Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Iechyd Meddwl
Gradd
Gradd 3
Contract
12 mis (Mae hon yn swydd cyfnod penodol/secondiad am 12 mis tan 31/10/2026 oherwydd gofynion y gwasanaeth)
Oriau
Rhan-amser - 30 awr yr wythnos (Shifftiau dros 7 diwrnod)
Cyfeirnod y swydd
100-ACS123-0825
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Canolfan Adnoddau Gorwelion
Tref
Aberystwyth
Cyflog
£25,313 - £26,999 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
14/09/2025 23:59
Dyddiad y cyfweliad
23/09/2025

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Gweithiwr Cymorth y Ganolfan Iechyd Meddwl Gymunedol

Gradd 3

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Mae hon yn swydd cyfnod penodol/secondiad am 12 mis tan 31/10/2026 oherwydd gofynion y gwasanaeth.

Os ydych yn gyflogai i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn gwneud cais am secondiad i'r swydd hon, bydd angen i'ch rheolwr presennol gytuno i'r secondiad cyn i chi gyflwyno eich cais.

Rydym yn chwilio am gyflogi Gweithiwr Cefnogi Gofal Iechyd i ymuno â'n tîm Datrys Argyfwng a Chymorth Cartref. Rydym yn dîm iechyd meddwl cymunedol sy'n sefydledig iawn.

Mae'r tîm iechyd meddwl cymunedol yn gweithio gyda phobl sy'n profi anawsterau iechyd meddwl cymedrol i ddifrifol. Mae'r rôl yn cynnwys cynnal asesiadau cynhwysfawr o anghenion a chefnogi pobl ar eu taith tuag at adferiad yn dilyn anawsterau iechyd meddwl.

Rôl y gweithiwr cymorth yw bod yn rhan o/ategu’r tîm amlddisgyblaethol iechyd meddwl cymunedol wrth ddarparu ymyriadau a chymorth i hybu adferiad pobl sy’n profi anawsterau iechyd meddwl.

Mae rôl y gweithiwr cymorth yn y tîm iechyd meddwl cymunedol yn amrywiol, ac mae yna gyfleoedd i staff ddatblygu sgiliau o ran cefnogi ymyriadau therapiwtig, gan weithio dan oruchwyliaeth tîm o uwch-ymarferwyr iechyd meddwl profiadol. Mae'r tîm yn cynnwys nifer o weithwyr cymorth profiadol iawn y bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn 
gweithio ochr yn ochr â nhw.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Cefnogi uwch-ymarferwyr iechyd meddwl i ddarparu gofal ymatebol ac effeithiol yn ystod asesiadau a thriniaethau i lwyth achosion dynodedig o unigolion sy’n profi anawsterau iechyd meddwl cymedrol i ddifrifol.

Gweithio mewn modd tosturiol ac anfeirniadol gydag unigolion yn eu cartrefi eu hunain, yn y gymuned ac mewn lleoliadau iechyd.

Cofnodi cysylltiadau ag unigolion yn gywir ac yn amserol mewn nodiadau clinigol. Cefnogi'r uwch-ymarferydd i gwblhau'r holl dasgau gweinyddol angenrheidiol.

Croesewir ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n frwd dros gefnogi pobl sy’n profi anawsterau iechyd meddwl cymedrol i ddifrifol mewn modd tosturiol a holistaidd.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.

Cynhelir y cyfweliadau ar 23/09/2025.

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd 
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Cymhwyster Lefel 3 mewn pwnc sy'n gysylltiedig â gofal iechyd neu brofiad cyfatebol, ac yn gallu dangos tystiolaeth o gymhwysedd seiliedig ar waith sy'n amlygu gwybodaeth ddamcaniaethol, ynghyd â'r gallu i ymgymryd â dyletswyddau gofal clinigol sy'n berthnasol i'r rôl ac a ddatblygwyd trwy brofiad a hyfforddiant/ chyrsiau byr seiliedig ar waith
  • Gwybodaeth am y Cod Ymddygiad ar gyfer Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd yng Nghymru a Chanllawiau Cymru Gyfan ar gyfer Dirprwyo (AaGIC)
  • Gwybodaeth am bolisïau a gweithdrefnau perthnasol mewn lleoliadau gofal iechyd, megis egwyddorion diogelu oedolion/plant i gadw cleifion yn eu gofal yn ddiogel, a chyfrinachedd, er enghraifft y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR)
  • Y gallu i gwblhau hyfforddiant ymyriad corfforol ardystiedig/achrededig, er enghraifft Atal a Rheoli Trais ac Ymddygiad Ymosodol (PMVA) yn ystod y cyfnod sefydlu

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad clinigol diweddar o weithio mewn amgylchedd gofal iechyd neu ofal cymdeithasol perthnasol, darparu gofal cleifion uniongyrchol
Meini prawf dymunol
  • Profiad o weithio gyda grwpiau cleifion perthnasol i'r ardal ymarfer
  • Profiad o weithio yn y GIG

Sgilliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Cathryn Morgan
Teitl y swydd
Crisis Resolution and Home Treatment Team Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01970 615448
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg