Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Haematoleg
- Gradd
- Gradd 4
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 7.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 100-AC270-1224-A
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Bronglais
- Tref
- Aberystwyth
- Cyflog
- £26,928 - £29,551 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 26/05/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 03/06/2025
Teitl cyflogwr

Uwch-ysgrifennydd Meddygol
Gradd 4
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Dyma gyfle cyffrous i ymuno â'r Tîm Hematoleg.
Gwahoddir ceisiadau gan unigolion effeithlon sydd â chymwysterau addas ar gyfer swydd Uwch-ysgrifennydd Meddygol rhan-amser i weithio 7.5 awr yr wythnos, parhaol yn Ysbyty Cyffredinol Bronglais.
Bydd diwrnod gwaith yr ymgeisydd llwyddiannus yn ddydd Llun ond yn chwilio am hyblygrwydd i ddiwallu anghenion y gwasanaeth.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Gan weithio 7.5 awr yr wythnos, bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus gefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaeth ysgrifenyddol cynhwysfawr ac o ansawdd i'r Meddygon Ymgynghorol a'u timau.
Byddwch yn ymgymryd ag amrywiaeth eang o ddyletswyddau, gan gynnwys derbyn a dosbarthu post, trawsgrifio sain, a theipio llythyrau ac adroddiadau sensitif iawn, gan gynnal cyfrinachedd bob amser. Bydd disgwyl i chi amlygu sgiliau trefnu rhagorol, a bod yn hyblyg ac yn barod i addasu eich ffordd o weithio. Rhaid i chi allu gweithio ar eich menter eich hun, gan amlygu doethineb a diplomyddiaeth lle bo hynny'n briodol, ynghyd â meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol.
Mae profiad o Microsoft Word, Excel, PowerPoint ac e-bost, ynghyd â sgiliau ysgrifenyddol profedig a phrofiad blaenorol o derminoleg feddygol, yn hanfodol. Bydd gofyn i chi ddefnyddio system cronfa ddata cleifion y Bwrdd Iechyd a phecynnau TG perthnasol eraill.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).
5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.
Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:
48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadau ar 03/06/2025.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster Lefel 3 (e.e. Safon Uwch, Safon UG, NVQ3) neu brofiad cyfatebol amlwg o sgiliau a gwybodaeth gweinyddol/swyddfa
- Profiad o amrediad llawn o ddyletswyddau o ran gweithio mewn amgylchedd gweinyddol/swyddfa
- Gwybodaeth am Derminoleg Feddygol/Gofal Iechyd
Meini prawf dymunol
- Hyfforddiant ysgrifenyddol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio mewn amgylchedd gweinyddol/swyddfa
- Yn gyfarwydd â phecynnau TG Microsoft, yn enwedig Word, Excel a PowerPoint, ac yn gymwys i'w defnyddio
- Profiad o sefydlu taenlenni a chronfeydd data
- Yn gyfarwydd â defnyddio system e-bost a chwilio'r Rhyngrwyd, ac yn hyderus wrth wneud hynny
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio mewn tîm amlddisgyblaeth
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Caryl Harris
- Teitl y swydd
- Pathology Administrative Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01267227521
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau gwyddor iechyd neu bob sector