Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Admin
Gradd
Gradd 3
Contract
Parhaol
Oriau
Rhan-amser - 30 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
100-AC317-1125
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Bronglais
Tref
Aberystwyth
Cyflog
£25,313 - £26,999 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
19/11/2025 23:59
Dyddiad y cyfweliad
02/12/2025

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Uwch-weinyddwr yr Adran Gardio-Anadlol

Gradd 3

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Bydd y rôl hon yn darparu cymorth gweinyddol cynhwysfawr i’r adran ddiagnostig gardioanadlol.

Mae hyn yn cynnwys trefnu apwyntiadau a thriniaethau, cyfrifo a chyflwyno gwybodaeth am weithgarwch a rhestrau aros, a delio ag ystod o ymholiadau.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Mae hon yn rôl weinyddu amrywiol a gwerth chweil mewn adran ddiagnostig gardioanadlol brysur. Byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi timau clinigol trwy gydgysylltu apwyntiadau a thriniaethau, cadw cofnodion cywir o weithgarwch yr adran, a helpu i sicrhau siwrnai ddidrafferth i’r claf.

Bydd eich cyfrifoldebau’n cynnwys rheoli systemau ffeilio ar gyfer dogfennau gweithredol a strategol, dod o hyd i nodiadau meddygol, a chyflawni dyletswyddau cyffredinol y swyddfa fel llungopïo a thrin dogfennau.

Chi fydd y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer galwadau ffôn sy’n dod i mewn, gan ymdrin ag ymholiadau mewn modd proffesiynol a gofalgar, a phrosesu gohebiaeth ffisegol ac electronig. Mae sgiliau TG cryf yn hanfodol, oherwydd byddwch yn gyfrifol am brosesu geiriau, cynnal taenlenni Excel, diweddaru cronfeydd data archwilio, a llunio llythyrau a 
chanlyniadau diagnostig clir a chywir. Mae’r rôl hon yn mynnu sgiliau trefnu rhagorol, sylw i fanylion, a dull rhagweithiol sy’n canolbwyntio ar y tîm.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadu ar  02/12/2025

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Safon gyffredinol o addysg: 5 TGAU neu gymwysterau cyfatebol
  • Cymhwyster Lefel 3, e.e. cymwysterau Safon Uwch/ NVQ sy’n benodol i rôl weinyddol ac ysgrifenyddol
  • Yn barod i ymgymryd â hyfforddiant adrannol ac i wella gwybodaeth a sgiliau trwy hyfforddiant pellach
Meini prawf dymunol
  • Gwybodaeth am driniaethau diagnostig cardiaidd ac anadlol

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad blaenorol o weithio mewn amgylchedd gweinyddol/swyddfa
  • Profiad o gymryd cofnodion a threfnu cyfarfodydd a digwyddiadau
  • Sgiliau cyfrifiadurol da ac yn hyddysg mewn defnyddio rhaglenni Microsoft Office (Word, Excel, PowerPoint ac Outlook), gan gynnwys defnyddio peiriannau chwilio’r Rhyngrwyd
  • Profiad o fewnbynnu data a chynnal taenlenni
  • Profiad o ddelio â'r cyhoedd, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a staff y Bwrdd Iechyd ar bob lefel
  • Profiad o weithio mewn amgylchedd tîm.
Meini prawf dymunol
  • Profiad o weithio yn y GIG
  • Profiad o reoli cyfarpar neu adnoddau sy'n ofynnol ar gyfer gwasanaethau

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegDisability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Gethin Howells
Teitl y swydd
Cardio-Respiratory Services Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01970 635747
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg