Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Gweinyddiaeth
- Gradd
- Gradd 7
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 028-AC266-1025
- Cyflogwr
- Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Parc Bocam
- Tref
- Pencoed
- Cyflog
- £48,527 - £55,532 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 09/11/2025 23:59
Teitl cyflogwr
Dadansoddwr Deallusrwydd Iechyd Uwch
Gradd 7
Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru, asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru
Ein gweledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru
Am ragor o wybodaeth amdanom, ewch i’n tudalen hafan, darllenwch am ein cynllun strategol
Dilynwch ni ar Twitter, Facebook, LinkedIn and Instagram
Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Uwch Ddadansoddwr Iechyd Deallusrwydd i ymuno â’r tîm Data a Dadansoddeg o fewn cyfarwyddiaeth Trawsnewid Gwerth, Perfformiad a Gwella GIG Cymru.
Bydd y gwaith yn amrywiol iawn oherwydd mai tasg y tîm yw darparu gwasanaeth deallusrwydd iechyd i’r ystod eang o randdeiliaid o fewn y gyfarwyddiaeth. Bydd prif gyfrifoldeb y rôl hon yn ymwneud ag anghenion deallusrwydd iechyd y Rhaglen Batholeg Genedlaethol a Rhaglen Delweddu Genedlaethol, ond bydd hefyd yn cyfrannu at gylch gorchwyl ehangach y gwasanaeth ac yn ymateb i flaenoriaethau newidiol ein partneriaid, yn ogystal ag yn cyfrannu at ddatblygiad y tîm ac at gyfeiriad strategol y gwasanaeth.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae’r tîm Data a Dadansoddeg yn cwmpasu data, dadansoddi, gwybodaeth a dealltwriaeth, gan sicrhau bod gan benderfynwyr y deallusrwydd iawn ar yr adeg iawn er mwyn gwella ansawdd, effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd gwasanaethau a gwella profiad, diogelwch a chanlyniadau cleifion
Rydym yn chwilio am unigolyn sydd â phrofiad blaenorol o weithio mewn amgylchedd gwybodaeth, unigolyn sy’n llawn cymhelliant, yn frwdfrydig, ac yn eiddgar i gyflwyno’r deallusrwydd iawn ar yr adeg iawn ar gyfer ein partneriaid. Byddwn yn darparu amgylchedd lle cewch gyfle i fagu rhagor o brofiad, ehangu eich gwybodaeth a meithrin sgiliau newydd fel rhan o dîm sy’n tyfu’n gyflym ac sy’n gwneud gwaith allweddol i sicrhau bod y Perfformiad a Gwella GIG Cymru yn cyflawni ei amcanion
Yn eich rôl o ddydd i ddydd, bydd gofyn ichi feddu ar amrywiaeth eang o sgiliau mewn meysydd sy’n cynnwys technegau ystadegol uwch, dadansoddol, rheoli pobl a phrosiectau, cyd-drafod a chyfathrebu er mwyn cyflawni prosiectau uchel eu proffil i fodloni amcanion y tîm. Lle bo’n berthnasol, fe roddir ichi amrywiol gyfrifoldebau a allai gynnwys datblygu arbenigedd penodol ar set ddata benodol, dull dadansoddol, iaith raglennu neu offeryn Deallusrwydd Busnes penodol
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais
Gweithio i'n sefydliad
Iechyd Cyhoeddus Cymru ydym ni – yr asiantaeth iechyd y cyhoedd genedlaethol yng Nghymru. Ein pwrpas yw ‘Gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru Iachach’. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach, iachach a hapusach. Gyda'n partneriaid, rydym yn gweithio i gynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, yn awr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Mae ein timau'n gweithio i atal clefydau, diogelu iechyd, a darparu arweinyddiaeth, gwasanaethau arbenigol ac arbenigedd iechyd y cyhoedd. Ni yw prif ffynhonnell gwybodaeth, ymchwil ac arloesedd iechyd y cyhoedd yng Nghymru. Mewn byd sy'n wynebu heriau iechyd cymhleth, nid yw ein gwaith erioed wedi bod mor bwysig.
Rydym yn cael ein harwain gan ein Gwerthoedd, 'Gweithio gyda'n gilydd, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth'. Rydym wedi ymrwymo i adeiladu gweithle cynhwysol sy'n gwerthfawrogi cydraddoldeb ac amrywiaeth. Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cynrychioli amrywiaeth gyfoethog y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu ac sy'n cefnogi trefniadau gweithio hyblyg, gan gynnwys rolau rhan-amser a rhannu swyddi.
I gael gwybod rhagor am weithio i ni a’r buddion rydym yn eu cynnig, ewch i https://icc.gig.cymru/gyrfaoedd/
I gael arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i https://icc.gig.cymru/gyrfaoedd/gwybodaeth-a-chanllawiau-i-ymgeiswyr/
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad helaeth o ddefnyddio amrywiol offer a thechnegau i gyflawni deallusrwydd iechyd gan gynnwys dethol data, warysau data, dadansoddi data a chyflwyno data.
- Profiad o ddarparu a chyflwyno gwybodaeth hynod gymhleth i glinigwyr ac uwch reolwyr.
Meini prawf dymunol
- Profiad o ddefnyddio offer deallusrwydd busnes i roi gwybodaeth ystyrlon i amrywiol gynulleidfaoedd.
- Profiad o ddadansoddi ystadegol a modelu mathemategol gwybodaeth gymhleth iawn.
- Profiad o ddefnyddio llwyfannau cyfrifiadura cwmwl, fel Google Cloud Platform.
Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau dadansoddi a TG datblygedig gyda gwybodaeth drylwyr am offer/systemau TG megis SQL, systemau deallusrwydd busnes, meddalwedd ystadegol ac ieithoedd rhaglennu.
Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gwybodaeth ardderchog am systemau gwybodaeth a gwasanaethau’r GIG.
- Gwybodaeth am gysyniadau modelu galw a chapasiti a'i gymhwysiad i gynllunio gwasanaethau iechyd.
Meini prawf dymunol
- Sgiliau modelu ystadegol a mathemategol uwch a gwybodaeth am dechnegau, fel atchweliad llinol a logistaidd, rhagweld, damcaniaeth ciwio, efelychu digwyddiadau arwahanol.
Rhinweddau Personol
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i ddelio â llwythi gwaith cymhleth ac amrywiol gan gyflawni’n unol ag amserlenni tynn yn aml.
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Ian Leigh
- Teitl y swydd
- Data and Modelling Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector











