Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Pediatreg
- Gradd
- Gwasanaethau Meddygol a Deintyddol y GIG: Meddyg Arbenigol
- Contract
- Parhaol: Tymor Penodol
- Oriau
- Llawnamser - 10 sesiwn yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 100-MED-BGH-165
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Bronglais,
- Tref
- Aberystwyth,
- Cyflog
- £64,292 - £102,689 y flwyddyn
- Yn cau
- 18/10/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Meddyg Arbenigol ym maes Pediatreg
Gwasanaethau Meddygol a Deintyddol y GIG: Meddyg Arbenigol
Trosolwg o'r swydd
Ymunwch â’r tîm pediatrig yn Ysbyty Bronglais a datblygu eich gyrfa wrth fyw a gweithio yn un o’r rhanbarthau arfordirol harddaf yng Nghymru.
Rydym yn chwilio am Feddyg Arbenigol ymroddedig mewn Pediatreg i ymuno â’r tîm yn Ysbyty Bronglais. Mae’r swydd barhaol hon yn cynnig cyfle i weithio ar lefel gradd ganol o fewn gwasanaeth pediatrig cefnogol a sefydledig, gan ofalu am blant a phobl ifanc ledled Ceredigion a’r Canolbarth.
Byddwch yn ymuno â rota ochr yn ochr â hyfforddeion pediatrig a Meddygon Arbenigol profiadol, gan gyfrannu at amgylchedd tîm cydweithredol a chyfeillgar. Mae’r rôl yn cynnwys cyfleoedd i arwain gofal ar wardiau, magu profiad clinigol eang, a datblygu diddordeb arbennig trwy amser clinig pwrpasol, absenoldeb astudio, a goruchwyliaeth addysgol.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cynnig y cyfle i adeiladu eich gyrfa wrth fwynhau ansawdd bywyd rhagorol yng Ngorllewin Cymru. A chithau’n gweithio yn Aberystwyth, byddwch yn elwa ar dref arfordirol fywiog, ymdeimlad cryf o gymuned, a rhai o ardaloedd arfordirol a chefn gwlad mwyaf ysblennydd y DU o fewn cyrraedd hawdd. Mae’r ardal yn cynnig ffordd o fyw sy’n cyfuno byw yn yr awyr agored, atyniadau diwylliannol, ac amseroedd cymudo byrrach, gan ei gwneud yn lle deniadol i fyw a gweithio.
Byddwch yn gweithio o fewn sefydliad cefnogol sy’n gwerthfawrogi gwaith tîm, lles staff, a datblygiad proffesiynol. Mae cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant, addysgu a dilyniant gyrfa yn cael eu hannog yn weithredol, gan eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau mewn lleoliad clinigol amrywiol a gwerth chweil.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Byddwch yn elwa ar amodau gwaith cefnogol wrth ddatblygu eich gyrfa mewn gwasanaeth pediatrig sy’n gadarn ei strwythur.
Mae’r Gyfarwyddiaeth Iechyd Menywod a Phlant yn darparu gofal i blant, pobl ifanc a menywod ledled Hywel Dda. Cefnogir y gwasanaeth pediatrig gan uwch dîm nyrsio profiadol ac mae’n canolbwyntio ar ddarparu gofal integredig o safon.
Yn ysbyty allweddol sy’n gwasanaethu poblogaeth Ceredigion a’r Canolbarth, mae Bronglais yn darparu ystod eang o wasanaethau pediatrig cyffredinol mewn amgylchedd clinigol agos-atoch a chefnogol. Byddwch yn gweithio’n rhan o dîm amlddisgyblaethol sy’n darparu gofal diogel ac effeithiol wrth gefnogi hyfforddiant a datblygiad gwasanaethau.
Cynlluniwyd y gwasanaeth pediatrig ehangach ar draws Hywel Dda i ddiwallu anghenion y boblogaeth leol, a phediatreg acíwt yn cael ei darparu ar draws safleoedd ysbytai cyffredinol dosbarth ac Uned Gofal Arbennig Babanod (SCBU) ganolog, sy’n rheoli tua 250 o dderbyniadau y flwyddyn. Cefnogir gofal dwys newyddenedigol gan wasanaeth trafnidiaeth rhanbarthol.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
-
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlfford
-
Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
-
Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
-
47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartre
-
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cofrestriad GMC llawn a thrwydded i ymarfer.
- Sgiliau Cynnal Bywyd Uwch Ardystiedig a Dilys
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster(au) clinigol ychwanegol.
- Tystiolaeth o weithio tuag at aelodaeth o'r Coleg Brenhinol.
Llywodraethu Clinigol
Meini prawf hanfodol
- Cymryd rhan mewn archwiliad clinigol (neu brosiect gwella ansawdd) a deall rôl archwilio wrth wella ymarfer meddygol
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth am reoli risg.
- Gwybodaeth am y broses flynyddol o adolygu cynllunio/arfarnu swyddi
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Rhaid bod wedi cwblhau o leiaf bedair blynedd o hyfforddiant ôl-raddedig llawn-amser (neu'r hyn sy'n cyfateb i'w ennill ar sail rhan-amser neu hyblyg), a bydd o leiaf dwy ohonynt mewn rhaglen hyfforddi arbenigedd mewn arbenigedd perthnasol neu fel hyfforddai arbenigedd cyfnod penodol mewn arbenigedd perthnasol; neu brofiad a chymwyseddau cyfatebol.
- Yn gallu dangos cymwyseddau craidd a sgiliau clinigol sy'n berthnasol i'r swydd.
- Profiad yn y GIG.
Meini prawf dymunol
- Gallu dangos tystiolaeth o arwain tîm.
Addysgu
Meini prawf hanfodol
- Parodrwydd i addysgu pob gradd o staff amlddisgyblaethol proffesiynol.
Meini prawf dymunol
- Tystiolaeth o drefnu rhaglenni ac addysgu myfyrwyr meddygol a meddygon preswyl.
Arall
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i deithio rhwng safleoedd mewn modd amserol
- Ymagwedd hyblyg at anghenion y gwasanaeth
Meini prawf dymunol
- Siarad Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Lynwen Williams
- Teitl y swydd
- Service Delivery Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Meddygol a Deintyddol neu bob sector





