Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Deietegol
- Gradd
- Band 4
- Contract
- 12 mis (Mae hon yn swydd cyfnod penodol/secondiad tan 30/06/2026)
- Oriau
- Llawnamser
- Rhannu swydd
- Gweithio hyblyg
- Cyfeirnod y swydd
- 100-ACS088-0725
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Bronglais
- Tref
- Aberystwyth
- Cyflog
- £26,928 - £29,551 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 21/07/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 31/07/2025
Teitl cyflogwr

Ymarferydd Cynorthwyol Deietegol
Band 4
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Mae hon yn swydd cyfnod penodol/secondiad tan 30/06/2026.
Os ydych yn gyflogai i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn gwneud cais am secondiad i'r swydd hon, bydd angen i'ch rheolwr presennol gytuno i'r secondiad cyn i chi gyflwyno eich cais.
A oes gennych ddiddordeb brwd mewn maetheg a'i rôl allweddol mewn gofal cleifion, ac a ydych yn chwilio am gyfle newydd, cyffrous?
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn chwilio am Ymarferydd Cynorthwyol Deieteg Band 4 i weithio yn aelod annatod o'r timau deieteg acíwt a chymunedol, fel ei gilydd, ar gyfer cymorth maethol wedi'i leoli yn Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg, Hwlffordd, Sir Benfro.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â'r tîm cymorth maethol dynamig, sy'n meddu ar weledigaeth ac sy'n canolbwyntio ar sicrhau gofal maeth rhagorol ar gyfer pobl yn yr ysbyty.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dod yn aelod annatod o'r tîm deieteg gan weithio i sicrhau'r gofal maeth gorau ar gyfer cleifion, a hynny'n ffactor allweddol sy'n dylanwadu ar adferiad a chanlyniadau.
Byddwch yn gweithio gyda chleifion, eu gofalwyr a'r tîm amlddisgyblaethol yn yr ysbyty, yn cefnogi prosesau trosglwyddo gofal amserol, ac, yn rhan o'r tîm, yn ymgymryd â'r gwaith o ddarparu addysg a hyfforddiant ar faetheg i staff iechyd a gofal eraill.
Byddwch yn amlygu dealltwriaeth dda o rôl maetheg mewn gofal iechyd, yn gyfathrebwr rhagorol, yn gweithio'n dda mewn tîm ac yn barod i ymgymryd â dysgu a datblygiad pellach i gyflawni cwmpas a gofynion y rôl hon.
Byddwch yn ymuno â'n tîm deieteg bach ond uchel ei barch yn y Bwrdd Iechyd, ac yn elwa ar strwythur sefydledig cyfeillgar a chefnogol, ffocws gweithredol ar ddatblygiad parhaus, a chysylltiadau amlbroffesiynol sefydledig.
Rydym yn agored i ystyried gweithio hyblyg, gan eich cefnogi i gyflawni cytbwysedd da rhwng bywyd a gwaith a bodlonrwydd swydd uchel.
Rydym yn croesawu ymholiadau anffurfiol ac ymweliadau â'r adran gan ddarpar ymgeiswyr.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.
Cynhelir y cyfweliadau ar 31/07/2025.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster mewn maetheg, iechyd neu faes perthnasol arall, sy'n cyfateb i o leiaf 120 credyd ar lefel 4 neu NVQ neu ddiploma lefel 3 neu gymhwyster cyfatebol ac yn barod i gwblhau 120 credyd ar lefel 4 sy'n berthnasol i'r rol cyn pen dwy flynedd o gael eich penodi, gyda phrofiad lefel 4 cyfatebol
- TGAU Mathemateg a Saesneg (graddau A-C) neu Sgiliau Hanfodol Cymru
- Yn hyddysg mewn TG e.e Microsoft Office 365, MS Teams
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r sylfaen dystiolaeth sy'n sail i faetheg ym maes gofal iechyd
- Meistrolaeth dda ar y Saesneg ac yn gallu cymhwyso Mathemateg sylfaenol
Meini prawf dymunol
- Prentisiaeth Therapi Lefel 4
- Cyrsiau perthnasol i gefnogi gwaith maetheg/clinigol
- Gwybodaeth TG am systemau casglu data
- Cymhwyster proffesiynol, technegol neu academaidd sy'n berthnasol i faetheg neu ymarfer clinigol hyd at 180 credyd ar lefel 4
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad mewn perthynas a gofal iechyd, llesiant a maetheg, neu o fod yn weithiwr cymorth mewn gwasanaeth nyrsio neu therapi, neu mewn maes cysylltiedig
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio mewn rol gweithiwr cymorth Deieteg
- Profiad clinigol ychwanegol neu ym maes gofal iechyd
- Profiad o weithio gyda grwpiau o gleifion
- Profiad goruchwylio
Arall
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i deithio rhwng safleoedd a thywys ymweliadau â phobl fel y bo angen
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Emily Bridge
- Teitl y swydd
- Acute Service Lead Dietitian
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07385 383385
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Thomas Cooze (Prif Dietegydd Clinigol Aciwt Bronglais)
neu
Iona Lloyd (Prif Dietegydd Cymunedol Ceredigion)
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Proffesiynau Perthynol i Iechyd neu bob sector