Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Cydlynydd Cyfieithu
Band 6
Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru, asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru
Ein gweledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru
Am ragor o wybodaeth amdanom, ewch i’n tudalen hafan, darllenwch am ein cynllun strategol
Dilynwch ni ar Twitter, Facebook, LinkedIn and Instagram
Trosolwg o'r swydd
Ydych chi’n gyfieithydd profiadol? Ydych chi’n chwilio am sialens newydd? Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dymuno penodi Cydlynydd Cyfieithu i ymuno â Thîm y Gymraeg i reoli a chydlynu gwasanaeth cyfieithu ar gyfer y sefydliad.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i unigolyn â phrofiad cyfieithu gefnogi’r sefydliad i weithredu’n ddwyieithog, cynnig gwasanaeth Cymraeg o'r safon uchaf i'n cwsmeriaid a chyflawni nodau Safonau’r Gymraeg.
Disgwylir i'r Cydlynydd Cyfieithu weithio'n effeithiol gyda chydweithwyr ar draws y sefydliad i reoli gwaith cyfieithu a gweithio'n agos ac yn broffesiynol gyda chyflenwyr cyfieithu allanol i reoli contractau a goruchwylio gwaith a ddychwelir. Bydd deiliad y swydd hefyd yn gallu darparu gwasanaeth cyfieithu o'r Gymraeg i'r Saesneg ac o'r Saesneg i'r Gymraeg yn ôl y galw.
Mae hyblygrwydd o ran yr union batrwm gweithio, ac mae’r swydd yn addas ar gyfer gweithio’n rhannol o gartref.
Os hoffech ymuno â'n tîm ymroddedig a bod gennych brofiad a chymwysterau i gyd-fynd â'r swydd-ddisgrifiad, gwnewch gais am y swydd.
Bydd gan ddeilydd y swydd sgiliau rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Prif ddyletswyddau'r swydd
CRYNODEB / DIBEN Y SWYDD:
Bydd deiliad y swydd yn rheoli a darparu gwasanaeth cyfieithu arbenigol o'r Saesneg i'r Gymraeg ac o’r Gymraeg i’r Saesneg i alluogi'r Ymddiriedolaeth i weithredu'r egwyddor ei bod yn trin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal. Bydd deiliad y swydd yn arwain ar weithredu rhaglen gyflawni gynhwysfawr ar gyfer gwasanaethau cyfieithu’r Ymddiriedolaeth, gan gymryd agwedd strategol ragweithiol i sicrhau cydymffurfiaeth â Safonau’r Gymraeg o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011.
Bydd deiliad y swydd yn sicrhau bod yr Ymddiriedolaeth yn rhoi system newid gynhwysfawr ar waith i ddarparu ei wasanaeth cyfieithu yn llwyddiannus. Bydd deiliad y swydd yn darparu arweiniad strategol ar wella gwasanaethau cyfieithu, gan sicrhau bod dangosyddion perfformiad yn cael eu cynnal, ac yn mynd i'r afael ag unrhyw ddiffygion.
Bydd deiliad y swydd yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer pob ymholiad yn ymwneud â chyfieithu a chyfieithu ar y pryd yn Gymraeg a bydd yn gweithio'n agos gyda'n holl ddarparwyr cyfieithu dan gontract. Bydd deiliad y swydd yn defnyddio ei wybodaeth hynod arbenigol i ddarparu rôl arweiniol wrth weithredu a datblygu parhaus system a swyddogaeth gyfieithu'r Ymddiriedolaeth, gan gynnwys adolygu effeithiolrwydd y broses a’r canlyniadau yn rheolaidd. Bydd deiliad y swydd hefyd yn gyfrifol am nodi a gweithredu mesurau gwella a datblygu.
Gweithio i'n sefydliad
Ni yw Iechyd Cyhoeddus Cymru - asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru. Ein diben yw ‘gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru iachach'. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach, iachach. Gyda'n partneriaid, ein nod yw cynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Gyda'i gilydd, mae ein timau'n gweithio i atal clefyd, diogelu iechyd, a darparu arweinyddiaeth, gwasanaethau arbenigol ac arbenigedd iechyd cyhoeddus. Ni yw'r brif ffynhonnell o wybodaeth, ymchwil ac arloesedd iechyd cyhoeddus yng Nghymru. Nid yw iechyd cyhoeddus erioed wedi bod mor bwysig wrth i ni ddod drwy bandemig y Coronafeirws, wynebu heriau'r argyfwng costau byw a mynd i'r afael ac atal effeithiau niweidiol newid hinsawdd.
Caiff ein sefydliad ei arwain gan ein gwerthoedd 'Cydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth'. Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy'n rhoi gwerth ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cynrychioli amrywiaeth gyfoethog y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a chan y rhai sy'n dymuno gweithio'n rhan amser neu rannu swydd.
I ddarganfod mwy am weithio i ni a'r buddion rydym yn eu cynnig, ewch i Gyrfaoedd - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)
I gael arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i Gwybodaeth a Chanllawiau i Ymgeiswyr - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Mae swydd-ddisgrifiad llawn a manyleb person wedi'u hatodi yn yr adran dogfennau ategol.
Manyleb y person
Meini Prawf Hanfodol
Meini prawf hanfodol
- • Gradd yn y Gymraeg a/neu hyfforddiant lefel diploma Ôl-raddedig mewn cyfieithu
- • Profiad o weithio fel cyfieithydd wedi'i ennill naill ai yn y gweithle neu fel rhan o raglen hyfforddi
- • Profiad o adolygu gwaith cyfieithu eraill
- • Sgiliau prosesu geiriau
- • Sgiliau adolygu a phrawfddarllen rhagorol
- • Y gallu i reoli a chynllunio llwyth gwaith mawr
- • Y gallu i ymdopi â phwysau gwaith sylweddol ar adegau
- • Dealltwriaeth dda o wahanol arddulliau a chyweiriau yn y ddwy iaith
- • Gwybodaeth dda am ddatblygiadau cyfieithu yng Nghymru
- • Gwybodaeth am becynnau 'cof cyfieithu'
- • Agored ac yn hawdd mynd atoch i staff
- • Lefelau uchel o gymhelliant
- • Cadarnhaol a brwdfrydig
- • Y gallu i weithio gyda staff ar bob lefel yn y sefydliad
Meini prawf dymunol
- • Aelod o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru
- • Profiad o arwain gwasanaeth
- • Profiad o reoli llwyth gwaith mawr
- • Dealltwriaeth o'r GIG
Essentual Criteria
Meini prawf hanfodol
- • Gradd yn y Gymraeg a/neu hyfforddiant lefel diploma Ôl-raddedig mewn cyfieithu
- • Profiad o weithio fel cyfieithydd wedi'i ennill naill ai yn y gweithle neu fel rhan o raglen hyfforddi
- • Sgiliau adolygu a phrawfddarllen rhagorol
- • Y gallu i weithio gyda staff ar bob lefel yn y sefydliad
- • Brwdfrydedd dros y Gymraeg a pholisïau dwyieithog
Meini Prawf Hanfodol
Meini prawf hanfodol
- • Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol
- • Profiad o adolygu gwaith cyfieithu eraill
- • Profiad Prosesu Geiriau
- •Sgiliau adolygu a phrawfddarllen rhagorol
- • Sgiliau cyfieithu rhagorol
- • Dealltwriaeth hyderus o nodweddion naturiol, gramadeg a chystrawen y Gymraeg a’r Saesneg
- • Yn meddu ar sgiliau rhyngbersonol rhagorol
- • Dealltwriaeth dda o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 ac effaith Safonau’r Gymraeg ar y sefydliad
- • Gwybodaeth am dermau meddygol
- • Gwybodaeth am y rhaglen feddalwedd ‘Cysgliad’
- • Hyderus
- • Cadarnhaol a brwdfrydig
- • Brwdfrydedd dros y Gymraeg a pholisïau dwyieithog
- • Y gallu i deithio i fodloni gofynion y swydd
Meini prawf dymunol
- • Profiad o arwain gwasanaeth
- • Profiad o reoli llwyth gwaith mawr
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Sian Jones
- Teitl y swydd
- Rheolwr y Gymraeg / Welsh Language Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07939385701
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Cysylltwch am sgwrs anffurfiol am y swydd.
Rhestr swyddi gyda Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector