Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Finance
Gradd
Band 8b
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
120-AC769-0326
Cyflogwr
Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Canolfan Ganser Felindre
Tref
Yr Eglwys Newydd, Caerdydd
Cyflog
£65,424 - £76,021 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
12/04/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre logo

Dirprwy Bennaeth Partneriaeth Busnes Ariannol

Band 8b

Diolch am eich diddordeb mewn gweithio i Ganolfan Ganser Felindre (CGF), sy'n gyflogwr cyfle cyfartal ymroddedig. Mae CGF yn croesawu ceisiadau gan bobl sy'n rhannu ein gweledigaeth;

Bydd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn cael ei chydnabod yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol fel sefydliad enwog o ragoriaeth mewn perthynas â gofal rhoddwyr a chleifion, addysg ac ymchwil.

ein gwerthoedd;

  • Gofalgar
  • Parchus
  • Atebol


ac a fydd yn ategu’r gweithwyr profiadol ac arbenigol sydd gennym ar hyn o bryd, sydd yn frwdfrydig dros weithio mewn sefydliad sydd â’r uchelgais i ddarparu gwasanaethau a gofal o'r radd flaenaf i'n cleifion.

Mae gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre le arbennig ym maes gofal iechyd yng Nghymru. Mae’n sefydliad anhygoel i weithio ynddo ac i ddatblygu eich gyrfa hefyd. Mae'r Ymddiriedolaeth yn cynnwys dwy adran, sef Canolfan Ganser Felindre a Gwasanaeth Gwaed Cymru. Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP) a Thechnoleg Iechyd Cymru (HTW) yn disgyn dan adain yr Ymddiriedolaeth hefyd, ar ran Llywodraeth Cymru a GIG Cymru.

Mae CGF yn cynnig cyflog cystadleuol i’n gweithwyr, ynghyd â nifer o gynlluniau gwobrwyo, buddion a chefnogaeth i staff.

Os hoffech chi ragor o wybodaeth am y swydd wag hon, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio, a fydd yn falch o drafod y cyfle hwn gyda chi.

Gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr holl ohebiaeth sy'n gysylltiedig â recriwtio trwy'r cyfrif e-bost sydd wedi cael ei roi ar y ffurflen gais.

Mae gan yr Ymddiriedolaeth yr hawl hefyd i gau swydd wag yn gynnar neu i dynnu hysbyseb yn ôl ar unrhyw gam o'r broses, er mwyn caniatáu i staff mewnol gael eu hadleoli i rolau addas.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Bydd Dyfarniad Cyflog Agenda ar gyfer Newid 2026/27 yn weithredol o 1 Ebrill 2026.

Sylwer: bydd cyflog ymgeiswyr llwyddiannus sydd â dyddiad dechrau o 1 Ebrill ymlaen yn unol â dyfarniad cyflog 2026/27. I gael rhagor o fanylion gweler y cylchlythyr cyflog sydd ar gael trwy ddilyn y ddolen hon https://www.nhs.wales/files/pc-resources/afc-w-02-2026-pdf-pdf?ts=1773244958086

Trosolwg o'r swydd

Bydd deiliad y swydd yn weithiwr proffesiynol blaenllaw ym maes cyllid ac yn aelod allweddol o'r Uwch Dîm Cyllid yn yr Ymddiriedolaeth. Bydd deiliad y swydd hefyd yn aelod allweddol a chyfranogwr gweithgar yn uwch dimau rheoli Gwasanaeth Canser Felindre. Bydd yn cefnogi'r Pennaeth Partneru Busnes Cyllid wrth reoli a bod â chyfrifoldeb am berfformiad cyffredinol y timau cyllid isadrannol datganoledig ac yn sicrhau bod gwasanaeth cyllid partner busnes effeithlon ac effeithiol yn cael ei gyflawni.


Bydd deiliad y swydd yn darparu arweinyddiaeth, gyda chyfrifoldeb rheolaethol a gweithredol strategol a phroffesiynol dros ddarparu gwasanaeth rheoli a chynghori ariannol partner busnes ar draws yr Ymddiriedolaeth. Bydd yn gweithio'n agos gyda'r Pennaeth Partneru Busnes Cyllid, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllid, Cyfarwyddwyr Isadrannol ac uwch reolwyr eraill wrth ddarparu cyngor a chefnogaeth ariannol arloesol, rhagweithiol i'r sefydliad, wrth oruchwylio datblygu a darparu prosesau a rheolaethau ariannol isadrannol cadarn.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd gan ddeiliad y swydd y cyfrifoldeb allweddol o ran cefnogi'r weledigaeth a'r arweinyddiaeth wrth ddatblygu a gweithredu strategaeth ariannol Gwasanaeth Canser Felindre, gan arwain at gyflawni cynlluniau ariannol blynyddol a'u trosi i gyllidebau y cytunir arnynt ar draws y ddwy isadran cyflenwi gwasanaethau sy'n cynnwys targedau’r Rhaglen Gwella Costau (CIP) gofynnol.


Gan weithio'n agos gyda'r Pennaeth Partneru Busnes Cyllid, y Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllid a chydweithwyr eraill, bydd deiliad y swydd hefyd yn chwarae rhan sylweddol yn yr holl drafodaethau comisiynu a chontractio gyda'r GIG a sefydliadau allanol eraill.


Bydd deiliad y swydd yn dirprwyo ar ran y Pennaeth Partneru Busnes Cyllid mewn cyfarfodydd/dyletswyddau mewnol ac allanol yn ôl y gofyn.

 

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon;  mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

 

Gweithio i'n sefydliad

Yma yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, rydym yn hynod falch o'r gwasanaethau arbenigol a ddarparwn ledled Cymru yn ein Canolfan Ganser Felindre arloesol ac ein Gwasanaeth Gwaed Cymru gwobrwyedig. Yn ogystal ag arbenigedd ein swyddogaethau corfforaethol sy'n dod â'r ddwy adran at ei gilydd. Rydym hefyd yn ffodus i gynnal Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a Thechnoleg Iechyd Cymru ac rydym wedi datblygu gwaith partneriaeth cryf gyda'r gwasanaethau arbenigol hyn.

Wedi'i sefydlu ym 1994, mae gan yr Ymddiriedolaeth weithlu ymroddedig sy'n ymdrechu'n barhaus i ddarparu egwyddorion allweddol gofal iechyd darbodus drwy amrywiaeth eang o rolau. Rydym yn chwarae rhan hanfodol yn y cymunedau rydym yn eu cefnogi ac mae gennym gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol i barhau i wella'r gwasanaethau a ddarparwn. Rydym yn ymdrechu i gynnal ein gwerthoedd craidd ym mhopeth a wnawn drwy fod yn; atebol, beiddgar, gofalgar a deinamig, a sicrhau'r gofal gorau posibl i'n cleifion a'n rhoddwyr.

Yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, ein nod ydy meithrin diwylliant o ddarganfod, cydweithredu a sicrhau gwelliant parhaus.  Byddwn yn cyflawni hyn drwy ymgorffori ymchwil ac arloesedd ym mhopeth a wnawn, er mwyn cyflawni effaith ystyrlon a mesuradwy i'n cleifion a'n cymunedau.

Os ydych am weithio i sefydliad sy'n ymfalchïo mewn gwneud gwahaniaeth go iawn ac sy'n cynnig cyfleoedd gyrfa cyffrous, yna Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yw'r lle i chi.

https://velindre.nhs.wales/

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac

 

 

Arwain a Rheoli
Sicrhau bod y swyddogaeth partner busnes cyllid yn rhagweithiol ac yn ddylanwadol yn ei gyfraniad i gynllun strategol a gweithredol yr Ymddiriedolaeth ac i annog a sicrhau bod diwylliant o wella, arloesi a rhagoriaeth broffesiynol yn barhaus.
Ymgymryd â swyddogaeth uwch bartner busnes, gan weithio ochr yn ochr â'r cyfarwyddwyr isadrannol ac uwch ddeiliaid cyllideb i ddarparu cyngor ariannol, rheoli a busnes proffesiynol arbenigol sy'n cwmpasu pob agwedd ar ddarparu gwasanaethau.
Rhoi arweiniad a chyfeiriad ar draws sefyllfaoedd pan fo angen cyfleu a gweithredu syniadau neu gysyniadau hynod o gymhleth ar draws y sefydliad mewn iaith sy'n hawdd ei deall.
Cefnogi'r Pennaeth Partneru Busnes Cyllid i ddarparu cyfarwyddyd, arweiniad a chymhelliant i’r timau cyllid isadrannol i sicrhau safon uchel o broffesiynoldeb, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd wrth ddarparu'r gwasanaethau partneru busnes cyllid, gan sicrhau bod gweithgaredd yn cyd-fynd yn llawn â busnes yr Ymddiriedolaeth. Bydd hyn yn cynnwys hyfforddi a mentora, cynllunio adnoddau, gosod safon, rheoli perfformiad, datblygu timau ac unigolion.
Sicrhau bod amcanion blynyddol y cytunwyd arnynt gyda'r holl staff cyllid isadrannol yn cael eu rheoli a'u hyfforddi'n briodol i gyflawni o gymharu ag amcanion allweddol.
Sicrhau bod nodau ac amcanion yr Ymddiriedolaeth yn cael eu deall yn glir ac yn cael eu cyfleu i'r staff o fewn y tîm.
Sicrhau bod systemau cadarn o lywodraethu, rheoli ariannol a rheoli risg yn gweithredu o fewn yr isadrannau.
Darparu cyngor proffesiynol diduedd a dadansoddi a dehongli ariannol ystyrlon, i gefnogi llunio strategaeth, cynllunio a gwneud penderfyniadau.
Darparu arweiniad a mewnwelediad o ran manteisio i’r eithaf ar egwyddorion Gofal Iechyd yn Seiliedig ar Werth o fewn isadrannau Gwasanaeth Canser Felindre a’r Ymddiriedolaeth yn ehangach.
Rheoli a Chynllunio Ariannol
Mewn cydweithrediad â'r Pennaeth Timau Partneru Busnes Cyllid a Thimau Cyllid isadrannol, llunio cynlluniau strategol ariannol tymor byr, canolig a thymor hwy sy'n cynnwys ansicrwydd ac a allai effeithio ar y sefydliad cyfan gan sicrhau eu bod yn cyd-fynd â chynlluniau strategol cyffredinol yr Ymddiriedolaeth ac yn sicrhau hyfywedd ariannol.
Monitro ac adolygu cynlluniau'n rheolaidd ac addasu ar gyfer newidiadau mewn angen lleol ac mewn ymateb i newidiadau mewn canllawiau polisi cenedlaethol ac i arwain a noddi prosiectau cyllid i ddatblygu ffyrdd newydd o weithio yn unol â'r strategaethau a'r cynlluniau busnes.
Sicrhau cyfranogiad gweithredol a dylanwad ar benderfyniadau busnes perthnasol i sicrhau bod y goblygiadau, y cyfleoedd a'r risgiau yn y tymor uniongyrchol a'r tymor hwy yn cael eu hystyried yn llawn ac yn gyson â'r strategaeth ariannol gyffredinol.
Rheoli gweithrediad System Gyllid Oracle i sicrhau ei bod yn prosesu'n effeithiol ac yn cipio gwybodaeth ariannol i gefnogi a diwallu anghenion gofynion adrodd Isadrannol yn y ffordd orau.
Arwain y gwaith hyrwyddo a chyflawni rheoli ariannol da, fel bod adnoddau'r isadrannau yn cael eu diogelu, eu defnyddio'n briodol, yn economaidd, yn effeithlon ac yn effeithiol drwy oruchwylio gweithredu cyllidebau, monitro, rhagweld ac adrodd ar incwm a gwariant.
Rhoi cyngor a datblygu agweddau ariannol achosion busnes, dewisiadau cyflawni gwasanaethau a dewisiadau buddsoddi /dadfuddsoddi cyffredinol eraill. Bydd hyn yn cynnwys gwerthuso a beirniadu cynigion a mentrau strategol o du mewn i'r sefydliad a'r rhai gan Lywodraeth Cymru a sefydliadau partner.
Nodi cyfleoedd i optimeiddio'r adnoddau sydd ar gael i'r Ymddiriedolaeth at ddibenion gwella gofal cleifion gan sicrhau’r gwerth gorau.
Perfformiad Ariannol a Chaffael
Mewn cydweithrediad â'r Pennaeth Timau Partneru Busnes Cyllid a Thimau Cyllid isadrannol, datblygu amcanestyniadau ariannol manwl i reoli a goruchwylio'r gwaith o ddarparu safle alldro ariannol sy'n cyd-fynd â'r cynllun ariannol blynyddol cymeradwy o fewn yr isadrannau cyflenwi gwasanaethau, gan sicrhau bod unrhyw raglenni gwella costau a chynlluniau effeithlonrwydd rhyddhau arian yn cael eu darparu.
Sicrhau defnydd priodol, monitro a rheoli cyllidebau gweithredol. Bydd hyn yn cynnwys blaenoriaethu, gosod cyllidebau, goruchwylio cyllidebau dirprwyedig a rheoli a chaffael offer cyfalaf, er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â Rheolau Sefydlog y sefydliad a Chyfarwyddiadau Ariannol Sefydlog a sicrhau llywodraethu corfforaethol effeithiol.
Cynghori ar reoli perfformiad ariannol a mesur a defnyddio meincnodi, i wella perfformiad y sefydliad trwy ddysgu o arferion llwyddiannus eraill
Arfarnu a chynghori ar gyfleoedd masnachol a'u targedau ariannol
Monitro perfformiad yn fanwl o’i gymharu â thargedau ariannol er mwyn sicrhau na fydd yr annisgwyl yn digwydd a galluogi cynllunio ymateb i weithrediadau ymlaen llaw;
Cydbwyso'r angen am ddatblygu gwasanaethau rhagweithiol ac arweinyddiaeth strategol gyda galw adweithiol cyfrifoldebau gweithredol a rhanddeiliaid.
Gweithio'n agos gyda Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP) wrth oruchwylio a sicrhau bod yr isadrannau'n cael eu cefnogi'n ddigonol wrth gyflawni llywodraethu priodol yn eu gofynion caffael a sicrhau bod arfer gorau yn cael ei fabwysiadu wrth gaffael drwy ddefnyddio cytundebau fframwaith ac arferion cystadleuol priodol.
Sicrhau bod gan reolwyr gyngor a chefnogaeth arbenigol mewn trafodaethau contract a monitro contractau dilynol.
Perthnasoedd a Gweithio mewn Partneriaeth
Gweithio’n agos â'r Pennaeth Partneru Busnes Cyllid a Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllid a’u cefnogi i ddatblygu perthnasoedd gweithio cryf ac adeiladol gyda'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau blaenllaw mewn sefydliadau partner a rhanddeiliaid allanol allweddol, megis sefydliadau eraill y GIG, Llywodraeth Cymru, WHSSC, sefydliadau partner masnachol y sector preifat, y trydydd sector ac awdurdodau lleol.
Gweithio gyda sefydliadau allanol fel sy'n briodol mewn cynlluniau cydweithredol ar gyfer cyflawni strategaeth ar y cyd a datblygu gwasanaethau.
Cefnogi'r Pennaeth Partneru Busnes Cyllid a Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllid yn uniongyrchol wrth weithio'n agos gyda sefydliadau Comisiynu'r Ymddiriedolaeth, gan ddefnyddio sgiliau perswadio a thrafod rhagorol i sicrhau bod trefniadau comisiynu a chontractio priodol a chywir ar waith.
Cefnogi'r broses o reoli prosesau comisiynu a rheoli perfformiad gwasanaeth cytundebau ar lefel gwasanaeth perthnasol eraill gyda'r GIG a sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus a phreifat.
Dyletswyddau a Chyfrifoldebau Cyffredinol
Bydd gofyn i ddeiliad y swydd lunio adroddiadau a chyflwyniadau cymhleth yn rheolaidd yn seiliedig ar ystod o wybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau. Ysgrifennu a chyflwyno adroddiadau i ystod eang o grwpiau gan gynnwys o bosibl Bwrdd yr Ymddiriedolaeth a grwpiau Lleol a Chenedlaethol, yn ôl y gofyn
Ymchwilio a sicrhau bod arloesi ac arfer da yn cael eu lledaenu rhwng isadrannau er mwyn sicrhau'r effeithlonrwydd gorau ar draws yr Ymddiriedolaeth, sicrhau’r lledaeniad a chynaliadwyedd mwyaf, gan osgoi dyblygu.
Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd weithio’n annibynnol dan arweiniad strategaethau iechyd a gofal cymdeithasol eang a pholisïau sefydliadol a chanllawiau lleol a chenedlaethol penodol, gan gynghori ynghylch sut y dylid dehongli a gweithredu'r rhain
Bydd angen i ddeiliad y swydd gymathu a chrynhoi dogfennau cymhleth, cymharu ffeithiau a dadansoddi data sefyllfaol o ystod o ffynonellau, datblygu opsiynau ac asesu risgiau a chyfleoedd i'r sefydliad a hwyluso’r gwaith o feithrin consensws a gwneud penderfyniadau.
Bydd deiliad y swydd yn cymryd rhan mewn cyfarfodydd ac yn hwyluso cyfarfodydd sy'n gofyn am lefel uchel o ganolbwyntio ar ystod eang o bynciau, gydag amrywiaeth o gynulleidfaoedd a chymysgedd o'r rhai yn bresennol.
Bydd y swydd yn gofyn am drafod dyddiol gydag uwch weithwyr proffesiynol y GIG, cyfarwyddwyr a rheolwyr mewn materion economi iechyd sydd wedi'u cyfyngu'n ariannol sy'n cael effaith sylweddol ar ansawdd a maint y gwasanaeth cynllunio a pherfformiad ariannol, arfer heriol a phrosesau rheoli sefydledig.
Cyfrannu at amgylchedd gwaith iach, saff a diogel drwy gadw at reoliadau iechyd a diogelwch, polisïau'r Ymddiriedolaeth, gweithdrefnau ac arweiniad. Cymryd camau angenrheidiol o ran risgiau yn y gweithle gan gynnwys cefnogi eraill i reoli risgiau ac adrodd am ddigwyddiadau yn ôl yr angen.
Gweithio yn y swyddfa a theithio’n rheolaidd ar draws yr Ymddiriedolaeth.
Bydd gofyn i ddeiliad y swydd addasu ac ymgymryd â dyletswyddau gwahanol neu newydd yn unol â datblygiadau proffesiynol a gwasanaeth.
Bwriad y Swydd-ddisgrifiad hwn yw rhoi canllawiau cyffredinol o ran dyletswyddau a chyfrifoldebau'r swydd ac nid yw felly’n gynhwysfawr. Bydd yn destun adolygiad yn sgil amgylchiadau sy'n newid ac mewn ymgynghoriad â deiliad y swydd.

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Cyfrifydd Cymwys Cyflawn y CCAB (Pwyllgor Ymgynghorol y Cyrff Cyfrifyddu)
  • Gwybodaeth gyfredol am y safonau ac argymhellion cyfrifyddu diweddaraf
  • Hyfforddiant / cymhwyster arweinyddiaeth a rheolaeth a / neu brofiad gwaith cyfatebol
  • Tystiolaeth o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus o fewn amgylchedd y GIG
  • Dealltwriaeth dda o drefn gyfrifyddu ac adrodd GIG Cymru
  • Gwybodaeth helaeth am weithdrefnau cyfrifyddu ac arferion da.
  • Gwybodaeth uwch a manwl o gynllunio strategol a chapasiti
Meini prawf dymunol
  • Profiad a/neu gymhwyster rheoli prosiectau
  • Gwybodaeth fanwl am reolau TAW a Threth CThEF.

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad ôl-gymhwyso sylweddol mewn rôl Partneru Busnes Cyllid
  • Profiad o ymdrin â rhanddeiliaid lluosog sydd â blaenoriaethau sy'n gwrthdaro
  • Recriwtio, rheoli, goruchwylio, gosod llwyth gwaith, gwerthuso a datblygu staff.
  • Profiad o ddatblygu a chyflwyno achosion busnes ffurfiol, cymhleth i reolwyr a chyfarwyddwyr nad ydynt yn rheolwyr cyllid
Meini prawf dymunol
  • Dealltwriaeth fanwl o reolaethau ariannol Ymddiriedolaeth GIG
  • Profiad o Reolaeth Ariannol ar lefel uwch yn y GIG

SGILIAU A PHRIODOLEDDAU

Meini prawf hanfodol
  • Yn gallu dylanwadu ar uwch gydweithwyr a deiliaid cyllidebau i gyflawni canlyniadau cadarnhaol
  • Yn gallu darparu arweinyddiaeth a chyfeiriad
  • Yn gallu meddwl a gweithredu'n strategol
  • Yn gallu cynllunio, blaenoriaethu a threfnu llwyth gwaith i chi'ch hun ac i’ch adrannau, mewn amgylcheddau cymhleth a sensitif
  • Yn gallu dadansoddi meysydd gwaith i nodi meysydd a fyddai'n elwa o welliant parhaus
  • Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol. Yn gallu herio’r holl weithdrefnau a phrosesau ariannol mewn ffordd adeiladol yn ôl yr angen
  • Hanes profedig o gyflawni mewn rheolaeth ariannol, gan gynnwys y gallu i roi cyngor i weithwyr proffesiynol a gweithio gyda nhw fel tîm
  • Cyflwyno'n hyderus i gynulleidfaoedd mawr a bach a gallu cyflwyno ac esbonio gwybodaeth ariannol hynod gymhleth mewn modd y gall rheolwyr nad ydynt yn ymwneud â chyllid ei deall
  • Sgiliau dadansoddi cryf a'r gallu i ddatrys problemau ariannol cymhleth iawn sy'n ymwneud â chynhyrchion a dadansoddiadau achosion busnes
Meini prawf dymunol
  • Arwain grwpiau mawr
  • Profiad o weithio mewn amgylchedd Comisiynu

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Apprenticeships logoAge positiveDisability confident leaderImproving working livesStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.Core principlesDisability Confident Leader - Welsh

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Steven Coliandris
Teitl y swydd
Deputy Director of Finance
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg