Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- TG
- Gradd
- Band 5
- Contract
- 7 mis (Tan 31/03/2026 i gwmpasu absenoldeb secondiad)
- Oriau
- Llawnamser
- Gweithio hyblyg
- Cyfeirnod y swydd
- 025-AC177-0825
- Cyflogwr
- Iechyd a Gofal Digidol Cymru
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Technium 2 - Gweithio hybrid
- Tref
- Abertawe
- Cyflog
- £31,516 - £38,364 per annum
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 26/08/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Technegydd Cymorth TG - MEWNOL GAN GIG CYMRU
Band 5
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn sefydliad uchelgeisiol sydd wedi’i greu gan Lywodraeth Cymru i arwain ar drawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal digidol. Mae’n adeiladu ar bensaernïaeth ddigidol a gwasanaethau cenedlaethol a roddwyd ar waith gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru dros y degawd diwethaf.
Bydd y sefydliad yn arwain ar ddatblygiadau ar raddfa fawr sy’n gwneud gwahaniaeth sylweddol i bobl Cymru ynghyd â gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol, megis ehangu’r cofnod iechyd digidol a chreu’r Adnodd Data Cenedlaethol. Bydd yn gwella’r ffordd y mae data’n cael eu casglu, eu rhannu a’u defnyddio.
Gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr holl ohebiaeth sy’n gysylltiedig â recriwtio trwy’r cyfrif e-bost sydd wedi’i gofrestru ar yr ffurflen gais. Gwahoddir pob ymgeisydd i wneud cais yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Cytunwyd ar y raddfa gyflog uchod fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2025/2026 a chaiff ei weithredu ym mis Awst 2025 gydag ôl-ddyddio i 1af Ebrill 2025 lle bo'n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
NODER MAI DIM OND CEISIADAU GAN STAFF A GYFLOGIR GAN GIG CYMRU AR HYN O BRYD Y BYDDWN YN EU DERBYN.
Cynorthwyo i ddatblygu, cynnal a chadw a chefnogi’r systemau perthnasol y mae’r Tîm Ardal perthnasol yn gyfrifol amdanynt yn unol â manylebau / gofynion gweithredol GIG Cymru.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg fel ei gilydd wneud cais.
Mae’r swydd hon am gyfnod secondiad am 7 mis oherwydd cwrdd gofynion y gwasanaeth
Os oes diddordeb gyda chi mewn ceisio am swydd secondiad, mae’n rhaid i chi gael caniatad eich rheolwr llinell presennol cyn i chi geisio am y swydd hon.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd deiliad y swydd yn gallu gwneud y canlynol:
Sefydlu a chynnal cyfathrebu ysgrifenedig a llafar effeithiol ag unigolion a grwpiau o gwsmeriaid a rhanddeiliaid yn unol â chyfarwyddyd y rheolwr llinell.
Cynorthwyo aelodau’r tîm i greu datrysiadau ar gyfer materion cymhleth. Mae’r Gwasanaethau a gefnogir yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):
- Microsoft Windows 11 a 10 (System Weithredu)
- Microsoft 365 (Click To Run, Office, Vision, Project)
- Systemau Clinigol Meddyg Teulu (Cegedim Vision, EMIS Web, TPP SystmOne)
- Gwasanaeth Argraffu a Reolir gan Feddygon Teulu (Hewlett Packard)
- Windows Authentication Services (Active Directory, Azure)
- Windows Deployment Services (SCCM, InTune, WSUS)
Rhoi dadansoddiad a chyngor ar ddehongli data sy’n deillio o’r systemau a’r cynhyrchion hynny.
Cymryd rhan mewn trafodaethau ar faterion sy’n ymwneud â TG, gan gefnogi gwneud penderfyniadau ar ofynion a blaenoriaethau sy’n gwrthdaro gan ddefnyddio sgiliau perswadio ac empathi. Mae ein rhanddeiliaid yn cynnwys:
- Cegedim
- Cynghorau Iechyd Cymuned (CHCs)
- Dell UK
- EMIS
- Practisiau meddygon teulu
- Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)
- Hewlett Packard
- Hosbisau
- Academi Ddelweddu Genedlaethol Cymru
- Cydweithrediaeth Iechyd GIG Cymru
- Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC)
- Carchardai
- Iechyd Cyhoeddus Cymru
Gweithio i'n sefydliad
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) yn rhan o deulu GIG Cymru ac mae ganddo rôl bwysig wrth newid y ffordd y darperir gwasanaethau iechyd a gofal trwy dechnoleg a data. Mae’r sefydliad yn cefnogi staff rheng flaen gyda systemau modern a mynediad at wybodaeth bwysig am eu cleifion, wrth rymuso pobl Cymru i reoli eu hiechyd eu hunain trwy wasanaethau digidol GIG Cymru.
Mae gweithio i DHCW yn cynnig llawer o fuddion i weithwyr, gan gynnwys gweithio hyblyg, cyflog cystadleuol, 28 diwrnod o wyliau blynyddol yn ogystal â gwyliau banc a chyfleoedd i ddatblygu gyrfa. Rydym wedi ymrwymo i gydnabod a dathlu ein staff fel y rhan fwyaf gwerthfawr o’n sefydliad.
Ymunwch â'n tîm trawsnewidiol sy’n achub bywydau a dechrau gwneud gwahaniaeth go iawn i wasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Bydd deiliad y swydd yn gallu gwneud y canlynol:
Cymryd rhan mewn seminarau hyfforddi ffurfiol ar ddefnyddio systemau a chynhyrchion.
Darparu argymhellion ar ddogfennau technegol sy’n darparu’r holl wybodaeth angenrheidiol i alluogi parhau â’r gwaith cynnal a chadw a datblygu systemau a gwasanaethau.
Cynorthwyo i nodi a dehongli gofynion, risgiau a materion cwsmeriaid, gan roi ystod o opsiynau a datrysiadau wedi’u gwerthuso.
Ymchwilio, gwneud diagnosis a datrys diffygion/problemau gan randdeiliaid mewnol/allanol yn foddhaol.
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am y canlynol:
Ymchwilio a gwerthuso technolegau Gwybodaeth a TG newydd yn rheolaidd er mwyn canfod ei fudd i’r gwaith a wneir gan IGDC.
Cynorthwyo i brofi cymwysiadau i sicrhau bod y systemau a ddatblygir yn bodloni’r gofynion busnes a nodwyd.
Gweithio’n annibynnol o fewn y rôl hon gan ddiffinio’r ffordd orau o gyflawni’r gofynion a’r amcanion wrth gael ei arwain gan yr Uwch Arbenigwr (Cymorth TG), y Cynllun Tymor Canolig Integredig (IMTP), polisïau GIG Cymru, rheoliadau TG ac arferion gorau.
Pennu blaenoriaethau priodol pan all argaeledd adnoddau sy’n gwrthdaro effeithio ar y tîm ardal. Dylai fod yn gallu cytuno ar ddatrysiad gyda rheolwyr llinell a/neu randdeiliaid perthnasol eraill.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Wedi cyflawni (neu’n gweithio tuag at gyflawni) lefel gradd, neu gymhwyster cyfatebol mewn TG neu’n gallu dangos hanes o brofiad cyfatebol.
- Ymrwymiad i’ch datblygiad proffesiynol parhaus eich hun
- Tystysgrif Sylfaen ITIL neu brofiad cyfwerth amlwg
- Gwybodaeth gyffredinol dda am gymwysiadau caledwedd a meddalwedd cyffredin
- Gwybodaeth am y canlynol: • MS Active Directory • MS Windows Server • MS Exchange
Meini prawf dymunol
- Wedi cofrestru gyda chorff proffesiynol gwybodeg perthnasol
- PRINCE2 sylfaen neu brofiad cywerth amlwg
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o ddarparu cymorth technegol perthnasol ar lefel briodol.
Sgiliau a Phriodoleddau
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau da o ran cyfathrebu a datrys problemau
- Yn gallu dysgu technolegau newydd heb fawr o oruchwyliaeth
- Yn gallu dadansoddi a datrys problemau TG
Meini prawf dymunol
- Mae Sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar lefelau 1 i 5 o ran deall, siarad, darllen ac ysgrifennu
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Mark Lewis
- Teitl y swydd
- Senior Specialist (IT Support)
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector