Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Anestheteg
- Gradd
- Gwasanaethau Meddygol a Deintyddol y GIG: Ymgynghorydd
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Cyfeirnod y swydd
- 100-MED-BGH-115-G
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Bronglais
- Tref
- Aberystwyth
- Cyflog
- £114,099 - £166,585 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 06/09/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Ymgynghorydd Meddyg Ymgynghorol Anestheteg
Gwasanaethau Meddygol a Deintyddol y GIG: Ymgynghorydd
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Mae Gorllewin Cymru yn cynnig ansawdd bywyd rhagorol, a harddwch yr arfordir, parciau cenedlaethol a chefn gwlad gerllaw. Tref brifysgol fywiog yw Aberystwyth a chanddi naws gymunedol gref, amwynderau lleol da a chyfleoedd ardderchog ar gyfer gweithgareddau awyr agored.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn awyddus i benodi Meddyg Ymgynghorol mewn Anestheteg i ymuno â'r tîm sefydledig yn Ysbyty Cyffredinol Bronglais, Aberystwyth. Cynigia'r swydd hon gyfle i ddatblygu rôl ymgynghorol gynaliadwy o fewn adran gefnogol, gan elwa ar gydbwysedd rhagorol rhwng gwaith a bywyd yng Ngorllewin Cymru.
Mae Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn darparu gwasanaethau acíwt i Geredigion a'r ardaloedd cyfagos ac mae'n chwarae rhan allweddol wrth ddarparu gofal wedi'i gynllunio a gofal heb ei drefnu. Mae'r adran Anestheteg wrth wraidd gwasanaethau llawfeddygol a gofal critigol yr ysbyty, gan gymryd rhan weithredol mewn datblygu gwasanaethau a chynllunio at y dyfodol.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan feddygon ymgynghorol llawn cymhelliant sydd wedi ymrwymo i ddarparu gofal o safon, sy'n canolbwyntio ar y claf ac sy'n dymuno cyfrannu at ddatblygiad parhaus gwasanaethau anestheteg o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Ar y cyd â chyd-weithwyr ymgynghorol, darparu gwasanaeth Anesthesia ar gyfer llawdriniaeth gyffredinol, orthopedig, gynaecolegol, obstetrig ac offthalmig, a hynny’n llawdriniaeth frys a dewisol.
Mae sesiynau theatr ar gael mewn amrywiaeth o arbenigeddau, a chytunir arnynt gyda'r ymgeisydd llwyddiannus yn seiliedig ar ddiddordebau Is-arbenigedd.
Mae'r adran yn gweithio rota cwbl hyblyg sy'n cynnwys rhestrau theatr dewisol, rhestrau llawdriniaeth frys/trawma, yn ogystal â sesiynau dydd yn yr Uned Therapi Dwys.
Mae yna feddygon ymgynghorol preswyl ar alwad ddydd a nos sy'n cwmpasu’r theatrau a’r Uned Gofal Dwys yn ogystal ag ail feddyg ymgynghorol ar alwad gartref, saith niwrnod yr wythnos.
Mae'r elfen ar alwad yn denu atodiad band 3 ac fe'i darperir ar sail rota treigl sy'n benodol i Ysbyty Bronglais.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlfford
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 48 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartre
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
I gael holl fanylion gofynion y rôl, gweler y Swydd-ddisgrifiad a Manyleb y Person sydd ynghlwm.
Cynhelir trafodaethau ynghylch patrwm gweithio yn ystod y broses cynllunio swyddi gychwynnol, lle gellir trafod ac archwilio dewisiadau, gofynion ac opsiynau yn llawn.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaethau gofal iechyd sy'n canolbwyntio ar y claf, gan sicrhau bod ein cymuned yn cael y gofal gorau posibl. Rydym yn gwerthfawrogi cynhwysiant ac yn meithrin diwylliant yn y gweithle sy'n croesawu amrywiaeth ac yn cefnogi cyfraniad pob unigolyn tuag at amgylchedd gofal iechyd croesawgar.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o'r gymdeithas ac rydym yn ymrwymedig i greu gweithle amrywiol a chynhwysol.
