Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Oncoleg
Gradd
MF03
Contract
Cyfnod Penodol: 1 flynedd (Oherwydd cyllid. 1 flynedd o'r dyddiad dechrau)
Oriau
Llawnamser - 40 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
120-MD017-1126
Cyflogwr
Canolfan Ganser Felindre
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Canolfan Ganser Felindre
Tref
Yr Eglwys Newydd
Cyflog
£56,925 - £80,730 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
08/12/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Canolfan Ganser Felindre logo

Cymrawd Ymchwil Clinigol

MF03

Diolch am eich diddordeb mewn gweithio i Ganolfan Ganser Felindre (CGF), sy'n gyflogwr cyfle cyfartal ymroddedig. Mae CGF yn croesawu ceisiadau gan bobl sy'n rhannu ein gweledigaeth;

Bydd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn cael ei chydnabod yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol fel sefydliad enwog o ragoriaeth mewn perthynas â gofal rhoddwyr a chleifion, addysg ac ymchwil.

ein gwerthoedd;

  • Gofalgar
  • Parchus
  • Atebol

ac a fydd yn ategu’r gweithwyr profiadol ac arbenigol sydd gennym ar hyn o bryd, sydd yn frwdfrydig dros weithio mewn sefydliad sydd â’r uchelgais i ddarparu gwasanaethau a gofal o'r radd flaenaf i'n cleifion.

Mae CGF yn le anhygoel i weithio a datblygu eich gyrfa ynddo. Mae’r ganolfan yn destun rhaglen drawsnewid pum mlynedd ar hyn o bryd, a fydd yn galluogi gwasanaethau canser i fodloni anghenion ein cleifion yn y dyfodol ar draws De Ddwyrain Cymru. Fel rhan o’r rhaglen, bydd CGF yn symud i ysbyty canser pwrpasol newydd a bydd yn darparu cyfleoedd hefyd, i gleifion dderbyn triniaethau yn nes at eu cartrefi. Bydd y newidiadau o ran seilwaith yn cynnig cyfleoedd i'n gweithwyr weithio ar draws nifer o safleoedd mewn ffyrdd newydd a gwahanol, yn creu cyfleoedd datblygu, ac yn cynyddu arferion gweithio hyblyg.

Mae CGF yn cynnig cyflog cystadleuol i’n gweithwyr, ynghyd â nifer o gynlluniau gwobrwyo, buddiannau a chefnogaeth i staff.

Os hoffech chi ragor o wybodaeth am y swydd wag hon, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio, a fydd yn falch o'i thrafod gyda chi.

Gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr holl ohebiaeth sy'n gysylltiedig â recriwtio trwy'r cyfrif e-bost sydd wedi cael ei roi ar y ffurflen gais.

Mae gan yr Ymddiriedolaeth yr hawl hefyd i gau swydd wag yn gynnar neu i dynnu hysbyseb yn ôl ar unrhyw gam o'r broses, er mwyn caniatáu i staff mewnol gael eu hadleoli i rolau addas.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

 

Trosolwg o'r swydd

·       Er mwyn cyfrannu at reoli cleifion oncoleg mewn treialon clinigol yng Nghanolfan Ganser Felindre. Bydd y swyddi'n canolbwyntio ar gyflwyno treialon, yn enwedig treialon masnachol, mewn perthynas ag astudiaethau'r ysgyfaint ac astudiaethau blaenoriaeth eraill yn ein portffolio, megis (ond heb fod yn gyfyngedig i) y fron, cyfnod cynnar neu wroleg.

·       Dod yn gyfarwydd â phrotocolau treialon cyfnod cynnar ac arferion gwaith yng Nghanolfan Ganser Felindre

·       Hyrwyddo uno arferion gwaith mewn treialon cyfnod cynnar rhwng uned treialon Canolfan Ganser Felindre a’r Cyfleuster Ymchwil Glinigol yn Ysbyty Athrofaol Cymru a chyflawni dyletswyddau ar y ddau safle.

Mae’r Swydd Hon am Gyfnod Penodol/Secondiad am 1 flynedd o'r dyddiad dechrau oherwydd cyllido. Os oes diddordeb gyda chi mewn ceisio am swydd secondiad, mae’n rhaid i chi gael caniatad eich rheolwr llinell presennol cyn i chi geisio am y swydd hon. 

 

 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Cynnal ymchwil o fewn ymchwil treialon oncoleg cyfnod cynnar a chyfrannu at berfformiad ymchwil cyffredinol Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre ("Felindre") a Phrifysgol Caerdydd,a chynnal ymchwil sy'n cyfrannu at welliannau yn y ffordd y cyflwynir treialon clinigol oncoleg. Mae'r swydd hefyd wedi'i dylunio i gynhyrchu cynigion ymchwil y gellir eu cyflwyno i ennill cyllid i ymgymryd â gradd ymchwil uwch.

 

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon. 

