Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Microbioleg
- Gradd
- Gradd 4
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (24/7 rota Panama (shifftiau dydd a nos))
- Cyfeirnod y swydd
- 028-ACS040-1125-A
- Cyflogwr
- Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Singleton
- Tref
- Abertawe
- Cyflog
- £27,898 - £30,615 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 04/01/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Ymarferydd Cyswllt
Gradd 4
Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru, asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru
Ein gweledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru
Am ragor o wybodaeth amdanom, ewch i’n tudalen hafan, darllenwch am ein cynllun strategol
Dilynwch ni ar Twitter, Facebook, LinkedIn and Instagram
Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Mae Microbioleg Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithredu fel rhwydwaith o labordai gyda Labordai Rhanbarthol ledled Cymru.
Bydd y swydd Ymarferydd Cyswllt Band 4 yn ein tîm 24/7 yn Singleton Abertawe yn ymgymryd â gweithdrefnau labordai rheolaidd gyda goruchwyliaeth. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael profiad mewn gwasanaeth labordy diagnostig gan ddefnyddio platfformau moleciwlaidd cyflym a dadansoddwyr trwybwn mawr.
Byddai'r swydd hon yn addas i ymgeiswyr sydd â phrofiad amlwg o labordy Microbioleg ac addysg a chymhwysedd seiliedig ar waith cysylltiedig neu berson graddedig mewn gwyddoniaeth. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael y cyfle i gylchdroi drwy nifer o adrannau yn ystod eu cyflogaeth, gan gael profiad mewn nifer o fethodolegau i gynnwys gwyddoniaeth foleciwlaidd a phrofion diagnostig microbiolegol. Rydym yn awyddus i gyflwyno hyfforddiant y tu hwnt i ddadansoddwyr Covid a bydd hyn yn cynnwys meysydd o fewn Bacterioleg a feiroleg yn y pen draw. Mae gennym lwybrau gyrfa sefydledig ac felly gallai hyn fod yn gychwyn gwych ar gyfer gyrfa broffesiynol mewn microbioleg feddygol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd y dyletswyddau'n cynnwys paratoi, gwirio a phrosesu samplau yn ogystal â chofnodi data ar y system gwybodaeth labordy. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus sgiliau cyfathrebu da, gallu technegol, cydgysylltiad llaw a llygad ymhlith eraill.
Mae'r gwaith a wnaed gan y tîm COVID wedi bod yn ganolog i ymateb Iechyd Cyhoeddus Cymru i COVID-19. Bydd y tîm hefyd yn ymateb i unrhyw frigiadau o achosion pellach/pwysau’r gaeaf.
Mae'r rhwydwaith Microbioleg yn darparu gwasanaethau ar draws y cyfnod 24/7 yn seiliedig ar batrymau shifft y cytunwyd arnynt. Gall hyn fod yn wahanol yn seiliedig ar angen ond bydd disgwyl i bob deiliad swydd gymryd rhan mewn gweithio 24/7 naill ai yn ei brif ganolfan neu i gynorthwyo safleoedd eraill pe bai'r angen yn codi neu fel rhan o'r rota leol y cytunwyd arni. Lle mae angen teithio ychwanegol, bydd hyn yn cael ei ystyried o gwmpas amseroedd dechrau / gorffen a threuliau teithio.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Ni yw Iechyd Cyhoeddus Cymru - asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru. Ein diben yw ‘gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru iachach'. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach, iachach. Gyda'n partneriaid, ein nod yw cynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng
Iechyd Cyhoeddus Cymru ydym ni – yr asiantaeth iechyd y cyhoedd genedlaethol yng Nghymru. Ein pwrpas yw ‘Gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru Iachach’. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach, iachach a hapusach. Gyda'n partneriaid, rydym yn gweithio i gynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, yn awr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Mae ein timau'n gweithio i atal clefydau, diogelu iechyd, a darparu arweinyddiaeth, gwasanaethau arbenigol ac arbenigedd iechyd y cyhoedd. Ni yw prif ffynhonnell gwybodaeth, ymchwil ac arloesedd iechyd y cyhoedd yng Nghymru. Mewn byd sy'n wynebu heriau iechyd cymhleth, nid yw ein gwaith erioed wedi bod mor bwysig.
Rydym yn cael ein harwain gan ein Gwerthoedd, 'Gweithio gyda'n gilydd, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth'. Rydym wedi ymrwymo i adeiladu gweithle cynhwysol sy'n gwerthfawrogi cydraddoldeb ac amrywiaeth. Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cynrychioli amrywiaeth gyfoethog y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu ac sy'n cefnogi trefniadau gweithio hyblyg, gan gynnwys rolau rhan-amser a rhannu swyddi.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gallwch ddod o hyd i Ddisgrifiad Swydd llawn a Manyleb y Person atodedig yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwnewch gais nawr” i'w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Wedi ennill neu’n ymgymryd â Thystysgrif Cyrhaeddiad IBMS Rhan 1 neu 2 neu gymwysterau a/neu brofiad cyfatebol
Meini prawf dymunol
- Gradd yn y Gwyddorau Biolegol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio gydag offer labordai
- Deheurwydd llaw a chydsymud llaw/llygad da
- Tystiolaeth o ddilyn cyfarwyddiadau llafar ac ysgrifenedig a phrotocolau a gweithdrefnau cymhleth.
- Sgiliau TG sylfaenol da a sgiliau ysgrifennu dogfennau da
Meini prawf dymunol
- Profiad o oruchwylio staff.
- Profiad o weithdrefnau rheoli ansawdd
GWYBODAETH A SGILIAU
Meini prawf hanfodol
- Tystiolaeth o allu defnyddio awtomasiwn
- Gwybodaeth am iechyd a diogelwch mewn perthynas â'r labordy gan gynnwys gwaredu gwastraff.
- Tystiolaeth o gymhwysedd mewn technegau labordai.
Meini prawf dymunol
- Yn gallu blaenoriaethu
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Louise Stone
- Teitl y swydd
- Interim Head of Operations Bacteriology
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01792 704165
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Croeso i ymweliadau labordy
Rhestr swyddi gyda Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector











