Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Ffisiotherapi
Gradd
Gradd 3
Contract
10 mis (Mae'r swydd hon yn swydd Cyfnod Penodol / Secondiad tan 01/10/2027. i gwmpasu absenoldeb mamolaeth)
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
100-ACS229-1026
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Bronglais
Tref
Aberystwyth
Cyflog
£26,813 - £27,890 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
22/10/2026 23:59
Dyddiad y cyfweliad
02/11/2026

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Gweithiwr Cymorth Ffisiotherapi

Gradd 3

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Os oes diddordeb gyda chi mewn ceisio am swydd secondiad, mae’n rhaid i chi gael caniatad eich rheolwr llinell presennol cyn i chi geisio am y swydd hon.  

Mae'r swydd hon yn swydd Cyfnod Penodol / Secondiad tan 01/10/2027.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIPHDd) yn awyddus i recriwtio unigolyn brwdfrydig i ymuno â’n tîm adsefydlu strôc Ffisiotherapi yng Ngheredigion sy’n gweithio yn Ysbyty Cyffredinol Bronglais, Aberystwyth.

Bydd y swydd yn cynnwys gweithio ochr yn ochr â Ffisiotherapyddion ac ymgymryd â thasgau dirprwyedig i gyflwyno rhaglenni ffisiotherapi gyda chleifion yn yr uned strôc. Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, llawn cymhelliant sydd â’r gallu i gymell cleifion ac ymgysylltu â nhw, cydweithio â thimau amlddisgyblaethol i ddarparu gofal cyfannol, yn ogystal â darparu cymorth gweinyddol i’r gwasanaeth.

Rydym yn wasanaeth sy’n esblygu, ac rydym yn bwriadu recriwtio pobl sy’n rhannu ein gwerthoedd craidd yn BIPHDd ac sy’n meddu ar ddiddordeb a sgiliau ym maes adsefydlu. 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd deiliad y swydd yn gweithio yn y gwasanaeth ffisiotherapi sy’n ymgymryd â rhaglenni asesu a thrin ar gyfer cleifion strôc. Bydd yn gweithio gyda’r tîm, ac ar ei ben ei hun dan arweiniad a chyfarwyddyd y staff cymwysedig. Bydd yn cynorthwyo gyda dyletswyddau clinigol a thasgau gweinyddol penodol, gan ddarparu gwasanaeth effeithlon, gofalgar sy’n canolbwyntio ar y claf.

Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd gymryd rhan yn y gwaith o ddarparu dull hyblyg o gyflawni gwasanaeth saith niwrnod, yn seiliedig ar angen y gwasanaeth.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.

Cynhelir y cyfweliadau ar 02/11/2026.

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio. 

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu. 

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr. 

Darperir ein gwasanaethau yn: 

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd  
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro 
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall 
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref 
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu 

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Rhifedd a llythrennedd hyd at o leiaf lefel TGAU neu gymhwyster cyfatebol
  • NVQ 3 a/neu ddysgu lefel 3 neu gymhwyster cyfatebol
  • Profiad a gwybodaeth ymarferol a ddatblygwyd trwy gyrsiau byr hyfforddiant mewnol
Meini prawf dymunol
  • ECDL
  • Cymhwyster proffesiynol, technegol neu academaidd sy’n berthnasol i ymarfer clinigol ac sy’n amlygu tystiolaeth o 60 credyd dysgu lefel 3

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o wasanaeth ffisiotherapi neu mewn maes gofal iechyd cysylltiedig
  • Sgiliau TG/bysellfwrdd
  • Profiad o weithio ar eich pen eich hun ac yn rhan o dîm
  • Parodrwydd i ymgymryd â hyfforddiant perthna
Meini prawf dymunol
  • Profiad clinigol ychwanegol neu brofiad ychwanegol ym maes gofal iechyd
  • Profiad o weithio gyda grwpiau o gleifion

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegDisability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Charlotte Evans
Teitl y swydd
Acute Clinical Lead Physiotherapist
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01970635960
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg