Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Gweinyddiaeth
Gradd
Gradd 3
Contract
Parhaol
Oriau
Rhan-amser - 5.25 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
100-AC084-0326
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Bronglais
Tref
Aberystwyth
Cyflog
£25,313 - £26,999 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
08/04/2026 23:59
Dyddiad y cyfweliad
22/04/2026

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Swyddog Gweinyddu – y Gwasanaeth Feirysau a Gludir yn y Gwaed (BBV)

Gradd 3

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


Bydd Dyfarniad Cyflog Agenda ar gyfer Newid 2026/27 yn weithredol o 1 Ebrill 2026.

Sylwer: bydd cyflog ymgeiswyr llwyddiannus sydd â dyddiad dechrau o 1 Ebrill ymlaen yn unol â dyfarniad cyflog 2026/27. I gael rhagor o fanylion gweler y cylchlythyr cyflog sydd ar gael trwy ddilyn y ddolen hon https://www.nhs.wales/files/pc-resources/afc-w-02-2026-pdf-pdf?ts=1773244958086

Trosolwg o'r swydd

Bydd Swyddog Gweinyddol y Gwasanaeth Feirysau a Gludir yn y Gwaed (BBV) yn bwynt cyswllt allweddol ar gyfer aelodau perthnasol o'r tîm Hepatoleg, a bydd yn darparu cymorth gweinyddol ac ysgrifenyddol cynhwysfawr i'r Gwasanaeth Hepatoleg. Mae hyn yn cynnwys cyfrifoldeb am gadw cofnodion â llaw ac ar system gyfrifiadurol, ac amlygu'r gallu i drin gwybodaeth sensitif a chyfrinachol am gleifion.

I gefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau, gall y rôl gynnwys teithio i safleoedd ysbytai eraill a gweithio yno.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Darparu gwasanaeth gweinyddol/ysgrifenyddol i'r staff clinigol yn y gwasanaeth, a fydd yn cynnwys clywdeipio trawsgrifiadau o wybodaeth glinigol.

Yn gyfrifol am archebu deunydd ysgrifennu a chyflenwadau gan ddefnyddio system Oracle.

Sicrhau bod nodiadau cleifion yn cael eu diweddaru, a bod gohebiaeth berthnasol yn cael ei ffeilio a'i bod ar gael ar gyfer clinigau cleifion allanol.

Bod yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau dros y ffôn, ac arfer crebwyll a menter i benderfynu ar y camau angenrheidiol i'w cymryd.

Cysylltu mewn modd proffesiynol â chleifion, cyd-weithwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill.

Cynnal ffolderi cyfrifiadurol/clinig presennol a sefydlu ffolderi cyfrifiadurol/clinig newydd.

Rheoli amser mewn modd effeithiol i sicrhau bod gwaith yn cael ei gwblhau yn unol â'r amserlenni.

Cynllunio gwaith o ddydd i ddydd, gan fynd ati ar eich menter eich hun i flaenoriaethu'r llwyth gwaith/ddiwygio'r cynllun gwaith i fodloni gofynion y gwasanaeth.

Prosesu gohebiaeth sy'n dod i mewn ac yn mynd allan ar gyfer y gwasanaeth BBV, gan sicrhau bod camau brys yn cael eu cymryd, lle bo hynny'n briodol.

Meddu ar y gallu i ddefnyddio systemau cyfrifiadurol mewn modd cymwys i fewnbynnu ac adalw gwybodaeth am gleifion.

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadu ar 22/04/2026.

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • RSA/OCR II neu brofiad cyfatebol amlwg o sgiliau a gwybodaeth swyddfa/gweinyddol, ynghyd â phrofiad o weithio mewn amgylchedd gweinyddol/swyddfa NEU RSA/OCR III neu brofiad amlwg cyfatebol o sgiliau a gwybodaeth swyddfa/ gweinyddol
Meini prawf dymunol
  • Gwybodaeth am derminoleg feddygol

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad blaenorol o weithio mewn lleoliad swyddfa weinyddol/gofal iechyd
  • Profiad o ddefnyddio a sefydlu systemau TG amrywiol, Word, Excel, Outlook
Meini prawf dymunol
  • Profiad blaenorol o ddarparu cymorth ysgrifenyddol
  • Profiad o ddefnyddio a chynnal cofnodion gofal iechyd.

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegDisability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Donna Blinston
Teitl y swydd
ANP Hepatology services
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01970 623131
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg