Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Offthalmoleg
- Gradd
- Gradd 7
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Rhannu swydd
- Cyfeirnod y swydd
- 100-NMR311-1026-A
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Clinig Llygaid Ffordd y Gogledd
- Tref
- Aberystwyth
- Cyflog
- £50,129 - £57,365 y flwyddyn (pro rata os yn rhan amser)
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 02/12/2026 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 10/12/2026
Teitl cyflogwr
Uwch-brif Nyrs (Offthalmoleg)
Gradd 7
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn chwilio am arweinydd nyrsio profiadol a llawn cymhelliant i ymuno â Chlinig Llygaid Ffordd y Gogledd, Aberystwyth, fel Uwch-brif Nyrs. Mae hwn yn gyfle gwych i arwain tîm ymroddedig mewn gwasanaeth offthalmoleg prysur sy’n datblygu, gan ddarparu gofal o ansawdd uchel, sy’n canolbwyntio ar y claf wrth gefnogi twf a datblygiad parhaus yr adran.
Mae Clinig Llygaid Ffordd y Gogledd yn darparu amgylchedd gwaith amrywiol a gwerth chweil, gan gynnig ystod o wasanaethau offthalmoleg sy’n cynnwys clinigau cleifion allanol, triniaethau laser a chlinigau pigiadau i’r hylif gwydrog. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn chwarae rôl allweddol wrth arwain a datblygu’r gweithlu nyrsio, gan ddarparu arweinyddiaeth broffesiynol, arweiniad clinigol arbenigol a goruchwyliaeth weithredol i sicrhau’r safonau gofal uchaf. Byddai profiad offthalmoleg yn fanteisiol, ond mae cyfleoedd hyfforddi a datblygu ar gael i’r ymgeisydd cywir.
Mae’r rôl hefyd yn cynnwys cefnogi gweithgarwch ar draws nifer o safleoedd, gan gynnig amrywiaeth a phrofiad o’r gwasanaeth ehangach. A chithau’n gweithio yn Aberystwyth, byddwch yn elwa ar ansawdd bywyd eithriadol yn un o drefi arfordirol mwyaf prydferth Cymru, sy’n cyfuno traethau hardd, cefn gwlad trawiadol, cymuned fywiog a chydbwysedd rhagorol rhwng bywyd a gwaith.
A chithau’n Uwch-brif Nyrs, byddwch yn atebol am reolaeth effeithiol yr adran, gan arwain a datblygu’r tîm nyrsio i ddarparu gofal tosturiol, diogel ac effeithiol. Byddwch yn darparu arweinyddiaeth weladwy, cefnogaeth broffesiynol a chyngor clinigol arbenigol, gan sicrhau bod gwasanaethau yn cael eu darparu yn unol â safonau proffesiynol, gofynion statudol a pholisïau’r Bwrdd Iechyd.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Dylai hyn gynnwys:
· Arwain, cefnogi a datblygu’r tîm nyrsio i ddarparu gofal o ansawdd uchel, diogel a thosturiol sy’n canolbwyntio ar y claf.
· Rheoli gweithrediad y gwasanaeth o ddydd i ddydd, gan sicrhau lefelau staffio, cymysgedd sgiliau a chynlluniau gweithlu effeithiol.
· Darparu arweinyddiaeth glinigol weladwy, arweiniad proffesiynol a chyngor arbenigol i gyd-weithwyr nyrsio ac amlddisgyblaethol.
· Monitro a chynnal safonau gofal, hyrwyddo arferion seiliedig ar dystiolaeth a sbarduno gwelliannau ansawdd parhaus.
· Arwain mentrau datblygu gwasanaethau, archwiliadau, ymchwiliadau, a rheoli cwynion a digwyddiadau, i wella profiad a chanlyniadau cleifion.
· Rheoli adnoddau, offer a chyllidebau adrannol yn effeithiol, gan sicrhau gwerth am arian a defnydd effeithlon o adnoddau.
· Cefnogi gofynion staff o ran llesiant, recriwtio, arfarnu, datblygiad proffesiynol ac ailddilysu gyda’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.
· Meithrin diwylliant dysgu cadarnhaol, gan gefnogi addysg, mentora, ymchwil a datblygu rhagoriaeth glinigol.
· Cydweithio â thimau amlddisgyblaethol a phartneriaid allanol i sicrhau gofal diogel, effeithiol a di-dor i gleifion.
· Cyfrannu at berfformiad y gwasanaeth, gwella ansawdd ac amcanion strategol ar draws y gwasanaeth Offthalmoleg.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol;
- 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Bydd angen i ddeiliad y swydd amlygu gwerthoedd y Bwrdd Iechyd, sef urddas, parch, tegwch, uniondeb, gonestrwydd, didwylledd a natur ofalgar, caredigrwydd a thosturi, a hynny ym mhopeth a wnewch yn yr amgylchedd gwaith, yn ogystal â sicrhau bod eraill yn amlygu'r un gwerthoedd.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.
Cyfweliadau i'w cynnal ar 10/12/2026
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Nyrs Gofrestredig (Rhan 1)
- Cofrestriad presennol gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
- Gradd Baglor (neu brofiad cyfatebol)
- Diploma ol-raddedig perthnasol (neu ddatblygiad/brofiad cyfatebol YNGHYD a pharodrwydd i ymgymryd a gwaith astudio priodol ar lefel ol-raddedig pan fyddwch yn y swydd)
- IQT Efydd
- Cymhwyster addysgu/hyfforddi (neu brofiad cyfatebol)
- Gwybodaeth am ddeddfwriaeth sy'n berthnasol i'r rol
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster rheoli cydnabyddedig
- Cymhwyster arweinyddiaeth cydnabyddedig
- Profiad o arwain tim
- Gradd meistr mewn pwnc perthnasol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad amlwg a pherthnasol ar lefel Band 6
- Profiad priodol o fewn arbenigedd ac yn gallu dangos gwybodaeth gadarn o arbenigedd perthnasol
- Gallu dangos gwybodaeth gadarn o God yr NMC (2018)
- Profiad ôl-gofrestru profedig a thystiolaeth o gydlynu a rheoli tîm o staff.
- Gallu dangos ymwybyddiaeth o faterion a datblygiadau proffesiynol.
- Tystiolaeth o sgiliau arwain
- Profiad o weithio mewn amgylchedd aml-broffesiynol
- Profiad o reoli cyllideb
- Profiad o reoli staff yn effeithiol
- Profiad o redeg ward/ardal/adran
- Profiad o fentora myfyrwyr nyrsio/bydwreigiaeth cyn cofrestru
- Sgiliau TG
- Gallu cysylltu theori ag ymarfer trwy sgiliau myfyriol
- Gwybodaeth dda o ofynion llywodraethu gwybodaeth/diogelu data
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio mewn rol Band 7
- Dealltwriaeth o brosesau ariannol a rheoli adnoddau
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siarad Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Marta Barreiro Martins
- Teitl y swydd
- Senior Nurse Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07815 022127
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Nyrsio a Bydwreigiaeth neu bob sector