Gweler y dolenni isod am fideos defnyddiol sy'n ymwneud â'r swydd hon:
- Hywel Dda 3 Sir - https://youtu.be/9wTeZD4cQOw
- Ffordd o fyw yng Nghymru https://youtu.be/rICFhN-0_nY?si=9pFkL_BkfEiQLzAo
- Rhaglen Ddatblygu Arweinyddiaeth Feddygol Hywel Dda –https://youtu.be/2fDHk9imTbo?si=OjYD8W41c-YNNVVA
-
Taith rhithwir - https://www.youtube.com/watch?v=vuSmBejIyNY
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cofrestriad llawn a Thrwydded i Ymarfer gyda'r Cyngor Meddygol Cyffredinol.
- Ar Gofrestr Arbenigol y GMC (gan gynnwys trwy Lwybr Portffolio (CESR)/Hawliau'r Gymuned Ewropeaidd) neu bydd disgwyl CCT o fewn chwe mis i ddyddiad y cyfweliad.
- Sgiliau Cynnal Bywyd Uwch Ardystiedig a Dilys.
- Pan fo diddordeb is-arbenigedd Meddygaeth Gofal Dwys yn ofynnol, dylai hyfforddiant is-arbenigedd fod i lefel sy'n briodol ar gyfer ymarfer ymgynghorol is-arbenigol y DU - cymrodoriaeth neu brofiad lefel gyfatebol.
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster(au) Uwch ychwanegol.
Profiad Clinigol
Meini prawf hanfodol
- Profiad eang o fewn y maes arbenigedd.
- Gallu dangos cymwyseddau craidd a sgiliau clinigol sy'n berthnasol i'r swydd.
- Profiad o arwain tîm.
Meini prawf dymunol
- Profiad blaenorol o weithio yn y DU neu'r GIG.
Llywodraethu Clinigol
Meini prawf hanfodol
- Dealltwriaeth o rôl Llywodraethu Clinigol.
- Cyfranogiad mewn archwiliad clinigol (neu brosiect gwella ansawdd) a deall rôl archwilio wrth wella ymarfer meddygol.
- Gwybodaeth am y broses flynyddol o adolygu cynllunio/arfarnu swyddi
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth am reoli risg.
Addysgu
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i asesu'n feirniadol gofynion dysgu ar gyfer eich hun ac eraill.
- Tystiolaeth o drefnu rhaglenni ac addysgu pob grŵp staff.
- Parodrwydd i addysgu pob gradd o staff amlddisgyblaethol proffesiynol.
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster addysgu.
Ymchwil ac Ysgolheictod
Meini prawf hanfodol
- Arddangos gwybodaeth am ymchwil gyfredol ac arfer gorau yn y maes arbenigedd.
- Tystiolaeth o gadw'n gyfredol â'r ymchwil a'r arfer gorau.
- Tystiolaeth o leoli a defnyddio canllawiau clinigol yn briodol.
- Tystiolaeth o gyfathrebu a dehongli tystiolaeth ymchwil mewn ffordd ystyrlon.
Meini prawf dymunol
- Cyfranogiad gweithredol mewn ymchwil.
Diogelu
Meini prawf hanfodol
- Dangos gwybodaeth am ofynion diogelu a chymryd cyfrifoldeb priodol.
- Tystiolaeth o gymhwyso deddfwriaeth cydraddoldeb ac amrywiaeth briodol.
Arall
Meini prawf dymunol
- Siarad Cymraeg (Lefel 1)
Sgiliau a Phriodoleddau
Meini prawf hanfodol
- Gallu gweithio'n annibynnol a bod yn gyfrifol am gamau a gymerwyd.
- Gallu gweithio'n hyblyg.
- Gallu bod yn bwyllog wrth weithio o dan bwysau
- Ymgymryd â chyfrifoldeb am arwain a goruchwylio tîm
- Sgiliau gweithio mewn tîm a sgiliau rhyngbersonol rhagorol
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Diane Knight
- Teitl y swydd
- Service Delivery Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07811711905
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Meddygol a Deintyddol neu bob sector





