Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- TG
- Gradd
- Gradd 5
- Contract
- 12 mis (Cyfnod penodol / Secondiad oherwydd gwaith posiect - o dyddiad dechrau)
- Oriau
- Llawnamser
- Gweithio hyblyg
- Cyfeirnod y swydd
- 025-AC197-0925
- Cyflogwr
- Iechyd a Gofal Digidol Cymru
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Gweithio hybrid
- Tref
- Abertawe
- Cyflog
- £31,516 - £38,364 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 11/09/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Hwylusydd Gofal Sylfaenol -MEWNOL GAN GIG CYMRU
Gradd 5
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn sefydliad uchelgeisiol sydd wedi’i greu gan Lywodraeth Cymru i arwain ar drawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal digidol. Mae’n adeiladu ar bensaernïaeth ddigidol a gwasanaethau cenedlaethol a roddwyd ar waith gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru dros y degawd diwethaf.
Bydd y sefydliad yn arwain ar ddatblygiadau ar raddfa fawr sy’n gwneud gwahaniaeth sylweddol i bobl Cymru ynghyd â gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol, megis ehangu’r cofnod iechyd digidol a chreu’r Adnodd Data Cenedlaethol. Bydd yn gwella’r ffordd y mae data’n cael eu casglu, eu rhannu a’u defnyddio.
Gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr holl ohebiaeth sy’n gysylltiedig â recriwtio trwy’r cyfrif e-bost sydd wedi’i gofrestru ar yr ffurflen gais. Gwahoddir pob ymgeisydd i wneud cais yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
NODER MAI DIM OND CEISIADAU GAN STAFF A GYFLOGIR GAN GIG CYMRU AR HYN O BRYD Y BYDDWN YN EU DERBYN.
Fel tîm sy’n tyfu, mae gennym swydd wag gyffrous ar gyfer Hwylusydd Gofal Sylfaenol i weithio fel rhan o’r Tîm Gwasanaethau Gofal Sylfaenol yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru.
Fel Hwylusydd Gofal Sylfaenol, byddwch yn gyfrifol am ddarparu a chefnogi technolegau digidol i randdeiliaid Gofal Sylfaenol.
Rydym yn chwilio am unigolyn llawn cymhelliant sy’n barod i weithio, dysgu a chyfrannu’n weithredol o fewn amgylchedd tîm, ac sy’n meddu ar sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol.
Mae profiad o ddarparu technolegau digidol yn ddymunol ond nid yw’n hanfodol.
Oherwydd lleoliad a lledaeniad ein portffolio gwasanaeth, bydd gofyn i chi fod yn hyblyg a gallu teithio i wahanol safleoedd ledled Cymru o leiaf 3 gwaith yr wythnos; gall hyn olygu aros dros nos o bryd i’w gilydd.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Prif ddyletswyddau’r swydd yw:
- Cefnogi gweithrediad mentrau cenedlaethol neu leol drwy gyflwyno technolegau digidol i ystod eang o randdeiliaid Gofal Sylfaenol
- Hyfforddi a mentora rhanddeiliaid Gofal Sylfaenol wrth fabwysiadu technolegau digidol newydd
- Meithrin perthnasoedd â rhanddeiliaid Gofal Sylfaenol i reoli eu hanghenion gwasanaeth digidol yn effeithiol
- Monitro ceisiadau gwasanaeth a gweithredu fel pwynt uwchgyfeirio ar gyfer materion rhanddeiliaid Gofal Sylfaenol, gan gysylltu ag IGDC, byrddau iechyd a chyflenwyr, yn ôl yr angen.
- Sefydlu a chynnal cyfathrebu ysgrifenedig a llafar dwyffordd effeithiol gyda’r holl randdeiliaid
- Darparu adroddiadau rheolaidd i randdeiliaid ar gynnydd ac effeithiolrwydd y gwasanaethau TG a ddarperir, gan sicrhau cydymffurfiaeth â’r safonau cenedlaethol ac arferion gorau
- Cyfrannu at ddatblygu cynlluniau prosiect sy’n nodi adnoddau, llwybrau critigol, a risgiau.
Maer'r swydd hon am gyfnod penodol / secondiad am 12 mis oherwydd gwaith prosiect. Os oes diddordeb gyda chi mewn ceisio am swydd secondiad, mae’n rhaid i chi gael caniatad eich rheolwr llinell presennol cyn i chi geisio am y swydd hon.
The ability to speak Welsh is desirable for this post; English and/or Welsh speakers are equally welcome to apply.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) yn rhan o deulu GIG Cymru ac mae ganddo rôl bwysig wrth newid y ffordd y darperir gwasanaethau iechyd a gofal trwy dechnoleg a data. Mae’r sefydliad yn cefnogi staff rheng flaen gyda systemau modern a mynediad at wybodaeth bwysig am eu cleifion, wrth rymuso pobl Cymru i reoli eu hiechyd eu hunain trwy wasanaethau digidol GIG Cymru.
Mae gweithio i DHCW yn cynnig llawer o fuddion i weithwyr, gan gynnwys gweithio hyblyg, cyflog cystadleuol, 28 diwrnod o wyliau blynyddol yn ogystal â gwyliau banc a chyfleoedd i ddatblygu gyrfa. Rydym wedi ymrwymo i gydnabod a dathlu ein staff fel y rhan fwyaf gwerthfawr o’n sefydliad.
Ymunwch â'n tîm trawsnewidiol sy’n achub bywydau a dechrau gwneud gwahaniaeth go iawn i wasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
NODER MAI DIM OND CEISIADAU GAN STAFF A GYFLOGIR GAN GIG CYMRU AR HYN O BRYD Y BYDDWN YN EU DERBYN.
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Yn gyfrifol am:
- addasu blaenoriaethau i fodloni gofynion rhanddeiliaid sy’n newid yn aml, gan hunan-reoli unrhyw ofynion sy’n gwrthdaro
- darparu hyfforddiant i randdeiliaid Gofal Sylfaenol ar y cynhyrchion a’r gwasanaethau digidol sydd ar gael iddynt
- cynnal cyfathrebu ysgrifenedig a llafar dwy ffordd effeithiol
- gweithredu mentrau cenedlaethol neu leol
- darparu adborth ar brosesau a gweithdrefnau newydd i gefnogi newidiadau i weithrediad gwasanaethau gan sicrhau gwelliannau parhaus i wasanaethau i randdeiliaid Gofal Sylfaenol
- paratoi a drafftio adroddiadau arferol ac ad hoc
- defnyddio technoleg i’w llawn botensial i wella perfformiad a gwneud argymhellion i brosesau gweithredol y timau i wella perfformiad ar draws y tîm
- darparu a derbyn gwybodaeth gymhleth neu sensitif mewn perthynas â chynnyrch/gwasanaethau, prosiectau a ffrydiau gwaith y bydd angen eu dehongli a’u cyfleu i aelodau’r tîm
- hwyluso’r defnydd o gynhyrchion a gwasanaethau cenedlaethol trwy sianeli cyfathrebu y cytunwyd arnynt.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Lefel gradd neu gymhwyster cyfatebol neu’n gallu dangos hanes o brofiad cyfatebol.
- Ymrwymiad i’ch datblygiad proffesiynol parhaus eich hun
- Gwybodaeth a dealltwriaeth dda o systemau a chyflenwyr gofal sylfaenol.
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth am safonau perthnasol y GIG a gofynion cyfreithiol sy’n ymwneud â Llywodraethu Gwybodaeth a Diogelwch.
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o rôl Iechyd a Gofal Digidol Cymru.
- Gwybodaeth ymarferol o Dermau Clinigol.
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o ddarparu gwasanaethau cwsmeriaid mewn lleoliad Gofal Sylfaenol
- Profiad o gyflawni prosiectau mewn lleoliad Gofal Sylfaenol
Meini prawf dymunol
- Cyflwyno i grwpiau bach.
Sgiliau a Phriodoleddau
Meini prawf hanfodol
- Yn gallu gweithio ar eich liwt eich hun tra’n bod yn aelod effeithiol o dîm hybrid.
- Ymagwedd ragweithiol a hyblyg at waith
- Gallu ymateb i amgylcheddau newidiol
- Sgiliau trefnu rhagorol a’r gallu i nodi blaenoriaethau
- Meddu ar sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol
Meini prawf dymunol
- Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar lefelau 1 i 5 o ran deall, siarad, darllen ac ysgrifennu.
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Andrew Atkinson
- Teitl y swydd
- Product Support Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector