Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Medical Day Unit
Gradd
Gradd 5
Contract
Parhaol
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
Cyfeirnod y swydd
100-NMR265-0825
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Bronglais
Tref
Aberystwyth
Cyflog
£31,516 - £38,364 y flwyddyn (pro rata os rhan amser)
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
11/09/2025 23:59
Dyddiad y cyfweliad
19/09/2025

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Nyrs Gofrestredig

Gradd 5

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael i Nyrs Gofrestredig weithio yn yr Uned Ddydd Feddygol yn Ysbyty Cyffredinol Bronglais.

Uned dan arweiniad nyrsys yw'r Uned Ddydd Feddygol sy'n arbenigo mewn triniaethau a gweithdrefnau y gellir eu cwblhau ar ffurf achosion dydd. Rydym yn gweithio ochr yn ochr â'r gymuned ac ysbytai eraill yn yr ymddiriedolaeth i sicrhau bod cleifion yn cael eu trin yn agos at eu cartrefi ac yn osgoi derbyniadau diangen i'r ysbyty.

O fod yn rhan o'r tîm, byddwch yn rhannu'r un safonau uchel ac angerdd, gan ddarparu gofal rhagweithiol a thosturiol a gweithio ar y cyd ag adrannau eraill i sicrhau bod cleifion yn cael eu trin yn brydlon ac yn briodol.

Bydd cyfle gan yr ymgeisydd llwyddiannus i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth mewn tasgau sy'n gysylltiedig â'i rôl, a bydd yn cael ei annog i ddefnyddio ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth i wella ei sgiliau ymhellach.

Mae oriau llawn-amser a rhan-amser ar gael.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Mae prif ddyletswyddau'r swydd yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):

Derbyn, asesu a gweithredu cynllun gofal ar gyfer cleifion sy'n mynd i'r uned. Fel uned dan arweiniad nyrsys, disgwylir i ni asesu addasrwydd claf i gael triniaeth, cwblhau gwiriadau cyn triniaethau a thynnu sylw at unrhyw wrtharwyddion i driniaeth os oes angen.

· Ymgymryd â thasgau megis gosod canwlâu, tynnu gwaed a chathetreiddio (clinig TWOC). Hyfforddiant ar gael yn ôl yr angen.

· Rheoli meddyginiaeth gan gynnwys eu paratoi a'u rhoi.

· Rheoli trallwysiadau gwaed, imiwnotherapi a thriniaethau biolegol, gan ddeall yr adweithiau niweidiol sy'n gysylltiedig â'r triniaethau hyn.

· Adnabod sefyllfaoedd brys megis anaffylacsis, sepsis, a'u rheoli'n briodol.
· Goruchwylio gweithwyr cymorth gofal iechyd, myfyrwyr a meddygon iau a mynd ati i gymryd rhan yn eu haddysg a'u datblygiad parhaus.

· Cynorthwyo a chynnal amgylchedd gwaith diogel.

· Gweithio ar y cyd yn yr ysbyty a'r ymddiriedolaeth i sicrhau proses atgyfeirio hwylus sy'n caniatáu i gleifion gael eu trin yn eu hardal leol.

· Cynnal dogfennaeth gywir a chlir sy'n ymwneud â derbyniadau cleifion.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saeneg wneud cais. 

Cyfweliadau i'w cynnal ar 19/09/2025

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Cofrestriad Cyfredol gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
Meini prawf dymunol
  • Gradd mewn Nyrsio
  • Tystiolaeth o astudiaeth a hyfforddiant ôl-gofrestru, e.e. POVA
  • Tystiolaeth o astudiaeth a hyfforddiant ôl-gofrestru, e.e. Amddiffyn Plant
  • Triniaeth Cynnal Bywyd Ganolradd os yw'n ofynnol mewn lleoliad clinigol

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Tystiolaeth cyn-gofrestru o ofal nyrsio uniongyrchol
  • Profiad o ddarparu gofal nyrsio holistaidd
  • Diddordeb mewn meithrin sgiliau nyrsio
Meini prawf dymunol
  • Dealltwriaeth glir o'r fframwaith llywodraethu clinigol
  • Rhoi arfer seiliedig ar dystiolaeth ar waith

Sgiliau iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Lara Richards
Teitl y swydd
Senior sister
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01970 613808
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg