Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Podiatry/Orthotics
- Gradd
- Band 3
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 22.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 130-ACS140-0626
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Bronglais
- Tref
- Aberystwyth
- Cyflog
- £26,300 - £27,890 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 22/06/2026 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 29/06/2026
Teitl cyflogwr
Swyddog Orthoteg/Cynorthwyydd Podiatreg
Band 3
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Mae’r swydd hon ar gyfer Swyddog Orthoteg/Cynorthwyydd Podiatreg rhan-amser, parhaol.
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am redeg y swyddfa Podiatreg a Chyfarpar Llawfeddygol o ddydd i ddydd, yn ogystal â sicrhau bod tasgau gweinyddol yn cael eu cyflawni, a bod gwasanaeth o safon yn cael ei ddarparu.
Bydd y rôl hefyd yn cynnwys:
- Cynorthwyo podiatrydd goruchwyliol wrth ddarparu triniaeth podiatreg gymhleth a darparu cymorth gweinyddol lle bo angen.
- Bod yn gynorthwyydd clinigol mewn ymyriadau clinigol arbenigol, e.e. cynorthwyo gyda mân weithdrefnau llawfeddygol, clinigau gofal clwyfau, clinigau traed risg uchel, cynorthwyo’r podiatrydd i gyflawni gweithgareddau gofal traed a hybu iechyd.
- Asesu ac arsylwi ar gleifion mewn clinigau arbenigol.
- Cysylltu ag adrannau, gan gynnwys Caffael a Chyllid, i sicrhau bod pob ymholiad/cais yn cael ei drin mewn modd amserol, e.e. bydd rôl swyddog Orthoteg yn golygu meddu ar wybodaeth gynhwysfawr am gontractau Cyfarpar Llawfeddygol Cymru Gyfan.
- Codi archebion ar Oracle, olrhain cynhyrchion pwrpasol trwy'r broses weithgynhyrchu, sicrhau bod holl ddangosyddion perfformiad allweddol Cymru yn cael eu bodloni a bod y cynhyrchion yn cyrraedd, a bod anfonebau yn briodol ac yn cael eu talu.
- Cymryd ac ymdrin i ddechrau ag ymholiadau a chwynion dros y ffôn ac yn ysgrifenedig. Delio â materion brys mewn modd priodol, gan sicrhau bod gweithdrefnau’r Adran yn cael eu dilyn er mwyn cofnodi/mynd ar drywydd materion yn ôl yr angen.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Cefnogi anghenion gweinyddol y Gwasanaeth Podiatreg ac Orthoteg, gan gynnwys defnyddio system gaffael Oracle a gweinyddu anfonebau orthotig.
Darparu gofal traed sylfaenol i gleifion yr Adran Podiatreg dan gyfarwyddyd y Podiatryddion, a chefnogi'r broses o ddarparu pob agwedd ar y gwasanaethau Podiatreg.
Cyfrifoldeb am drefnu ac aildrefnu apwyntiadau ar gyfer yr adran Cyfarpar Llawfeddygol/Orthotig a’r gwasanaeth Podiatreg yn ôl y gofyn.
• Trefnu apwyntiadau cleifion gan gynnwys cludiant yr Ysbyty os yw hynny'n berthnasol.
• Sicrhau bod pob clinig yn llawn.
• Sicrhau bod pob cais newydd yn cael ei brosesu'n briodol.
• Gweithredu'r newidiadau angenrheidiol i'r rhaglen glinigol pan roddir gwybod am salwch/absenoldeb staff clinigol.
• Rhoi gwybod i gleifion am glinigau sydd wedi'u canslo a sicrhau bod apwyntiadau'r cleifion hyn yn cael eu haildrefnu cyn gynted â phosibl.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saeneg wneud cais.
Cyfweliadau i'w cynnal ar 29/06/2026
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Lefel II neu brofiad amlwg cyfatebol o sgiliau a gwybodaeth weinyddol/swyddfa
- Bwriad i gyflawni cymhwyster Agored lefel 3 neu'n meddu ar brofiad cyfatebol
- Yn fodlon ymgymryd â rhaglenni hyfforddi mewnol ar gyfer cynorthwywyr Podiatreg
- Gwybodaeth ymarferol am raglenni Microsoft Office gan gynnwys taenlenni a chronfeydd data
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio gyda chleientiaid yn unigol
- Profiad sylweddol o weithio mewn swyddfa brysur
- Sgiliau prosesu geiriau/taenlenni ardderchog
Meini prawf dymunol
- Profiad mewn lleoliad gofal iechyd
- Profiad helaeth o ddelio â'r cyhoedd, yn enwedig yr henoed, naill ai dros y ffôn neu wyneb yn wyneb
Sgiliau iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Mike Mulroy
- Teitl y swydd
- Head of Podiatry/Orthotics
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07811348077
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Proffesiynau Perthynol i Iechyd neu bob sector