 

Gweithio i'n sefydliad

Yn Ymddiriedolaeth Prifysgol Felindre, rydym yn falch o ddarparu gwasanaethau arbenigol ledled Cymru drwy Ganolfan Ganser Felindre a Gwasanaeth Gwaed Cymru, gyda chefnogaeth ein timau corfforaethol a'n partneriaethau â Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru ac Iechyd  Technoleg Cymru.

Wrth edrych tua’r dyfodol, rydym yn paratoi ar gyfer agor Ganolfan Ganser Felindre newydd (nVCC) yng Ngwanwyn 2027—carreg filltir gyffrous a fydd yn trawsnewid gofal canser i’n poblogaeth. Wedi’i lleoli o fewn cyrraedd hawdd i ddinas fywiog Caerdydd a harddwch trawiadol Bannau Brycheiniog, rydym yn cynnig amgylchedd gwaith unigryw sy’n cyfuno arloesedd, cydweithio ac ansawdd bywyd rhagorol.

Ers ein sefydlu ym 1994, mae ein gweithlu ymroddedig wedi parhau’n ffyddlon i gyflawni egwyddorion gofal doeth ar draws ystod eang o rolau. Rydym yn parhau i chwarae rhan hanfodol yn ein cymunedau ac mae gennym gynlluniau uchelgeisiol i wella’r gwasanaethau a ddarparwn ymhellach.

Mae popeth rydym yn ei wneud wedi’i seilio ar werthoedd ein Hymddiriedolaeth. Rydym yn ofalgar, yn barchus ac yn atebol yn y ffordd rydym yn gweithio gyda chleifion, rhoddwyr, partneriaid a’n gilydd—gan sicrhau ein bod yn darparu’r safonau uchaf o ofal wrth ymdrechu’n barhaus i wella.

Os ydych am weithio i sefydliad sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, sy’n croesawu arloesedd ac sy’n cynnig cyfleoedd gyrfa gwerth chweil mewn lleoliad ysbrydoledig, Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yw’r lle i chi.

 

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Ymarferydd Meddygol Cymwys
  • Cymhwyster MRCP neu gyfwerth
  • Cofrestriad CMC llawn a Thrwydded i Ymarfer
  • SCE – Arholiad Tystysgrif Arbenigedd mewn Oncoleg Feddygol neu gyfwerth.
Meini prawf dymunol
  • MSc, BSc, Doethuriaeth
  • Gwybodaeth am geisiadau grant
  • Gwybodaeth am y broses drwy Ymchwil a Datblygu ar gyfer treialon clinigol
  • Cymhwyster ôl-raddedig mewn Oncoleg
  • Cofnod cyhoeddi amlwg gan gynnwys cyhoeddiad cyntaf gan yr awdur

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad clinigol ar lefel ST5 neu uwch mewn oncoleg feddygol
  • Profiad oncoleg gan gynnwys recriwtio a rheoli cleifion mewn treialon clinigol
  • Profiad o gyflwyno cyflwyniadau ar lefel ranbarthol, genedlaethol a rhyngwladol
  • Sgiliau TG yn enwedig wrth ddefnyddio cymwysiadau MS Office
  • Sgiliau dadansoddi – yn gallu dadansoddi a chyflwyno data cymhleth, mewn amrywiaeth o fformatau i ystod o gynulleidfaoedd
Meini prawf dymunol
  • Profiad o weithio gyda neu reoli cleifion sydd angen gofal dwys /dibyniaeth uchel
  • Gallu profedig i reoli eich amser eich hun a chyflawni ystod o dasgau o fewn terfynau amser
  • Profiad o dreialon oncoleg
  • Tystysgrif ôl-raddedig ym maes Addysgu a Dysgu ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Iechyd

Sgiliau a Phriodoleddau

Meini prawf hanfodol
  • Gallu profedig i ddefnyddio TG i roi cyflwyniadau ac ysgrifennu adroddiadau
  • Gallu amlwg i werthuso llenyddiaeth yn feirniadol
  • Gallu amlwg i ddangos creadigrwydd, arloesedd a gwaith tîm o fewn gwaith

Arall

Meini prawf dymunol
  • Gallu profedig i weithio heb oruchwyliaeth agos
  • Gallu amlwg i addasu i ofynion newidiol treialon clinigol
  • Sgiliau trefnu a rheoli amser i reoli a chyflawni amrywiaeth o derfynau amser tynn ar gyfer tasgau a phrosiectau
  • Rhoi sylw i fanylion
  • Agwedd hyblyg at weithio, sy’n cynnwys sgiliau datrys problemau, rheoli newid ac awydd i ddatblygu gwybodaeth
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1) neu barodrwydd i weithio tuag at hynny

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Apprenticeships logoAge positiveDisability confident leaderInvestors in People: GoldImproving working livesStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesStonewall Hyrwyddwr Amrywiaeth Diversity ChampionMindful employer.  Being positive about mental health.Core principlesDisability Confident Leader - Welsh

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Prof Rob Jones
Teitl y swydd
Oncology Consultant
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg