydliad mawr
- Profiad o reoli cyllidebau cyfalaf a refeniw mawr
Skills
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau arwain, hyfforddi a rheoli
- Y gallu i arwain trwy esiampl a dylanwadu ar eraill
- Y gallu i ddadansoddi gwybodaeth gymhleth o wahanol ffynonellau
- Sgiliau cyfathrebu a chyflwyno rhagorol ar lafar ac yn ysgrifenedig
- Y gallu i ddatblygu a chynnal perthnasoedd gwaith effeithiol
- Y gallu i ysgogi a chynnal timau sy’n perfformio’n arbennig o dda
- Hanes blaenorol profedig o ddatrys problemau mewn amgylchedd rheoli prosiectau
- Y gallu i gynllunio'n strategol yn y tymor canolig a'r tymor hir
- Ystod eang o sgiliau digidol gan gynnwys rheoli newid, negodi, sgiliau dylanwadu, a gwybodaeth fanwl am fframwaith ITIL
- Sgiliau TG a bysellfwrdd uwch
- Y gallu i flaenoriaethu llwyth gwaith a rheoli gofynion cystadleuol yn effeithiol
- Dangos doethineb, diplomyddiaeth ac ymwybyddiaeth wleidyddol
- Gweithiwr proffesiynol hunan-gymhellol a brwdfrydig
- Y gallu i ymwneud â staff o bob disgyblaeth a lefel uwch
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Gareth Daniels
- Teitl y swydd
- Assistant Director of Digital Delivery
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector