Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Finance
- Gradd
- Band 8c
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 120-AC768-0326
- Cyflogwr
- Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Gwasanaeth Gwaed Cymru ond disgwylir iddo deithio i safleoedd eraill
- Tref
- Tonysguboriau
- Cyflog
- £78,120 - £90,013 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 12/04/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Pennaeth Partneriaeth Busnes Cyllid
Band 8c
Diolch am eich diddordeb mewn gweithio i Ganolfan Ganser Felindre (CGF), sy'n gyflogwr cyfle cyfartal ymroddedig. Mae CGF yn croesawu ceisiadau gan bobl sy'n rhannu ein gweledigaeth;
Bydd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn cael ei chydnabod yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol fel sefydliad enwog o ragoriaeth mewn perthynas â gofal rhoddwyr a chleifion, addysg ac ymchwil.
ein gwerthoedd;
- Gofalgar
- Parchus
- Atebol
ac a fydd yn ategu’r gweithwyr profiadol ac arbenigol sydd gennym ar hyn o bryd, sydd yn frwdfrydig dros weithio mewn sefydliad sydd â’r uchelgais i ddarparu gwasanaethau a gofal o'r radd flaenaf i'n cleifion.
Mae gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre le arbennig ym maes gofal iechyd yng Nghymru. Mae’n sefydliad anhygoel i weithio ynddo ac i ddatblygu eich gyrfa hefyd. Mae'r Ymddiriedolaeth yn cynnwys dwy adran, sef Canolfan Ganser Felindre a Gwasanaeth Gwaed Cymru. Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP) a Thechnoleg Iechyd Cymru (HTW) yn disgyn dan adain yr Ymddiriedolaeth hefyd, ar ran Llywodraeth Cymru a GIG Cymru.
Mae CGF yn cynnig cyflog cystadleuol i’n gweithwyr, ynghyd â nifer o gynlluniau gwobrwyo, buddion a chefnogaeth i staff.
Os hoffech chi ragor o wybodaeth am y swydd wag hon, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio, a fydd yn falch o drafod y cyfle hwn gyda chi.
Gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr holl ohebiaeth sy'n gysylltiedig â recriwtio trwy'r cyfrif e-bost sydd wedi cael ei roi ar y ffurflen gais.
Mae gan yr Ymddiriedolaeth yr hawl hefyd i gau swydd wag yn gynnar neu i dynnu hysbyseb yn ôl ar unrhyw gam o'r broses, er mwyn caniatáu i staff mewnol gael eu hadleoli i rolau addas.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Bydd Dyfarniad Cyflog Agenda ar gyfer Newid 2026/27 yn weithredol o 1 Ebrill 2026.
Sylwer: bydd cyflog ymgeiswyr llwyddiannus sydd â dyddiad dechrau o 1 Ebrill ymlaen yn unol â dyfarniad cyflog 2026/27. I gael rhagor o fanylion gweler y cylchlythyr cyflog sydd ar gael trwy ddilyn y ddolen hon https://www.nhs.wales/files/pc-resources/afc-w-02-2026-pdf-pdf?ts=1773244958086
Trosolwg o'r swydd
· Bydd deiliad y swydd yn weithiwr proffesiynol blaenllaw ym maes cyllid ac yn aelod allweddol o'r uwch dîm cyllid o fewn yr Ymddiriedolaeth.
· Bydd deiliad y swydd hefyd yn aelod allweddol ac yn gyfranogwr gweithredol o fewn uwch dimau reoli'r Ganolfan Ganser a'r Gwasanaeth Gwaed.
· Bydd deiliad y swydd yn rheoli ac yn gyfrifol am berfformiad cyffredinol y timau cyllid datganoledig is-adrannol ac yn sicrhau y darperir gwasanaeth partner busnes cyllid effeithlon ac effeithiol.
· Bydd gan ddeiliad y swydd y cyfrifoldeb allweddol am ddarparu gweledigaeth ac arweinyddiaeth wrth ddatblygu a gweithredu strategaeth ariannol is-adran CGF / GGC. Bydd hyn yn arwain at gyflawni cynlluniau ariannol blynyddol a'u trosi'n gyllidebau y cytunwyd arnynt ar draws y ddwy is-adran cyflenwi gwasanaethau gan gynnwys targedau rhaglenni gwella costau gofynnol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd deiliad y swydd yn weithiwr proffesiynol blaenllaw ym maes cyllid ac yn aelod allweddol o'r uwch dîm cyllid o fewn yr Ymddiriedolaeth. Bydd deiliad y swydd hefyd yn aelod allweddol ac yn gyfranogwr gweithredol o fewn uwch dimau reoli'r Ganolfan Ganser a'r Gwasanaeth Gwaed. Bydd deiliad y swydd yn rheoli ac yn gyfrifol am berfformiad cyffredinol y timau cyllid datganoledig is-adrannol ac yn sicrhau y darperir gwasanaeth partner busnes cyllid effeithlon ac effeithiol.
Bydd deiliad y swydd yn darparu arweinyddiaeth ac yn gyfrifol yn rheolaethol ac yn weithredol strategol a phroffesiynol am ddarparu gwasanaeth rheolaeth ariannol a chyngor partneru busnes ar gyfer yr Ymddiriedolaeth gyfan. Bydd yn gweithio'n agos gyda'r dirprwy gyfarwyddwr cyllid, cyfarwyddwyr is-adrannol ac uwch reolwyr eraill yn rhoi cyngor a chymorth ariannol arloesol a rhagweithiol i'r sefydliad, wrth oruchwylio datblygiad a chyflawniad prosesau a rheolaethau ariannol is-adrannol cadarn.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Yma yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, rydym yn hynod falch o'r gwasanaethau arbenigol a ddarparwn ledled Cymru yn ein Canolfan Ganser Felindre arloesol ac ein Gwasanaeth Gwaed Cymru gwobrwyedig. Yn ogystal ag arbenigedd ein swyddogaethau corfforaethol sy'n dod â'r ddwy adran at ei gilydd. Rydym hefyd yn ffodus i gynnal Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a Thechnoleg Iechyd Cymru ac rydym wedi datblygu gwaith partneriaeth cryf gyda'r gwasanaethau arbenigol hyn.
Wedi'i sefydlu ym 1994, mae gan yr Ymddiriedolaeth weithlu ymroddedig sy'n ymdrechu'n barhaus i ddarparu egwyddorion allweddol gofal iechyd darbodus drwy amrywiaeth eang o rolau. Rydym yn chwarae rhan hanfodol yn y cymunedau rydym yn eu cefnogi ac mae gennym gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol i barhau i wella'r gwasanaethau a ddarparwn. Rydym yn ymdrechu i gynnal ein gwerthoedd craidd ym mhopeth a wnawn drwy fod yn; atebol, beiddgar, gofalgar a deinamig, a sicrhau'r gofal gorau posibl i'n cleifion a'n rhoddwyr.
Yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, ein nod ydy meithrin diwylliant o ddarganfod, cydweithredu a sicrhau gwelliant parhaus. Byddwn yn cyflawni hyn drwy ymgorffori ymchwil ac arloesedd ym mhopeth a wnawn, er mwyn cyflawni effaith ystyrlon a mesuradwy i'n cleifion a'n cymunedau.
Os ydych am weithio i sefydliad sy'n ymfalchïo mewn gwneud gwahaniaeth go iawn ac sy'n cynnig cyfleoedd gyrfa cyffrous, yna Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yw'r lle i chi.
https://velindre.nhs.wales/
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac
Bydd gan ddeiliad y swydd y cyfrifoldeb allweddol am ddarparu gweledigaeth ac arweinyddiaeth wrth ddatblygu a gweithredu strategaeth ariannol is-adran CGF / GGC. Bydd hyn yn arwain at gyflawni cynlluniau ariannol blynyddol a'u trosi'n gyllidebau y cytunwyd arnynt ar draws y ddwy is-adran cyflenwi gwasanaethau gan gynnwys targedau rhaglenni gwella costau gofynnol.
Yn gyfrifol am y polisi a'r strategaeth ariannol gyffredinol ar gyfer Is-adrannau GGC a CGF, gyda'r awdurdod i weithredu o fewn canllawiau gofynnol a gosod nodau a safonau ariannol ar gyfer yr is-adran e.e. rheolaethau ariannol, safonau cyfrifyddu ariannol a llywodraethu, yn unol â'r gofynion cyfreithiol.
Gan weithio'n agos â'r dirprwy gyfarwyddwr cyllid a chydweithwyr eraill, bydd gan ddeiliad y swydd ran arwyddocaol hefyd yn yr holl drafodaethau comisiynu a chontractio gyda sefydliadau eraill y GIG a sefydliadau allanol.
Bydd deiliad y swydd yn dirprwyo ar ran Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllid ar draws cyfarfodydd a dyletswyddau mewnol ac allanol yn ôl yr angen.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cyfrifydd Cymwysedig (cyfwerth â lefel Meistr) gydag aelodaeth CCAB a phrofiad sylweddol ar ôl cymhwyso.
- Lefel Meistr neu brofiad ar lefel gyfatebol.
- Gwybodaeth arbenigol ac uwch am dechnegau cyfrifyddu rheolaeth ariannol, agweddau ariannol ar ddeddfwriaeth y GIG a pholisïau cyllid y GIG.
- Gwybodaeth uwch a manwl o gynllunio strategol a chapasiti.
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad sylweddol o gyfrifyddu rheolaeth ariannol a pholisïau a gweithdrefnau cyllid.
- Profiad o reoli a datblygu staff.
- Profiad o ymdrin â rhanddeiliaid lluosog sydd â blaenoriaethau sy'n gwrthdaro
Sgiliau a Phriodoleddau
Meini prawf hanfodol
- Yn gallu cyfathrebu'n effeithiol trwy roi a derbyn gwybodaeth hynod gymhleth a'r gallu i gynghori cydweithwyr nad ydynt yn ymwneud â chyllid ar faterion ariannol.
- Yn gallu dylanwadu ar uwch gydweithwyr a deiliaid cyllidebau i gyflawni canlyniadau cadarnhaol.
- Yn gallu darparu arweinyddiaeth a chyfeiriad.
- Yn gallu cyfleu a gweithredu syniadau hynod gymhleth ar draws y sefydliad.
- Yn gallu gweithio gyda staff ar bob lefel, a gallu penodol i weithio gyda uwch dimau rheoli
- Dangos sgiliau dadansoddi, dehongli a barnu ar faterion sy'n gofyn am dechnegau gwerthuso cymharol neu opsiynau a phroblemau cymhleth iawn sy'n ymwneud â chynhyrchion a dadansoddiadau achosion busnes.
- Yn gallu meddwl a gweithredu’n strategol.
- Hanes profedig o gyflawni mewn rheolaeth ariannol, gan gynnwys y gallu i roi cyngor i weithwyr proffesiynol a gweithio gyda nhw fel tîm
- Yn gallu herio’r holl weithdrefnau a phrosesau ariannol mewn ffordd adeiladol yn ôl yr angen.
- Gallu dirprwyo ar gyfer y Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllid pan fo angen a gweithio’n hyderus gyda’r Tîm Rheoli Gweithredol/Bwrdd y Cyfarwyddwyr ac Uwch Dimau Rheoli
- Dangos lefel uchel o gymhelliant a gallu i weithio ar eich menter eich hun.
- Gallu canolbwyntio am gyfnodau hir o amser, yn aml yn dadansoddi data hynod gymhleth.
- Gallu datrys materion aml-ddimensiwn cymhleth.
- Sgiliau negodi a pherswadio.
- Hunangyfeiriedig
- Ysgogol a gweithio’n dda mewn tîm.
- Diddordeb mewn datblygiad personol a phrosesau ansawdd.
- Dangos y gallu i fodloni gwerthoedd yr Ymddiriedolaeth.
Meini prawf dymunol
- Mae Sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar lefelau 1 i 5 o ran deall, siarad, darllen ac ysgrifennu yn Gymraeg
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Steve Coliandris
- Teitl y swydd
- Deputy Director of Finance
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector





.png)