Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Gweinyddol
Gradd
Gradd 2
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Dydd Llun to Dydd Gwener, 9-5)
Cyfeirnod y swydd
120-AC819-1026
Cyflogwr
Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Canolfan Ganser Felindre
Tref
Yr Eglwys Newydd, Caerdydd
Cyflog
£26,300 Y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
28/10/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre logo

Trawsgrifydd

Gradd 2

Diolch am eich diddordeb mewn gweithio i Ganolfan Ganser Felindre (CGF), sy'n gyflogwr cyfle cyfartal ymroddedig. Mae CGF yn croesawu ceisiadau gan bobl sy'n rhannu ein gweledigaeth;

Bydd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn cael ei chydnabod yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol fel sefydliad enwog o ragoriaeth mewn perthynas â gofal rhoddwyr a chleifion, addysg ac ymchwil.

ein gwerthoedd;

  • Gofalgar
  • Parchus
  • Atebol


ac a fydd yn ategu’r gweithwyr profiadol ac arbenigol sydd gennym ar hyn o bryd, sydd yn frwdfrydig dros weithio mewn sefydliad sydd â’r uchelgais i ddarparu gwasanaethau a gofal o'r radd flaenaf i'n cleifion.

Mae gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre le arbennig ym maes gofal iechyd yng Nghymru. Mae’n sefydliad anhygoel i weithio ynddo ac i ddatblygu eich gyrfa hefyd. Mae'r Ymddiriedolaeth yn cynnwys dwy adran, sef Canolfan Ganser Felindre a Gwasanaeth Gwaed Cymru. Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP) a Thechnoleg Iechyd Cymru (HTW) yn disgyn dan adain yr Ymddiriedolaeth hefyd, ar ran Llywodraeth Cymru a GIG Cymru.

Mae CGF yn cynnig cyflog cystadleuol i’n gweithwyr, ynghyd â nifer o gynlluniau gwobrwyo, buddion a chefnogaeth i staff.

Os hoffech chi ragor o wybodaeth am y swydd wag hon, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio, a fydd yn falch o drafod y cyfle hwn gyda chi.

Gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr holl ohebiaeth sy'n gysylltiedig â recriwtio trwy'r cyfrif e-bost sydd wedi cael ei roi ar y ffurflen gais.

Mae gan yr Ymddiriedolaeth yr hawl hefyd i gau swydd wag yn gynnar neu i dynnu hysbyseb yn ôl ar unrhyw gam o'r broses, er mwyn caniatáu i staff mewnol gael eu hadleoli i rolau addas.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

 

Trosolwg o'r swydd

Cyfle cyffrous i ymuno â'r Tîm Cofnodion Iechyd yn Felindre fel trawsgrifydd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio fel rhan o dîm sy'n darparu gwasanaeth Cofnodion Iechyd effeithlon ac effeithiol.
Bydd y cyfrifoldebau’n cynnwys darparu gwasanaeth teipio sain, sganio a diweddaru gwybodaeth glinigol arferol ar CANISC, sicrhau bod yr wybodaeth i gleifion sy'n mynychu pob clinig ar gael, archebu a chofnodi gweithgarwch cleifion, dod o hyd i nodiadau coll, a didoli a ffrancio’r post.

Mae'r gwaith yn weithredol ac yn amrywiol, ac yn gofyn am ddull hyblyg o weithio.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Cysylltu'n agos â'r ysgrifenyddion meddygol, cynorthwywyr ysgrifenyddol a chydlynwyr clinigau.

Sicrhau bod gwasanaeth teipio arferol yn cael ei gwblhau yn ôl dyddiad, oni bai bod y Rheolwr Ysgrifenyddion Meddygol/Rheolwr Cofnodion Iechyd yn dweud fel arall. 

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.  Mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais

 

Gweithio i'n sefydliad

Yn Ymddiriedolaeth Prifysgol Felindre, rydym yn falch o ddarparu gwasanaethau arbenigol ledled Cymru drwy Ganolfan Ganser Felindre a Gwasanaeth Gwaed Cymru, gyda chefnogaeth ein timau corfforaethol a'n partneriaethau â Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru ac Iechyd  Technoleg Cymru.

 

Wrth edrych tua’r dyfodol, rydym yn paratoi ar gyfer agor Ganolfan Ganser Felindre newydd (nVCC) yng Ngwanwyn 2027—carreg filltir gyffrous a fydd yn trawsnewid gofal canser i’n poblogaeth. Wedi’i lleoli o fewn cyrraedd hawdd i ddinas fywiog Caerdydd a harddwch trawiadol Bannau Brycheiniog, rydym yn cynnig amgylchedd gwaith unigryw sy’n cyfuno arloesedd, cydweithio ac ansawdd bywyd rhagorol.

 

Ers ein sefydlu ym 1994, mae ein gweithlu ymroddedig wedi parhau’n ffyddlon i gyflawni egwyddorion gofal doeth ar draws ystod eang o rolau. Rydym yn parhau i chwarae rhan hanfodol yn ein cymunedau ac mae gennym gynlluniau uchelgeisiol i wella’r gwasanaethau a ddarparwn ymhellach.

 

Mae popeth rydym yn ei wneud wedi’i seilio ar werthoedd ein Hymddiriedolaeth. Rydym yn ofalgar, yn barchus ac yn atebol yn y ffordd rydym yn gweithio gyda chleifion, rhoddwyr, partneriaid a’n gilydd—gan sicrhau ein bod yn darparu’r safonau uchaf o ofal wrth ymdrechu’n barhaus i wella.

 

Os ydych am weithio i sefydliad sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, sy’n croesawu arloesedd ac sy’n cynnig cyfleoedd gyrfa gwerth chweil mewn lleoliad ysbrydoledig, Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yw’r lle i chi.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Addysg

Meini prawf hanfodol
  • Addysg gyffredinol dda TGAU gradd C neu uwch, gan gynnwys Saesneg a chymwysterau tebyg

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau bysellfwrdd uwch.
  • Teipio sain
Meini prawf dymunol
  • Profiad o weithio yn y GIG Gweithio mewn amgylchedd ysbyty
  • Dealltwriaeth o derminoleg feddygol

Galluoedd

Meini prawf hanfodol
  • Talu sylw i fanylion
  • Y gallu i weithio dan bwysau ac i derfynau amser llym
Meini prawf dymunol
  • Y gallu i siarad Cymraeg

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Apprenticeships logoAge positiveDisability confident leaderImproving working livesStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.Core principlesDisability Confident Leader - Welsh

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Tracy Bell
Teitl y swydd
Health Records Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
02920 615888
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg