Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Gweinyddu
- Gradd
- Gradd 3
- Contract
- Parhaol: 3 diwrnod yr wythnos
- Oriau
- Rhan-amser
- Gweithio hyblyg
- Cyfeirnod y swydd
- 100-AC340-1225
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Bronglais
- Tref
- Aberystwyth
- Cyflog
- £25,313 - £26,999 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 18/12/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 30/12/2025
Teitl cyflogwr
Ysgrifennydd Clinigol
Gradd 3
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle wedi dod ar gael i unigolyn brwdfrydig a phrofiadol ymuno â'r Tîm Gweinyddu yn rôl Ysgrifennydd/Gweinyddwr y Tîm Parkinsons yn Aberystwyth.
Yn hanfodol i'r rôl y mae profiad o amrywiaeth o systemau TG, sy'n cynnwys Microsoft Word, rheoli Excel, casglu data, PowerPoint ac e-bost, ynghyd â sgiliau ysgrifenyddol profedig a phrofiad blaenorol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Rydym yn chwilio am rywun trefnus, agos-atoch a chefnogol i ymuno â'n tîm clinigol.
Mae'r rôl yn cynnwys archebu deunydd ysgrifennu a chyflenwadau, teipio
gwybodaeth glinigol o recordiadau sain, a chadw cofnodion cleifion yn gywir ac yn gyfredol, a hynny'n electronig ac ar bapur.
Chi fydd y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau dros y ffôn, a byddwch yn cynnig cymorth digyffro a sensitif, yn enwedig i alwyr a allai fod yn ofidus neu'n bryderus. Gan weithio'n agos gyda chleifion, perthnasau, gofalwyr, clinigwyr, meddygfeydd teulu a gwasanaethau eraill, byddwch yn helpu i sicrhau cyfathrebu rhwydd yn yr adran. Byddwch hefyd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i adrannau
am newidiadau i restrau clinigau cleifion allanol, ac yn cynorthwyo i aildrefnu clinigau pan fo angen.
Mae'r gallu i fod yn drefnus a rheoli amser yn dda yn bwysig yn y rôl gan y bydd angen rhoi sylw prydlon i ohebiaeth frys, er enghraifft canlyniadau annormal neu atgyfeiriadau. Bydd gofyn bod yn hyderus wrth ddefnyddio systemau cyfrifiadurol i fewnbynnu, cyrchu a chynnal gwybodaeth am gleifion.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 30/12/2025
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Lefel 3, neu gymhwysedd ar lefel gyfatebol mewn Prosesu Geiriau a Thrawsgrifio Sain
- Gwybodaeth am ystod o weithdrefnau ysgrifenyddol
- Gwybodaeth am raglenni meddalwedd, e.e. pecynnau Microsoft, e-bost, y rhyngrwyd a chronfeydd data
- 5 TGAU neu gymwysterau cyfatebol
Meini prawf dymunol
- NVQ Lefel II mewn Gweinyddu
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad ysgrifenyddol a/neu weinyddol blaenorol
- Profiad mewn Gwasanaeth Iechyd – yn gyfarwydd â defnyddio termau meddygol
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Claire Davies
- Teitl y swydd
- Hospital Services Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01970 635409
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector





